Rhodd Goffa Mrs Foster Watson 

Dyfernir Rhodd Goffa Mrs Foster Watson bob pum mlynedd i aelod o staff Prifysgol Aberystwyth am waith cyhoeddedig sydd yn ysgolheigaidd ac eto o ddiddordeb cyffredinol.

Ystyrier y llyfrau a gynigir gan banel o dri beirniad o fri, ac fe ddyfernir y wobr ar sail gwerth y llyfr fel cyfraniad i wybodaeth a’i ddiddordeb i’r darllenwr diwylliedig. 

Cynigir Rhodd Goffa Mrs Foster Watson gan y Senedd nesaf yn 2023 am lyfr a gyhoeddwyd ers 01 Medi 2018, yn unol â’r rheolau perthnasol

Cyhoeddir gwybodaeth ynghylch sut i wneud cais maes o law.

Dyfarnwyd y Rhodd Goffa yn y gorffennol i: 

2018

Dr Martin Crampin, Dysgu Gydol Oes

2013 

Yr Athro Iwan Rhys Morus, Hanes a Hanes Cymru 

2008 

Yr Athro Ken Booth, Gwleidyddiaeth Ryngwladol 
Dr T Robin Chapman, Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

2003 

Yr Athro Damian Walford Davies, Saesneg a Ysgrifennu Creadigol
Dr Nicholas Wheeler, Gwleidyddiaeth Ryngwladol