Rhaglen beilot mentora academyddion benywaidd

Beth yw'r rhaglen fentora i fenywod sy'n academyddion?

Cynllun ar gyfer academyddion sy'n fenywod yw'r rhaglen fentora hon, i roi sylw a cheisio datrys y ffaith nad yw dynion a menywod yn cael eu cynrychioli'n gyfartal mewn swyddi academaidd uwch.  Bydd yn cynorthwyo i feithrin arweinyddiaeth ymhlith menywod a datblygu eu gyrfaoedd academaidd. Bydd y staff sy'n cael eu mentora yn cael eu rhoi o dan aden mentor o blith cydweithwyr mwy profiadol. Gall y mentoriaid roi anogaeth, cefnogaeth a chyngor i gynorthwyo'r aelodau staff i weld yr hyn sydd ganddynt i'w gynnig a chyflawni eu huchelgais gyrfaol. Ar yr ochr arall, bydd y mentoriaid yn cael bodlonrwydd o gynorthwyo cydweithwyr a chyfle i adfyfyrio ar eu gyrfaoedd eu hunain.

Pam y cafodd y cynllun peilot hwn ei gyflwyno?

Dros y flwyddyn a aeth heibio, buom yn gweithio ar Gynllun Strategol y Brifysgol ar Gydraddoldeb sy'n nodi ein hymrwymiad i feithrin cymuned waith gynhwysol, lle nad oes gwahaniaethu, aflonyddu nac erledigaeth, a lle mae pob aelod o staff yn cael eu cefnogi, yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, ac yn gallu cyflawni eu potensial.

Mae'r rhaglen beilot hon yn rhan o'n gweithredu strategol i geisio gwneud rhywbeth ynglŷn â'r ffaith nad oes digon o fenywod mewn swyddi academaidd uwch, ac i feithrin arweinyddiaeth ymhlith y menywod a datblygu eu gyrfaoedd. ­

 

Rydw i'n ddyn sy'n academydd.Pam na alla i gymryd rhan fel mentorai?

Gall dynion ymhlith y staff academaidd gymryd rhan yn y cynllun peilot trwy fod yn fentoriaid. Yn achos y peilot hwn rydym wedi dewis cynllun i fenywod yn unig am ei bod yn rhan o'n gweithredu strategol i geisio gwneud rhywbeth ynglŷn â chynrychiolaeth o blith dynion a menywod a chynnydd gyrfaoedd, ond yn y dyfodol bwriadwn ehangu'r rhaglen a'i hagor i fwy o staff gael eu mentora, heb ystyried eu rhyw, na'r math o gontract sydd ganddynt. Gweler hefyd y cwestiwn 'Pam y cafodd y cynllun peilot hwn ei gyflwyno?'

Pwy sy'n gymwys i gymryd rhan yn y cynllun?

Gall unrhyw fenyw o blith staff academaidd y Brifysgol wneud cais i gymryd rhan yn y cynllun fel mentoreion. Nid oes cyfyngiadau o safbwynt swyddogaeth neu lefel academaidd - gall gwahanol bobl ar wahanol gyfnodau o'u gyrfa academaidd elwa o'r mentora.  Mae ein diffiniad o 'fenywod' a 'benywaidd' yn un cynhwysol ac rydym yn croesawu menywod traws a phobl anneuaidd i gymryd rhan yn y peilot. 

Gall pob aelod o staff, waeth beth fo'u rhywedd neu eu math o gontract, gymryd rhan fel mentoriaid. Fodd bynnag, rydym yn gofyn bod mentoriaid ar radd 6 neu'n uwch i gyd-fynd â graddau ein mentoreion academaidd.

Rydw i'n gweithio yn un o'r gwasanaethau proffesiynol, a ydw i'n cael cymryd rhan yn y cynllun?

Dim ond menywod sy'n aelodau o staff academaidd y Brifysgol sy'n gymwys ar gyfer y cynllun peilot hwn fel mentoreion. Yn y dyfodol, ar ôl gallu gweithredu'r cynllun peilot yn llwyddiannus, gobeithiwn ehangu categorïau’r staff sy'n cael eu mentora i gynnwys mwy na staff academaidd.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng hyfforddi a mentora?

