Caffibach

 

Croeso i CAFFIbach, yn adeilad IBERS ar y llawr gwaelod ar gampws Penglais. Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:30 a 17:30 (yn ystod y tymor)

Gan gynnig awyrgylch cynnes a chyfeillgar, mae gan y caffi ddigonedd o seddi a fyddai'n addas ar gyfer cyfarfod bach anffurfiol neu ddim ond sgwrs dros goffi neu ein hystod o de bragu newydd wedi’u paratoi fel yr hoffech gan un o'n baristas. Manteisiwch hefyd ar y gostyngiadau a gynigir i staff a myfyrwyr.

Lle gwych i ymlacio, gweithio a chwrdd â ffrindiau neu gydweithwyr am ginio.

Rydym yn cynnig:

  • Te a choffi arbenigol
  • Cappuccino, Latté, Espresso, Frappuccino
  • Smŵddis a frappés
  • Amrywiaeth o Baninis a Brechdanau wedi’u tostio.
  • Cawl a rhôl
  • Dewis o gacennau a chwcis
  • Bargen o Bryd (Brechdan a diod o’ch dewis a naill ai ffrwyth, siocled, neu greision) o £3.20.
  • Dewisiadau heb glwten a figan ar gael
  • Pethau melys
  • Ffrwyth
  • Amrywiaeth manwerthu bach

Ysgogwch y cerdyn teyrngarwch (Magic Stamp) i ddechrau casglu stampiau ar gyfer diod boeth am ddim.

 

Sylwch nad yw Iber bach yn derbyn arian parod, rydyn ni’n derbyn pob taliad â cherdyn a chardiau Aber.

Bydd yr oriau gwasanaeth ac agor yn amrywio y tu allan i amseroedd tymor Prifysgol Aberystwyth. (Cyswllt oriau agor)

Yr holl ffotograffau gan Darya koskeroglu