Timau Glanhau a Phorthora

Mae Timau Glanhau a Phorthora Prifysgol Aberystwyth yn gweithio yn Adeiladau Prifysgol Aberystwyth o ddydd Llun tan ddydd Gwener, heblaw am y cyfnodau pryd y mae’r Brifysgol ar gau. Mae’r timau’n darparu ystod o wasanaethau gan gynnwys;
- Glanhau gofodau cymunedol yn ddyddiol
- Glanhau swyddfeydd ar gais
- Glanhau carpedi a chlustogwaith celfi yn y mannau cymunedol ac ar gais
- Symud swyddfeydd bach
- Gwaredu cyfarpar TG, celfi a nwyddau gwynion
- Gwaith paratoi ar gyfer Arholiadau
- Mynd â pharseli a chyfarpar o gwmpas a rhwng campysau
- Paratoi mannau ar gyfer dysgu, cyfarfodydd a digwyddiadau
- Codi sbwriel o lwybrau troed a mannau hygyrch o gwmpas Campws Penglais
- Cadw’r mannau sy’n union y tu allan i adeiladau yn lân
- Gwacáu biniau y tu allan
- Rheoli Gwastraff
- Archebu allweddi canolog
- Tywydd Gwael - Gweithio mewn partneriaeth â'r rhai sy'n cynnal a chadw'r tir a darparwyr trydydd parti i raeanu'r llwybrau a'r mynedfeydd i adeiladau. Cael gwared ar eira oddi ar y llwybrau a'r mynedfeydd i adeiladau
- Symud / newid dodrefn
- Ymateb i argyfwng / glanhau
Cais am Gymorth a Chefnogaeth Glanhau neu Borthora
Os hoffech wneud cais am gymorth neu gefnogaeth gan ein timau, a fyddech cystal â llenwi’r ffurflen isod neu e-bostiwch eich cais i cyfleusterau@aber.ac.uk