Ysgol y Graddedigion

Mae Ysgol y Graddedigion yn goruchwylio ac yn cefnogi datblygiad pellach graddedigion (ymchwil a thrwy gwrs) trwy ddarparu cyfleusterau ar gyfer uwchraddedigion, y Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr, y rhaglen datblygu gyrfaoedd, a’r rhaglen hyfforddi athrawon. Bydd Ysgol y Graddedigion yn cefnogi pob agwedd ar eich amser ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn gwella eich profiad fel myfyriwr uwchraddedig. Mae gan Ysgol y Graddedigion gysylltiadau cryf â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a’r rhaglen TUAAU.

 

Pam y dylech chi ei defnyddio!

Mae Ysgol y Graddedigion yn bodoli er mwyn cefnogi uwchraddedigion, ac i wella’r agwedd academaidd o’ch amser yn Aberystwyth. Os oes gennych bryderon am eich astudiaethau, holwch am gyngor a chefnogaeth gennym ni.