Astudio Hanes y Cyfryngau yn Aberystwyth

Mae hanes y cyfryngau yn bwnc cynyddol boblogaidd ymhlith myfyrwyr hanes sy’n chwilio am gyfeiriadau ymchwil newydd, a myfyrwyr astudiaethau’r cyfryngau sy’n chwilio am gyd-destun hanesyddol pellach i’w hastudiaethau. Mae’r Ganolfan Hanes y Cyfryngau yn datblygu traddodiad hir Aberystwyth o ddysgu ym maes hanes y cyfryngau, a hynny o oedran ysgol hyd at fyfyrwyr uwchraddedig.
  • Diwrnodau astudio Safon Uwch ar hanes y cyfryngau torfol ym Mhrydain [anfonwch e-bost at cmhstaff@aber.ac.uk am fanylion]
  • Modiwlau hanes israddedig sy’n galluogi myfyrwyr i arbenigo yn hanes y cyfryngau torfol fel rhan o’u gradd Hanes                
  • Gradd BA (Anrhydedd Sengl) yn Hanes a’r Cyfryngau sy’n cynnig archwiliad rhyngddisgyblaethol o hanes ac astudiaethau’r cyfryngau
  • MA Hanes y Cyfryngau
  • Goruchwylio MPhil a PhD ar agweddau ar hanes y cyfryngau

Israddedigion          

Mae’r modiwlau israddedig a gynigir gan yr Adran Hanes a Hanes Cymru sy’n archwilio agweddau ar hanes y cyfryngau torfol yn cynnwys y canlynol:          

  • HY37730 Media and Society in 20th Century Britain
  • HY34320 History in Cartoons: Studying Georgian Satirical Prints
  • HY33320 History on Television
  • HY33420 The ‘Myth of the Blitz'
  • HY32320 Studying Cuban History Through Film

Mae’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu hefyd yn cynnig modiwlau israddedig cysylltiedig, er enghraifft:

  • MC23020 Media History
  • TF21320 Television History
  • TF33220 The Media in the 1950s
  • TF21920 Classical Hollywood Cinema

Cynigiwyd graddau anrhydedd cyfun rhwng yr Adran Hanes a Hanes Cymru a’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ers tro byd. Ond mae’r ddwy adran bellach yn cynnig cynllun gradd Anrhydedd Sengl Hanes a’r Cyfryngau (VP13: http://www.aber.ac.uk/cy/undergrad/courses/history/history-and-media/ ) sy’n cynnig cyfle penodol i fyfyrwyr archwilio hanes ac astudiaethau’r cyfryngau mewn cyd-destun cyfochrog a rhyngddisgyblaethol, gan gynnwys y cyfle i ymchwilio ar gyfer traethawd estynedig israddedig rhyngddisgyblaethol.

Uwchraddedigion       

Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru, ar y cyd â’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, bellach yn cynnig MA trwy gwrs yn Hanes y Cyfryngau. Dyma gyfle i fyfyrwyr archwilio theori a hanes y cyfryngau torfol, ymgymryd â gwaith astudio arbenigol mewn amrywiaeth o bynciau, ac ymchwilio ar gyfer eu prosiect traethawd estynedig eu hunain. Mae prosiectau traethawd estynedig MA diweddar yn cynnwys datblygiad y cyfryngau yn Tsieina, derbyniad beirniadol rhaglenni dogfen hanesyddol ar y teledu, a gweddau allanol arlywyddion UDA yn y cyfryngau.

Mae gan yr Adran hefyd draddodiad cryf o oruchwylio graddau ymchwil uwchraddedig Meistr (MPhil) a PhD (http://www.aber.ac.uk/history/postgraduate/research.html) ym maes hanes y cyfryngau. Mae traethodau PhD llwyddiannus a oruchwyliwyd yn y maes hwn yn ddiweddar yn yr adran yn cynnwys astudiaethau o deledu Cymraeg, mynd i’r sinema a diwydiant y sinema yng Nghymru 1918-1950, a hysbysebu ym Mhrydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae traethodau PhD llwyddiannus a oruchwyliwyd yn ddiweddar yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn cynnwys astudiaethau o deledu Cymraeg cynnar, a hanes y rhaglenni dogfen hanesyddol ar deledu daearol y DU.