Beth sy'n orfodol i mi ei fynychu?
Mae'r Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr PA yn cynnwys y canlynol:
Cwrs | Orfodol/dewisol |
Cynefino | Mae rhaid i bob myfyriwr ymchwil amser llawn newydd (PhD ac MPhil), a yw eu hymchwil yn cael ei wneud trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, ddilyn y Rhaglen Gyflwyno. Anogir myfyrwyr PhD rhan-amser ac MPhil yn gryf i fynychu. |
Modiwlau Hyfforddiant Ymchwil Canolog |
Disgwylir i’r holl fyfyrwyr PhD llawn amser gwblhau isafswm o 45 credyd mewn hyfforddiant ymchwil a ddarperir gan y sefydliad yn ystod y ddwy flynedd gyntaf. Disgwylir y caiff isafswm o 20 credyd eu hastudio yn y flwyddyn gyntaf, ac unrhyw gredydau sy’n weddill yn yr ail flwyddyn. Disgwylir i’r holl fyfyrwyr MPhil llawn amser gwblhau isafswm o 15 credyd mewn hyfforddiant ymchwil a ddarperir gan y sefydliad. Mae rhaid i bob myfyriwr gwneud y modiwl orfodol PGM9005/MOR9005 |
Gweithdai i Raddedigion |
• Gweithdy Graddedigion Blwyddyn Un - PGM9005 - Moeseg, Llên-ladrad ac Ymarfer Academaidd ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil. (Gofyniad gorfodol) • Gweithdy Graddedigion Blwyddyn Dau - Rhaglen Ysgrifennu Ymchwil (PGM2910) • Gweithdy Graddedigion Blwyddyn Tri- Y tu hwnt i'r PhD. |