Rhaglen strwythuredig yw’r DProf, cymysgedd o agweddau trwy gwrs ac ymchwil, sy’n arwain ymgeiswyr drwy ddatblygiad y prosiect ymchwil. Mae’r cwrs yn dechrau gyda’r agwedd a ddysgir yn cynnwys nifer o fodiwlau yn y flwyddyn gyntaf. Mae’r modiwlau hyn yn trafod ymchwil cyffredinol, hyfforddiant yn y gweithle ac agweddau ar ymchwil peilot. Ar ôl hyn, bydd prosiect ymchwil yn seiliedig ar waith yn cael ei ddatblygu. Drwy gydol eich DProf byddwch yn cydweithio’n agos â’ch tîm goruchwylio.
Pynciau a Drafodir
Undertaking Work-based Research in Professional Contexts: Nod y pwnc hwn yw gwneud yn sicr fod myfyrwyr DProf sy’n cychwyn ar eu hastudiaethau peilot a’u traethodau ymchwil terfynol neu bortffolios ymarfer proffesiynol wedi’u paratoi’n drwyadl ar gyfer hynny. Bydd hefyd yn sicrhau bod gan fyfyrwyr wybodaeth fanwl a dealltwriaeth feirniadol o fframweithiau methodolegol a’r dulliau penodol a ddefnyddir mewn ymchwil seiliedig ar waith. Bydd yn ystyried yn fanwl yr ystyriaethau ymarferol sy’n wynebu’r ymchwilydd seiliedig ar waith.
Sgiliau Ymchwil a Datblygiad Personol: Mae’r pwnc hwn yn cynnig i fyfyrwyr ymchwil wybodaeth eang ac ystod o sgiliau trosglwyddadwy a fydd o ddefnydd iddynt mewn amryw o gyd-destunau ymchwil. Bydd y modiwl hwn yn ymdrin â datblygiad personol, gan gynnwys sgiliau negodi, rhwydweithio, ysgrifennu academaidd, rheoli ymchwil, gweithio mewn tîm ac ysgrifennu papur cynhadledd.
Principles of Research Design: Nod y pwnc hwn yw dysgu myfyrwyr ymchwil i ddeall egwyddorion sylfaenol cynllun a strategaeth ymchwil: i ganfod a ffurfio eu cwestiynau ymchwil yn glir ac yn gryno, eu dadansoddi neu eu rhannu’n is-gyfresi o is-gwestiynau perthnasol, a, lle bo’n briodol, llunio damcaniaethau y gellir eu profi. Bydd myfyrwyr hefyd yn dysgu esbonio pam mae eu cwestiynau ymchwil yn arwyddocaol yng nghyd-destun is-feysydd eu disgyblaeth/ymchwil.
Quantitative and Qualitative Data Collections and Analysis: Cynlluniwyd y modiwl hwn i gyflwyno egwyddorion sylfaenol methodoleg ymchwil feintiol ac ansoddol i fyfyrwyr. Cyflwynir i fyfyrwyr dechnegau sylfaenol dadansoddi, cyflwyno a disgrifio ystadegau a sut mae data ansoddol yn cael eu hadeiladu a’u dehongli’n ymarferol gan yr ymchwilydd a meithrin dealltwriaeth o’r ystyriaethau sy’n codi wrth gasglu data ansoddol.
Leaderships for Researchers: Cyflwynir ymchwilwyr uwchraddedig i ystod a modelau arweinyddiaeth yn y pwnc hwn, gan amlinellu sut i ddefnyddio’r modelau hyn, a rhoi’r cyfle i fyfyrwyr archwilio drwy arddull ac ymddygiad arwain dysgu drwy brofiad.
Pilot Inquiry and Professional Research Project: Mae’r ymholiad peilot yn rhagflaenu’r prosiect ymchwil proffesiynol, a allai ffurfio sylfaen y prosiect llawnach, terfynol ym mlynyddoedd dilynol y cwrs. Mae’r ymholiad peilot a’r prosiect ymchwil proffesiynol yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr adnabod ‘pryder proffesiynol’, cyn paratoi maes ymholiad proffesiynol yn y lleoliad proffesiynol. Bydd gwybodaeth a threiddgarwch a ddysgwyd mewn modiwlau eraill yn cael eu defnyddio.