Rhaglen Ymchwilwyr Aberystwyth
Mae’r Rhaglen Ymchwilwyr Aberystwyth yn cynnig ystod eang o gyrsiau hyfforddiant byr a gweithgareddau eraill a gynlluniwyd er mwyn cynorthwyo myfyrwyr i feithrin y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cwblhau eu gradd ymchwil yn llwyddiannus a hefyd i wella eu cyfle i gael swydd yn y dyfodol, boed hynny yn y byd academaidd neu yn y byd tu allan. Mae’r cyrsiau a gynigir wedi eu gosod mewn grwpiau yn unol â’r sgiliau a nodir yn y Cyd-Ddatganiad ar Sgiliau. Mae’r cyrsiau yn rhad ac am ddim i holl fyfyrwyr ymchwil Aberystwyth beth bynnag fo eu ffynhonnell cyllid.
Gweithdai 2022-23
Noder: bydd mwy o weithdai yn cael eu hychwanegu yn ystod y flwyddyn academaidd. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf, ac i weld y diweddariadau a gwybodaeth am gyrsiau newydd a’u dyddiadau, cofiwch ymweld â’r dudalen hon yn rheolaidd.
Eich Cyrsiau
Mae cofnod ar gael o’r cyrsiau rydych wedi eich cofrestru ar eu cyfer a holl sesiynau’r Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau Uwchraddedig rydych wedi’u mynychu. Gallwch hefyd ofyn am Dystysgrif Bresenoldeb ar gyfer unrhyw un o’r cyrsiau a fynychwyd gennych o’r dudalen hon. [Nodwch y bydd angen cyfrif e-bost gweithgar Prifysgol Aberystwyth arnoch]
Nodyn
Bydd mynychu unrhyw Gwrs Hyfforddiant Sgiliau Uwchraddedig yn cyfrif tuag at y 10 uned y flwyddyn o hyfforddiant sgiliau a argymhellir ar gyfer uwchraddedigion ymchwil.