Canllawiau ar oblygiadau Brexit ar gyfer aelodau staff yr UE

Rydym yn sylweddoli, wrth i'r DU baratoi i adael yr UE, y gallai aelodau o staff a'u teuluoedd fod yn bryderus ynghylch sut y gallai hyn effeithio ar eu cyflogaeth.  Rydym wedi llunio gwybodaeth a fydd, gobeithio, yn ateb rhai o’r prif gwestiynau a allai fod gennych ar oblygiadau Brexit i staff. Os oes ganddo chi ymholiadau pellach, cysylltwch gydag ad@aber.ac.uk neu (+44 1970 62) 8551.

Sut ydw i'n gwneud cais am statws sefydlog?

Bydd angen i ddinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU a'u haelodau teulu wneud cais o dan y cynllun setlo i gael eu statws mewnfudo newydd yn y DU i aros yn y DU y tu hwnt i ddydd Iau 31 Rhagfyr 2020.

Bydd y rhai sydd â phreswyliad parhaus o bum mlynedd yn cael statws preswylydd sefydlog; y rhai sydd heb roddir statws preswylydd cyn-sefydlog.  Gall y rhai sydd â statws preswylydd cyn-sefydlog aros yn y DU am bum mlynedd arall ond rhaid iddynt gael statws preswylydd sefydlog os ydynt am aros yn y DU yn barhaol. 

 

 

 

Beth os ydw i'n ddinesydd Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy a'r Swistir?

Mae llywodraeth y DU wedi dod i gytundeb gyda’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop (EFTA) (Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy) a'r Swistir i amddiffyn hawliau’r dinasyddion hynny yn y DU.  Fel y disgwylir yn gyffredinol, bydd yn ofynnol i'r dinasyddion hyn ac aelodau'r teulu wneud cais am statws preswylio drwy'r  ’Cynllun Preswylion Sefydlog i Ddinasyddion yr UE' yn yr un modd â dinasyddion yr UE. 

Beth os wyf yn Ddinesydd Gwyddelig?

Nid yw'n ofynnol i ddinasyddion Gwyddelig sy'n byw yn y DU cael caniatâd i aros o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE gan nad yw eu statws yn y DU yn gysylltiedig ag aelodaeth y DU o'r UE.  Mae hawliau dinasyddion Gwyddelig wedi'u diogelu yng nghyfraith y DU o dan reolau Ardal Teithio Gyffredin nad yw Brexit yn effeithio arnynt. 

Nid oes angen i ddinasyddion Gwyddelig wneud cais am statws preswylydd sefydlog ond gallant wneud hynny os dymunant.  Bydd angen i aelodau o'r teulu nad ydynt yn Wyddelod ac aelodau o'r Deyrnas Unedig wneud cais am statws preswylydd sefydlog. 

A oes angen i mi wneud cais am statws preswylydd sefydlog nawr?

Y sefyllfa bresennol yw na fydd unrhyw newid i hawliau a statws dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU ac nid oes rhaid i chi wneud cais am unrhyw beth nawr.  Gallwch chi a'ch teulu wneud cais am ‘statws preswylydd sefydlog’ ar unrhyw adeg hyd at ddydd Mercher 30 Mehefin 2021 i barhau i fyw yn y DU ar ôl diwedd y cyfnod pontio ym mis Rhagfyr 2020.  Bydd ymgeiswyr sydd wedi bod yn byw yn y DU am lai na phum mlynedd pan fyddant yn gwneud cais yn cael statws preswylydd cyn-sefydlog a bydd yn gallu yn gwneud cais yn y dyfodol am statws preswylydd sefydlog heb orfod talu'r ffi eto. 

Rwy'n Wladolyn yr UE sydd ar hyn o bryd yn cael ei gyflogi gan Brifysgol Aberystwyth, a allaf barhau i weithio i’r Brifysgol?

Gallwch. Ar gyfer gwladolion yr UE a oedd yn preswylio cyn y dyddiad gadael disgwyliedig (29 Mawrth 2019), os fydd “dim cytundeb” ni fydd eich hawliau preswylio yn newid a gallwch barhau i weithio yn y Brifysgol heb gyfyngiad.

Rhaid i chi wneud cais am naill ai ‘statws preswylydd cyn-sefydlog’ neu ‘statws preswylydd sefydlog’ trwy’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, cyn 31 Rhagfyr 2020. 

