Ble mae'r cyfleusterau?

Adnoddau Ysgol y Graddedigion

Canolfan Uwchraddedig Penglais‌‌

Canolfan newydd i Uwchraddedigion yw hon sydd wedi’i lleoli yng nghanol Campws Penglais. Mae’r ganolfan ar lawr gwaelod adeilad Llandinam, drws nesaf i’r Adran Gyfrifiadureg. Mae’r adnodd rhagorol hwn yn cynnig ardaloedd astudio tawel (cynllun agored a chiwbiclau mwy preifat), cyfrifiaduron ac argraffydd canolog i uwchraddedigion, cloeriau at ddefnydd personol, ystafell seminarau gydag adnoddau arddangos gweledol, lolfa gymdeithasol a chegin.  (Mae cloeriau ar gael yng nghanolfan Penglais, rhaid talu blaendal i gael allwedd, cysylltwch â graduate.school@aber.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth).

 

Swyddfa Ysgol y Graddedigion

Mae Swyddfa Ysgol y Graddedigion ar lawr uchaf Adeilad Cledwyn, Campws Penglais.

Pennaeth Ysgol y Graddedigion Professor Reyer Zwiggelaar Room S9
Gweinyddwr Ysgol y Graddedigion Jan Davies Room S2
Prif Swyddfa Ysgol y Graddedigion Room S8