Cystadleuaeth i’r Gymuned Uwchraddedig

Mae Ysgol y Graddedigion yn gwahodd ceisiadau gan fyfyrwyr ymchwil am gyllid i gynorthwyo gweithgareddau a arweinir gan fyfyrwyr yn 2019-20. Gallai hyn gynnwys myfyrwyr (neu grwpiau o fyfyrwyr) yn trefnu gweithdai, cyrsiau, cynadleddau neu’n denu siaradwyr i ddigwyddiadau.

Hoffem annog yn benodol ddigwyddiadau arfaethedig yng Nghanolfan Uwchraddedig Penglais a/neu Ystafelloedd Uwchraddedig Llanbadarn.

Rydym yn cynnal dwy gystadleuaeth bob blwyddyn academaidd: ym mis Rhagfyr/Ionawr ac yn ystod y Gwanwyn/Haf gyda swm o £1,000 ar gael i gynorthwyo’r fenter/mentrau llwyddiannus.

Nid oes angen i geisiadau gan ymchwilwyr fod yn fwy nag un ochr o A4 a dylent gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • Disgrifiad byr o natur y gweithgaredd;
  • Dyddiad a lleoliad arfaethedig y gweithgaredd;
  • Costau’r gweithgaredd a’r cyfanswm sydd ei angen gan y Gystadleuaeth i’r Gymuned Uwchraddedig;
  • Y gynulleidfa/cyfranogwyr arfaethedig – yn benodol a allai’r gweithgaredd fod, neu a fyddai’r gweithgaredd, yn agored i fyfyrwyr ymchwil uwchraddedig o adrannau eraill.

Cyflwynwch eich ceisiadau i Dr Ian Archer, Swyddog Datblygu Sgiliau, Ysgol y Graddedigion, S8 Adeilad Cledwyn, e-bost: ina@aber.ac.uk erbyn y dyddiad cau canlynol:

  • 30 Ebrill 2021

Gofynnir i’r ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu adroddiad byr ar ôl i’r gweithgaredd gael ei gynnal.