Gofod Ffydd Y Brifysgol
Cwestiynau a holir yn aml am Gofod Ffydd
Eich diogelwch
Rhaid defnyddio’r system rhagarchebu i gael lle yn Ystafell Iris de Freitas.
- Dylech ymweld â’r gofod ffydd yn ystod eich slot amser yn unig
- Dim ond defnyddwyr sydd wedi rhagarchebu ddylai ddod i’r gofod fyfdd
- Peidiwch â dod i’r gofod ffydd cyn yr amser penodedig. Bydd pobl eraill yn gadael yr adeilad cyn yr amser hwn.
- Dylai pob defnyddiwr gydymffurfio â’r rheol 2 fedr pellter cymdeithasol
- Dylai pob defnyddiwr ddefnyddio ei Gerdyn Aber i gael mynediad i’r gofod ffydd
- Mae nifer y defnyddwyr yn y Gofod Ffydd ar unrhyw un adeg yw un
- Peidiwch â dod i Ystafell Iris de Freitas os ydych yn sal. Prif symptomau COVID-19 yw:
- Peswch newydd parhaus
- Tymheredd uchel
- Newid neu golled i’ch gallu i flasu ac arogli arferol (anosmia)
- Rhaid gwisgo gorchudd wyneb ym mhob un o adeiladau'r Brifysgol
- Ni ddylid cyflawni defodau golchi/pureiddio yn y gofod ffydd
- Ni chaniateir canu, llafarganu, gweiddi na cherddoriaeth yn y gofod
- Ni cheir gosod unrhyw destunau na gwrthrychau crefyddol yn y gofod. Dewch â'ch testunau a'ch gwrthrychau crefyddol eich hunan
Ymhle mae’r Gofod Ffydd?
Mae gan y Brifysgol ddau ofod wedi’u neilltuo i ffydd a myfyrdod tawel. Ar Gampws Penglais mae’r gofod yng Nghanolfan y Celfyddydau nesaf at Gaffi’r Piazza. Mae’r drws y tu allan i’r adeilad, ar yr ochr sy’n wynebu adeilad Undeb y Myfyrwyr.
Ar Gampws Llanbadarn mae’r gofod ar ben y grisiau yn adeilad Blas Padarn.
Pwy sy’n cael defnyddio’r Gofod Ffydd?
Mae’r gofod ffydd ar gael i holl aelodau’r staff, myfyrwyr cofrestredig a chymdeithasau ffydd a gydnabyddir gan Undeb y Myfyrwyr.
A ellir defnyddio’r gofod unrhyw bryd?
Mae'r gofod ffydd ar agor drwy gydol yr wythnos (Llun-Gwener) rhwng 8yb a 6yh tra bod cyfyngiadau COVID-19 ar waith.
Sut mae cael mynediad i’r Gofod Ffydd?
I gael mynediad i'r gofod ffydd rhwng 8yb a 6yh bydd angen i chi defnyddio eich cerdyn Aber ar glo SALTO ar ol i chi archebu slot drwy BookASlot.
A oes rheolau penodol ar gyfer defnyddio’r gofod?
Er mwyn sicrhau bod unigolion a grwpiau o bob ffydd yn cael eu parchu bydd “Rheolau’r Ystafell” yn cael eu dangos yn amlwg yn y gofod ffydd ar y ddau gampws. Ar ben hynny, bydd angen i unigolion neu gymdeithasau ffydd sy’n dymuno llogi’r ystafell ar gyfer gweithgareddau ffydd gwblhau cytundeb cyn y gellir derbyn yr archeb. Bydd y cytundeb yn amlinellu oblygiadau’r unigolion/grwpiau hynny.
Pwy sydd ‘biau’r’ gofod?
Cymuned y Brifysgol sydd biau’r gofod ond fe gaiff ei weinyddu gan y Staff Cydraddoldeb.