Cynllun Cerdyn Rhodd Aber – Telerau ac Amodau
Cyflwyniad
Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithredu cynllun debyd a disgownt rhagdaledig (“y cynllun”) gan ddefnyddio Cerdyn Rhodd Aber (“y Cerdyn”) ar gyfer cyfnewid nwyddau a gwasanaethau mewn safleoedd sy’n eiddo i Brifysgol Aberystwyth neu a reolir ganddi. Dyma’r telerau ar gyfer gweithredu’r cynllun ‘Cerdyn Rhodd Aber’.
Sut gallaf brynu Cerdyn Rhodd?
- Gellir prynu Cerdyn Rhodd o unrhyw safle ar y campws. Mae’r rhain yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, Siop Lyfrau a Siop Grefftau Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, TaMed Da, TaMed bach, IBERbach, SGUBORfach, y Ganolfan Chwaraeon a Llyfrgell Hugh Owen.
- Gellir ychwanegu arian at gardiau rhodd yn unrhyw un o’n safleoedd yn ogystal ag ar-lein trwy glicio ar y ddolen ganlynol:- https://abercard.aber.ac.uk/index.php?lang=cy
- Ni fydd y symiau o arian a roddir ar y cerdyn na’r balans sy’n cronni ar y cerdyn yn denu unrhyw ddiddordeb.
Ym mhle y gellir defnyddio’r Cerdyn?
- Gellir defnyddio’r Cerdyn Rhodd ym mhob un o’r safleoedd yng Nghanolfan y Celfyddydau, y Ganolfan Chwaraeon, y Siop lyfrau a rhoddion, yr holl leoedd bwyd gan gynnwys Brynamlwg, a Llyfrgell Hugh Owen.
- Mae popeth y byddwch yn eu prynu gan fasnachfreintiau ac unrhyw leoedd eraill ar gampysau Prifysgol Aberystwyth wedi’u heithrio o’r cynllun.
Sut y defnyddir y Cerdyn?
- Rhaid cyflwyno’r cerdyn pan fyddwch yn talu, a bydd gwerth y trafodyn yn cael ei ddebydu o’r cerdyn. Byddwch yn cael derbynneb gyda phopeth y byddwch yn ei brynu a fydd yn rhoi manylion unrhyw falans sy’n weddill ar y cerdyn.
Beth os wyf fi’n colli’r Cerdyn?
- Pan fyddwch yn prynu cerdyn rhodd, gofynnwn i chi gadw’r dderbynneb yn ddiogel oherwydd hon sy’n cael ei defnyddio i brofi pwy yw perchennog y cerdyn.
- Gellir prynu cerdyn yn ei le am £1.00, a gellir llwytho’r balans sy’n weddill arno.
- Noder na ellir trosglwyddo balans y cerdyn heblaw bod gennych dderbynneb ar gyfer prynu’r cerdyn gwreiddiol.
- Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddefnydd twyllodrus o gardiau sydd wedi’u colli neu’u dwyn, a bydd ond yn rhoi balans ar gerdyn newydd ar yr amser a’r dyddiad y rhoddwyd gwybod i’r adran gwasanaethau Croeso ym Mhrifysgol Aberystwyth bod eich cerdyn wedi cael ei golli neu’i ddwyn.
Telerau ac Amodau Amrywiol
- Mae’r balans ar y cerdyn yn ddilys am gyfnod o 12 mis o’r dyddiad y defnyddiwyd y cerdyn ddiwethaf. Os na chaiff y cerdyn ei ddefnyddio am gyfnod o dros 12 mis, bydd y balans yn cael ei glirio o’r cerdyn.
- Os ydych yn gwneud cais i gael ad-daliad o Gerdyn Rhodd, bydd rhaid talu ffi weinyddol o £5.00.
- Eiddo Prifysgol Aberystwyth yw’r cerdyn ar bob adeg, ac ni ellir trosglwyddo’r cerdyn o’r unigolyn y cyhoeddwyd y cerdyn iddo/iddi. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cadw’r hawl i ofyn am y cerdyn yn ôl, ac os byddant yn gwneud hynny, byddant yn talu unrhyw falans sy’n weddill i’r unigolyn.
- Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddifrod i’r cardiau neu os cânt eu colli.
- Mae Prifysgol Aberystwyth yn cadw’r hawl i newid telerau ac amodau’r cerdyn heb roi unrhyw rybudd o flaen llaw i ddaliwr y cerdyn.
- Mae’r cynllun Cerdyn Rhodd yn ddull o dalu am nwyddau a gwasanaethau a ddarperir gan Brifysgol Aberystwyth. Nid yw hyn yn newid nac yn disodli’r hawliau defnyddwyr a nodir yng Nghyfraith y DU.
- Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gynnyrch neu wasanaeth a brynir drwy’r cynllun, ac eithrio’r hyn sydd yng nghyfraith safonol y DU.