Mae hyfforddi yn canolbwyntio ar sgiliau a thargedau penodol, er y gall hefyd effeithio ar nodweddion personol unigolyn, er enghraifft rhyngweithio cymdeithasol neu hyder. Mae'r broses fel arfer yn para am gyfnod diffiniedig neu'n dod yn sail i ddull rheoli parhaus.

Dyma rai o nodweddion hyfforddi mewn sefydliadau:

  • Nid yw’n ddull cyfarwyddol o ddatblygu yn ei hanfod.
  • Mae'n canolbwyntio ar wella perfformiad a datblygu unigolyn.
  • Gellir cynnwys ffactorau personol ond ar berfformiad yn y gwaith y mae'r pwyslais.
  • Mae gan weithgarwch hyfforddi amcanion sefydliadol a phersonol.
  • Mae'n rhoi cyfle i bobl wneud gwell asesiad o'u cryfderau yn ogystal â'r meysydd sydd angen iddynt eu datblygu.
  • Mae'n weithgarwch sydd angen sgiliau, a dylid ei ddarparu gan bobl sydd wedi cymhwyso i wneud hynny. Gallant fod yn rheolwyr llinell neu eraill sydd wedi eu hyfforddi i hyfforddi.

Mae mentora yn y gweithle yn tueddu i ddisgrifio perthynas lle mae cydweithwyr mwy profiadol yn rhannu'r wybodaeth ehangach sydd ganddynt i gynorthwyo datblygiad aelodau staff llai profiadol. I wneud hyn mae angen sgiliau ymholi, gwrando, esbonio ac ail-fframio - sgiliau sydd hefyd yn gysylltiedig â hyfforddi.

Un gwahaniaeth allweddol yw bod perthynas fentora yn tueddu i bara cyfnod hwy na threfniadau hyfforddi. Wrth ystyried, er enghraifft, sefyllfa cynllunio olyniaeth, gallai cyfarwyddwr cyllid rhanbarthol gael ei fentora/mentora gan aelod staff cyfatebol ar lefel grŵp dros gyfnod hir o amser, er mwyn datblygu agwedd gadarn tuag at ddelio â'r bwrdd, cyflwyno i ddadansoddwyr, a herio cyllidebau adrannol.

Mae perthynas fentora yn gweithio ar ei gorau os yw'n symud y tu hwnt i ddull cyfarwyddol lle mae'r cydweithiwr profiadol yn 'ei dweud hi fel y mae hi', i fod yn berthynas lle mae'r cydweithwyr yn dysgu y naill gan y llall. Mae perthynas fentora effeithiol yn gyfle dysgu i'r ddwy ochr, ac yn annog rhannu a dysgu ar draws cenedlaethau a/neu rhwng swyddogaethau.

Beth yw manteision bod yn fentor?

 Mae'r mentoriaid:

  • yn cael bodlonrwydd wrth gyfrannu at ddatblygiad cydweithiwr
  • yn cynyddu eu hunan-barch
  • yn ailennyn diddordeb yn y gwaith trwy gael cyfle i edrych ar eu cyflawniadau a'u sgiliau eu hunain
  • yn cael cyfle i roi prawf ar syniadau newydd
  • yn gwella'u gallu i rannu profiad a gwybodaeth

Beth yw manteision cael eich mentora?

Mae'r mentoriaid:

  • yn cael gwell dealltwriaeth o ddiwylliant a fframwaith y sefydliad
  • yn cynyddu eu hunan-hyder
  • yn ennill sgiliau a gwybodaeth
  • yn rhan o amgylchedd cefnogol lle gellir cloriannu llwyddiannau a methiannau
  • yn derbyn cefnogaeth a gwybodaeth angenrheidiol
  • fel unigolyn yn agored i'r posibilrwydd o fod yn fwy gweladwy a gweld ffocws eu gyrfa
  • yn cael sylw unigol gan gydweithwyr uwch profiadol

Ble caf i ragor o wybodaeth am y rhaglen?

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Ruth Fowler (ruf@aber.ac.uk)