Dogfennau Llywodraethu

Mae Prifysgol Aberystwyth, a sefydlwyd yn 1872, yn sefydliad siartredig a dyfarnwyd Siarter Frenhinol iddi am y tro cyntaf yn 1889, ac mae'n gweithredu yn unol â'i Siarter Frenhinol Atodol a diwygiwyd yn 2018. Mae'r Brifysgol hefyd yn elusen gofrestredig (rhif 1145141).

Mae’r Brifysgol yn cwrdd â'i goblygiadau drwy'r strwythur llywodraethiant canlynol:

  1. Mae’r Siarter yn diffinio amcanion, pwerau a swyddogion y Brifysgol, ac egwyddorion fel y gallu i ddysgu ac arholi.
  2. Mae’r Ystatudau yn cynnwys rheolau yn ymwneud â chyrff statudol, aelodau a swyddogion sefydliad y Brifysgol.
  3. Mae’r Ordinhadau yn ymwneud â’r modd y rheolir y Brifysgol yn ôl fframwaith cyffredinol y Siarter a’r Ystatudau.

Rhaid i unrhyw gynigion i ddiwygio’r Siarter ac Ystatudau gael eu cymeradwyo gan y Cyfrin Gyngor.

Ordinhadau

Caiff Ordinhadau Prifysgol Aberystwyth eu cymeradwyo gan y Cyngor ar sail argymhelliad gan Bwyllgor y Siarter.  Fe ymgynghorir â’r Senedd ynghylch newidiadau posib i Ordinhadau sy’n ymwneud â materion academaidd.

Gellir lawr-lwytho pob Ordinhad fel dogfen PDF unigol:

Ordinhad 01 - Aelodau'r Brifysgol

Ordinhad 02 - Y Canghellor a'r Dirprwy Gangellorion

Ordinhad 03 - Yr Is-Ganghellor

Ordinhad 04 - Yr Uwch Ddirprwy Is-Gangellorion a'r Dirprwy Is-Gangellorion

Ordinhad 05 - Y Cyngor: Datganiad o'r Prif Gyfrifoldebau

Ordinhad 06 - Y Cyngor: Cadeirydd y Cyngor a Dirprwy Gadeirydd y Cyngor

Ordinhad 07 - Y Cyngor: Clerc y Cyngor

Ordinhad 08 - Y Cyngor: Aelodaeth

Ordinhad 09 - Y Cyngor: Aelodaeth Annibynnol

Ordinhad 10 - Y Cyngor: Aelodau Cyfetholedig

Ordinhad 11 - Y Cyngor: Aelodau'r Senedd

Ordinhad 12 - Y Cyngor: Ethol Aelod o'r Staff Anacademaidd

Ordinhad 13 - Y Cyngor: Cworwm

Ordinhad 14 - Y Cyngor: Cadw a Defnyddio'r Sel Gyffredin

Ordinhad 15 - Y Senedd: Datganiad o'r Prif Gyfrifoldebau

Ordinhad 16 - Y Senedd: Aelodaeth

Ordinhad 17 - Y Senedd: Ethol Cynrychiolwyr Adrannol

Ordinhad 18 - Y Senedd: Ethol Cynrychiolwyr Anacademaidd

Ordinhad 19 - Y Llys

Ordinhad 20 - Penodi Cynrychiolwyr y Brifysgol i Gyrff Eraill

Ordinhad 21 - Unedau Academaidd

Ordinhad 22 - Penaethiaid y Cyfadrannau

Ordinhad 23 - Penodi a Dyrchafu Staff Academaidd

Ordinhad 24 - Penodi Staff er Anrhydedd a Staff Ymweld

Ordinhad 25 - Cyflwyno teitl Athro Emeritws, Darllenydd Emeritws, Uwch Ddarlithydd Emeritws

Ordinhad 26 - Ffurfiad y Myfyrwyr

Ordinhad 27 - Cymdeithasau Cydnabyddedig Cyn-fyfyrwyr y Brifysgol

Ordinhad 28 - Cyflwyno Hysbysiadau a Dogfennau

Ordinhad 29 - Yr Ymwelydd

Ordinhad 30 - Gweithdrefn Disgyblu Myfyrwyr

Ordinhad 31 - Gweithdrefnau Disgyblu a Chwyno sydd yn ymwneud a'r Is-Ganghellor

Ordinhad 32 - Gweithdrefn Ddisgyblu

Ordinhad 33 - Y Weithdrefn Gwyno

Ordinhad 34 - Polisi Osgoi Diswyddo

Ordinhad 35 - Polisi Rheoli Absenoldeb Salwch

Ordinhad 36 - Y Weithdrefn Gwyno ar y Cyd

Ordinhad 37 - Gweithdrefn Ddisgyblu yn ystod Cyfnod Prawf

Ordinhad 38 - Trefniadau Pontio