Hanes Cymru yn Aberystwyth

Mae hanes Cymru wedi cael ei ddysgu yn Aberystwyth ers 1910, a sefydlwyd cadair Hanes Cymru Syr John Williams yn 1931. Fe unwyd yr adrannau Hanes a Hanes Cymru, a fu gynt yn ddwy adran ar wahân, yn 1994. Mae’r ffaith fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC), un o ychydig lyfrgelloedd hawlfraint y Deyrnas Unedig, gerllaw’r campws yn gwneud yr Adran yn lleoliad delfrydol i astudio hanes Cymru. LlGC yw’r brif ystorfa o brif ffynonellau ymchwil hanes Cymru, ac yn ystod y degawdau diwethaf, fe ymestynnwyd ei chasgliadau i gynnwys meysydd a chyfryngau newydd (gan gynnwys Archif Wleidyddol Cymru ac Archif Ffilm Cymru). Mantais ychwanegol yw’r ffaith fod Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, a leolir yn LlGC, gerllaw.

Mae gan yr Adran draddodiad hir o gynhyrchu gwaith ymchwil rhagorol yn hanes Cymru. Ymhlith yr haneswyr Cymru nodedig a fu ar y staff yn Aberystwyth y mae: Yr Athro Syr Rees Davies, Yr Athro Gwyn A. Williams, Yr Athro David Williams, Yr Athro Ieuan Gwynedd Jones, Yr Athro J. Beverley Smith, Yr Athro Geraint H. Jenkins, Yr Athro P. D. G. Thomas, Yr Athro Gareth Williams, Yr Athro John Davies, Yr Athro Deian Hopkin, Yr Athro T. Jones Pierce, a Dr Llinos Smith. Mae’r Adran yn noddi darlithydd flynyddol bob dwy flynedd i anrhydeddu Yr Athro Jones Pierce.

Mae staff presennol yr Adran wedi datblygu dewislen gref o fodiwlau israddedig yn hanes Cymru, a ddysgir drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Ceir yma grŵp bywiog o fyfyrwyr uwchraddedig yn ogystal. Mae nifer o’r graddau Meistr trwy gwrs hanes Cymru yn denu nifer sylweddol o fyfyrwyr, ac mae gan yr Adran yr unig raglen Meistr yn hanes Cymru sy’n cael ei chydnabod ar gyfer grantiau gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.                           

Bydd y Ganolfan newydd yn darparu llwyfan ar gyfer ymgeisio ar gyfer grantiau ymchwil. Mae’r prosiectau ymchwil ar hanes Cymru sy’n derbyn nawdd allanol neu a’i derbyniodd yn ddiweddar ac a arweiniodd at benodi cynorthwyr ymchwil amser llawn yn cynnwys:

  • ‘Prosiect Rholiau Llys Dyffryn Clwyd’, Yr Athro Syr Rees Davies a Dr Llinos Smith, a gyllidwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol;
  •  ‘Gwleidyddiaeth Dŵr yng Nghymru, 1880-1996’, Yr Athro Aled Jones a Dr Richard Coopey, a gyllidwyd gan Fwrdd Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Cymru;  
  • ‘Y Drych a Hunaniaethau Cymru-America, 1851-1951’, Yr Athro Aled Jones a Dr Bill Jones, a gyllidwyd gan Fwrdd Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Cymru;     
  • ‘Diwylliant Trefol yn Ne Cymru: Gorymdeithiau a Gofod Cyhoeddus, tua1835-1914’, Dr Paul O’Leary a Neil Evans, a gyllidwyd gan Fwrdd Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Cymru.   
  • ‘Gwyddoniaeth a Diwylliant yng Nghymru’r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg’, Dr Iwan Morus, a gyllidwyd gan Fwrdd Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Cymru.

Bydd y Ganolfan newydd yn annog symbylu prosiectau ymchwil gan aelodau unigol o’r staff yn ogystal â mentrau cydweithredol oddi mewn i’r Coleg a rhwng sefydliadau.            

Mae Dr O’Leary hefyd yn un o drefnwyr y rhwydwaith ymchwil a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a neilltuir ar gyfer astudio Iwerddon a Chymru, ac a sefydlwyd yn 2007. Bydd y grant gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn galluogi ysgolheigion o wahanol wledydd i gwrdd yng Nghymru ar gyfer pedwar symposiwm dros gyfnod o ddwy flynedd. Cynhelir y symposiwm cyntaf ar y thema Cyferbyniadau a Chymariaethau ar 16-17 Mai 2008. Cynhelir yr ail symposiwm ar y thema Cenhedloedd Rhamantus ar 24-25 Hydref 2008.

Dylid cyfeirio ymholiadau ynglŷn â’r Ganolfan at Dr Paul O’Leary ppo@aber.ac.uk.