Graddio 2023 - Tîm Staffio
Os ydych chi wedi cynorthwyo gyda’r Graddio o’r blaen neu os ydych chi’n cymryd rhan am y tro cyntaf eleni, mae amrywiaeth o rolau staffio sy’n hanfodol i sicrhau bod y dathliadau’n rhedeg yn esmwyth yn ystod yr wythnos.
Cynhelir y Graddio rhwng dydd Mawrth 18 a dydd Iau 20 Gorffennaf 2023 a gellir gweld trefn y seremonïau yma.
Mae’r staff yn chwarae rhan allweddol yn ystod yr wythnos yn croesawu ein Graddedigion a’u gwesteion; yn cynorthwyo â chofrestru; yn ateb cwestiynau, rhoi cyfarwyddiadau a chyngor, ynghyd â rolau yn seremonïau fel marsialiaid yn y Neuadd Fawr.
Os hoffech fod yn rhan o'r tîm ar gyfer dathliadau eleni, cyfeiriwch at y manylion isod i nodi'r rôl(au) y gallech helpu gyda nhw ac e-bostiwch digwyddiadau@aber.ac.uk i nodi eich argaeledd. Cofiwch gynnwys y wybodaeth ganlynol:
- Enw
- Adran
- Swyddogaeth(au) ar gael ar gyfer
- Dyddiadau / slotiau amser ar gael
Darparwch ymatebion erbyn 16.30 ddydd Mercher 5 Gorffennaf. Cysylltir ag unigolion wedyn i gadarnhau’r rota ar gyfer seremonïau eleni.
Sut i Gymryd Rhan
Rolau Gwirfoddol - Disgrifiadau
Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, cysylltwch â Sarah Bizby (Tîm Digwyddiadau - Marchnata a Denu Myfyrwyr) - graddio@aber.ac.uk