Beth yw datblygiad ymchwilwyr?

Beth yw Datblygu Ymchwilwyr?

Yn 2001 cyhoeddodd y Cynghorau Ymchwil Ddatganiad Sgiliau ar y Cyd (Joint Skills Statement, JSS) a oedd yn disgrifio’r sgiliau y mae disgwyl i fyfyrwyr ymchwil eu cael neu eu datblygu. Mae’r rhain yn cynnwys ystod o sgiliau ymchwil, sgiliau proffesiynol a sgiliau trosglwyddadwy. Ystyrir bod datblygu sgiliau o’r fath yn rhan hanfodol o’r profiad o fod yn fyfyriwr ymchwil uwchraddedig. Mae’r Datganiad Datblygu Ymchwilwyr a’r Fframwaith cysylltiedig  (gweler isod) a gyhoeddwyd yn 2010 yn esblygiad o’r Datganiad Sgiliau ar y Cyd ac maent yn tynnu sylw at yr ystod o wybodaeth, sgiliau, ymddygiadau a rhinweddau personol y mae’r Cynghorau Ymchwil yn disgwyl i ymchwilwyr eu datblygu yn ystod eu hyfforddiant.

 

Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr

 

 

 

Mae datblygu sgiliau ymchwil, sgiliau proffesiynol a sgiliau trosglwyddadwy o’r fath yn rhan bwysig o radd ymchwil. Mae angen ystod eang o sgiliau ar ymchwilwyr er mwyn gallu cwblhau gradd yn llwyddiannus, o sgiliau ymchwil cryf i sgiliau effeithiol ym maes cyfathrebu, TG a rheoli gyrfa. Bydd datblygu’r sgiliau hyn nid yn unig yn helpu myfyrwyr i ddod yn ymchwilwyr mwy llwyddiannus, bydd hefyd yn help iddynt ddatblygu’r rhinweddau a’r cyneddfau angenrheidiol i gyflawni eu hamcanion gyrfaol.

 

Mae holl brifysgolion a chyrff cyllido y DU bellach yn mynnu bod myfyrwyr ymchwil uwchraddedig yn datblygu set o sgiliau generig yn ystod eu hastudiaethau drwy fynychu cyrsiau hyfforddi wedi’u strwythuro a gweithgareddau hyfforddi a datblygu eraill addas. Nod Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth (PA)yw rhoi dulliau a sgiliau generig i fyfyrwyr a fydd yn ymateb i anghenion ymchwilwyr yn yr amgylchedd academaidd modern ac yn eu paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae’n chwarae rhan hanfodol wrth greu a chynnal cymuned ymchwil uwch.

 

Mae Aberystwyth wedi ymrwymo i ddarparu lefel addas o hyfforddiant i’w holl fyfyrwyr uwchraddedig. Yn rhan o’r ymrwymiad hwn mae’r Brifysgol wedi sefydlu rhaglen sydd wedi’i chynllunio i helpu myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau sy’n angenrheidiol i gwblhau eu graddau ymchwil yn llwyddiannus a hefyd i wella eu cyflogadwyedd yn y dyfodol. Mae’n dechrau â digwyddiad cyflwyno, ac yna set o fodiwlau ymchwil a ddarperir yn ganolog, wedi’u hategu gan weithdai blynyddol i raddedigion a’u cefnogi gan ystod eang o weithdai, cyrsiau hyfforddi byr a gweithgareddau eraill a gynigir drwy’r Gweithdai Hyfforddiant Sgiliau Proffesiynol a Throsglwyddadwy.

 

Mae gofyn i’r holl fyfyrwyr ddilyn elfennau penodol o’r rhaglen (ceir mwy o fanylion am hyn yn nes ymlaen), ond mae croeso i’r holl uwchraddedigion hefyd ymuno ag unrhyw agweddau ychwanegol ar y rhaglen, os ydynt yn teimlo y bydd hyn yn cyfoethogi eu set o sgiliau ymchwil. Mae Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr PA, sy’n cael ei rhedeg dan nawdd Ysgol y Graddedigion, yn cael ei hategu gan ddarpariaeth Datblygu Ymchwilwyr benodol-i-bynciau a gynigir gan adrannau unigol, â’r nod o roi sgiliau ymchwil penodol i fyfyrwyr sy’n unigryw i’w disgyblaeth ymchwil benodol hwy ac i anghenion unigol y myfyriwr.

 

Mae Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr PA yn cael ei chyflwyno gan staff sy’n arbenigwyr yn eu disgyblaeth, sy’n dod ynghyd yn sgil ymrwymiad i greu amgylchedd ymchwil amlddisgyblaeth uwch. O ganlyniad i’r rhaglen hon bydd gan fyfyrwyr well meistrolaeth ar y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i lunio, cynnal ac ysgrifennu eu hymchwil o fewn y terfynau amser a bennwyd. Ers i’r rhaglen gael ei chyflwyno, mae cyfraddau cyflwyno yn PA wedi cynyddu’n sylweddol.

 

Ceir hefyd reswm galwedigaethol dros ddilyn y rhaglen hon. Bydd yn rhoi i chi sgiliau a chymwyseddau gwerthadwy, i’ch galluogi i symud o radd ymchwil i amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth.