Gwobrau Llwyddiant Myfyrwyr

Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn dyfarnu nifer o wobrau bob blwyddyn ar gyfer y perfformiad gorau gan fyfyrwyr yn y categorïau a ganlyn:

Blwyddyn 1 – Gwobr Syr Rees Davies
Ar gyfer y perfformiad gorau gan fyfyriwr Hanes yn Rhan 1. Rhoddir y wobr er cof am y diweddar Syr Rees Davies, hanesydd canoloesol nodedig a fu’n bennaeth yr adran yn Aberystwyth am nifer o flynyddoedd.


Blwyddyn 2 – Gwobr Goffa Alun Lewis
Ar gyfer y perfformiad gorau gan fyfyriwr yn yr 2il flwyddyn. Rhoddir y wobr er cof am Alun Lewis, bardd ac awdur straeon byrion nodedig a fu’n astudio Hanes yn Aberystwyth.


Blwyddyn 3 – Gwobr Traethawd Estynedig Alun G Davies
Ar gyfer traethawd estynedig gorau’r 3edd flwyddyn. Rhoddir y wobr er cof am Alun G. Davies, cyn-drysorydd y Brifysgol.


Blwyddyn 3 – Gwobr Joseph Hamwee
Ar gyfer y perfformiad gorau gan fyfyriwr yn y 3edd flwyddyn. Rhoddir y wobr er cof am Joseph Hamwee, cyn-fyfyriwr.


Mae’r adran hefyd yn dyfarnu nifer o wobrau sy’n gysylltiedig â phwnc penodol:


Gwobrau Hanes Cymru
Caiff y rhain eu dyfarnu ar gyfer y perfformiad gorau yn Hanes Cymru. Caiff Gwobr Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth a Gwobr T.E. Ellis eu dyfarnu bob yn ail.


Gwobr Hanes America Robert Harrison  
Ar gyfer y perfformiad gorau yn hanes America. Rhoddir y wobr er cof am y diweddar Dr Robert Harrison, a fu’n ddarlithydd hanes America am nifer o flynyddoedd yn Aberystwyth ac a ysgrifennodd nifer o lyfrau am hanes modern America y ceir parch mawr tuag atynt.


Gwobr Hanesyddiaeth John Davidson
Ar gyfer y perfformiad gorau mewn gwaith sy’n ymwneud â hanesyddiaeth. Rhoddir y wobr er cof am y diweddar Ddr John Davidson, a fu’n Bennaeth Adran yn Aberystwyth ac a helpodd i sefydlu astudiaethau hanesyddiaeth yn rhan o gwricwlwm yr adran.