Croeso gan y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol

Mae ein tîm Adnoddau Dynol yn rhan bwysig o gyflwyniad y Brifysgol o'i Chynllun Strategol hyd at 2023.
Ein nod yw sicrhau bod rheolwyr ar bob lefel wedi'u cyfarparu'n iawn i ysgogi a chael y gorau gan ein staff. Yn gyfnewid rydym yn darparu telerau, amodau a buddion sy'n gwneud y Brifysgol yn lle deniadol i weithio ynddo. Trwy ein holl weithgareddau rydym yn croesawu perthnasoedd gwaith cadarnhaol gydag undebau llafur cydnabyddedig.
Rydym wedi datblygu Strategaeth Pobl a chynllun gweithredu newydd. Bydd y rhain yn cyd-fynd â'r Cynllun Strategol gyda ffocws ar effeithlonrwydd gweinyddol ochr yn ochr â mentrau sy'n cynyddu cyfraniad ein staff i'r Brifysgol i'r eithaf. Bydd gwasanaeth cwsmeriaid a gwelliant parhaus yn parhau i fod yn flaenoriaethau uchel i'n tîm AD ac rydym yn croesawu adborth ar ein gwasanaethau ar unrhyw adeg.
Byddwn yn eich hysbysu am fentrau newydd sydd ar y gweill. Yn y cyfamser, gellir gweld ein polisïau a'n gweithdrefnau yma ac mae manylion cyswllt AD ar gael yma.
Nick Rogers
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol