Darlith Gyhoeddus - Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

'A Life in Fresh Water'

Kathleen Carpenter (1891-1970), ecolegydd dŵr croyw arloesol ym Mhrifysgol Aberystwyth

Prif siaradwr: Dr Catherine Duigan

Date:

Dydd Llun 7 Mawrth 2016

Schedule:

18.00 - Lluniaeth - 'Melin Drafod', Llawr B, Adeilad Llandinam

18.30 - Darlith Gyhoeddus - A6, Adeilad Llandinam

Venue: Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Adeilad Llandinam, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth, SY23 3DB

Darlith Gyhoeddus

Gwnaeth Kathleen Carpenter hanes biolegol yn ystod ei hoes, ond nid yw ei stori wedi cael ei hadrodd yn llawn tan nawr. Bydd y ddarlith hon yn anrhydeddu ei chyflawniadau gwyddonol, yn ystyried yr heriau y byddai’r fenyw eithriadol hon wedi gorfod eu hwynebu yn ystod ei gyrfa, ac yn ei chydnabod yn fodel rôl i wyddonwyr benywaidd ifanc heddiw.

Dr Kathleen Carpenter oedd mam ecoleg dŵr croyw yn y byd sy’n siarad Saesneg. Wedi iddi gwblhau ei hymchwil MSc a PhD arloesol ar ddŵr croyw ym Mhrifysgol Aberystwyth, ysgrifennodd y gwerslyfr cyntaf ar ecoleg dŵr croyw yn Saesneg - Life in Inland Waters (1928).  Mae ei gwaith a’i hysgrifau yn ysbrydoledig, yn cyfuno manylder gwyddonol ac ymroddiad â chariad amlwg iawn at amgylcheddau dŵr croyw a’u biota.

Daliodd swyddi ymchwil a dysgu mewn tair prifysgol yn UDA, gan gynnwys Coleg Radcliffe (yr Harvard benywaidd), cyn dychwelyd i gwblhau ei gyrfa ym Mhrifysgol Lerpwl. Gwnaeth Dr Carpenter nifer o gyfraniadau gwyddonol nodedig i faes ecoleg dŵr croyw, gan gynnwys disgrifio gwahanol gylchfâu naturiol mewn afonydd, adnabod addasiadau’r biota i ddŵr rhedegog a phwysigrwydd tymheredd, a chwblhau un o’r astudiaethau manwl cyntaf ar ddiet eogiaid ifanc. Dogfennodd bresenoldeb rhywogaethau rhewlifol creiriol ym Mhrydain ac eglurodd effeithiau difrifol dŵr gwastraff mwyngloddiau ar afonydd lleol yng Nghymru - ymchwil y mae staff yn Aberystwyth yn parhau i adeiladu arno hyd heddiw.

Mae’r ddarlith hon yn rhan o raglen o ddigwyddiadau i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Croeso i bawb.

Ar gyfer ymholiadau ynghylch y digwyddiad hwn, cysylltwch â: digwyddiadau@aber.ac.uk

Ynglŷn â’r siaradwr

Traddodir y ddarlith hon gan Dr Catherine Duigan ac fe’i lluniwyd ar y cyd â Dr Warren Kovach.

Dr Catherine Duigan and Dr Warren KovachGanwyd Dr Catherine Duigan yn Iwerddon a derbyniodd ei haddysg yng Ngholeg Prifysgol Dulyn lle y bu’n gweithio ar söoplancton yn llynnoedd Iwerddon ar gyfer ei thraethawd ymchwil PhD. Mae ei chefndir ymchwil rhyngwladol yn cynnwys gweithio yn UDA, Ffrainc ac Affrica. Bu’n ymchwilydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn Gymrawd Prifysgol Cymru yn ail-greu cyn amgylcheddau llynnoedd ym mynyddoedd Atlas Uchel, Moroco. Mae wedi gwasanaethu ar Gyngor y Gymdeithas Fiolegol Dŵr Croyw gan ddarparu cyngor i Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol. Ar hyn o bryd mae Catherine yn arwain grŵp o arbenigwyr technegol sy’n ymchwilio i amgylcheddau dyfrol a thirol yn Cyfoeth Naturiol Cymru ym Mangor.  Fel darlithydd er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor mae hi’n cyfrannu at fodiwlau dysgu ar ecoleg dŵr croyw. Mae hi hefyd yn Llysgennad STEM.

Ganwyd Dr Warren Kovach yn Cleveland, Ohio, UDA, ac fe’i addysgwyd yng Ngholeg Hiram, Ohio a Phrifysgol  Indiana, Bloomington, lle derbyniodd PhD mewn paleobotaneg a phaleoecoleg. Ar ôl hynny bu’n Gymrawd Ôl-ddoethurol NATO ym Mhrifysgol Aberdeen ac yn ymchwilydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn 1992 sefydlodd ‘Kovach Computing Services’ i farchnata’r feddalwedd ystadegol a ddatblygodd ar gyfer ei ymchwil ei hun, MVSP ac Oriana, yn ogystal â gwerthu meddalwedd arall a gwneud gwaith ymgynghorol ar ddadansoddi data.

Mae Catherine Duigan a Warren Kovach wedi cyhoeddi astudiaethau gwyddonol ar y cyd, gan gynnwys y dosbarthiad presennol ar lynnoedd y DU a ddefnyddir mewn asesiadau cadwraethol. Mae Catherine wedi cynhyrchu nifer o bapurau ar amgylcheddau dŵr croyw yng Nghymru, gan gynnwys ysgrifennu a chyd-olygu’r llyfr The Rivers of Wales. Mae Warren hefyd yn awdur hanes lleol. Mae wedi datblygu gwefannau a chyhoeddi llyfrau am hanes Ynys Môn a Phontydd Menai.