Os ydych chi'n cael eich cyflogi gan y Brifysgol ar hyn o bryd ac yn gweithio dramor, ond oeddech yn byw yn y DU cyn 29 Mawrth 2019, byddwch yn dal i allu gwneud cais am naill ai statws preswylydd cyn-sefydlog neu statws preswylydd sefydlog ar yr amod nad ydych wedi bod yn absennol am fwy na phum mlynedd yn barhaus (am unrhyw rheswm) ac yn dychwelyd i'r DU cyn 31 Rhagfyr 2020. 

Mae canllawiau pellach ar Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, sydd hefyd yn cynnwys canllawiau i aelodau eich teulu, ar gael ar dudalennau gwe'r llywodraeth

Rwy'n wladolyn yr UE sy'n cyrraedd y DU am y tro cyntaf ar ôl 29 Mawrth 2019, a allaf i barhau i geisio am swyddi ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Gallwch. Ar gyfer dinasyddion yr UE sy'n cyrraedd ar ôl dyddiad gadael (29 Mawrth 2019), os fydd “dim cytundeb”, bydd hawl gennych i barhai i geisio am swyddi yn y Brifysgol.

Ni fydd angen fisa arnoch i ddod i mewn i'r DU.  Ni fydd gofyn i ddinasyddion yr UE gael fisa cyn teithio i'r DU.  Pan yn teithio i’r DU, byddwch yn gallu ddefnyddio'ch pasbort neu'ch cerdyn adnabod, fel y gallwch ar hyn o bryd.

Ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar eich gallu i fyw neu weithio yn y DU.  Byddwch yn gallu byw a dechrau gweithio yn y DU cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd.  Fodd bynnag, os ydych chi'n bwriadu aros yn y DU am fwy na thri mis, o fewn tri mis o gyrraedd, disgwylir y bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd Ewropeaidd dros dro i aros.  Ni fydd gan wladolion Gwyddelig unrhyw gyfyngiadau ar eu harhosiad ac ni fydd yn ofynnol iddynt wneud cais am statws dros dro. 

Beth yw caniatâd Ewropeaidd dros dro i aros a phwy sydd angen gwneud cais?

Mae'r llywodraeth wedi nodi bydd Caniatâd Ewropeaidd Dros Dro i Aros yn caniatáu i ddinasyddion yr AEE sy'n cyrraedd y DU ar ôl 29 Mawrth 2019 i fyw, gweithio ac astudio yn y DU os nad oes cytundeb Brexit. 

Bydd dinasyddion yr AEE sy'n cael Caniatâd Ewropeaidd Dros Dro i Aros yn gallu aros yn y DU am 36 mis o'r dyddiad y'i rhoddir.

Disgwylir i Ganiatâd Ewropeaidd Dros Dro i Aros fod yn fod yn statws mewnfudo dros dro, na ellir ei ymestyn.  Ni fydd yn rhoi caniatâd amhenodol i aros, arwain at statws o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE neu wneud dinasyddion yr AEE yn gymwys i aros yn y DU am gyfnod amhenodol. 

Os yw dinasyddion yr AEE am aros yn y DU am fwy na 36 mis, bydd angen iddynt wneud cais am statws mewnfudo dan y system fewnfudo newydd, a fydd yn dod i rym ar 1 Ionawr 2021.  Bydd angen i'r rhai nad ydynt yn gymwys adael y DU pan fydd eu Caniatâd Dros Dro i Aros yn dod i ben. 

Gall aelodau teulu sy'n ddinasyddion yr UE cyrraedd y DU ar yr un sail a chi a fyddai hefyd angen Caniatâd Dros Dro i Aros (gweler uchod) os ydynt yn bwriadu aros am fwy na thri mis

Pwy fydd angen gwneud cais?

Bydd angen i chi wneud cais os ydych chi:

  • yn ddinesydd AEE ac
  • yn cyrraedd y DU ar ôl i'r DU adael yr UE ac
  • eisiau aros yn y DU am fwy na 3 mis

Ni fydd angen i ddinasyddion Gwyddelig wneud cais am Ganiatâd Dros Dro i Aros.

Aelodau'r teulu o ddinasyddion yr AEE

Bydd angen i aelodau teulu agos o ddinasyddion dinesydd nad ydynt o'r AEE sy'n byw yn y DU wneud cais am drwydded teulu cyn ymuno â nhw

yn y DU.

Rwy'n wladolyn o'r UE yn cyrraedd y DU am y tro cyntaf ar ôl 29 Mawrth 2019, alla i ddod â'm teulu?

Bydd angen i aelodau'r teulu o wledydd nad ydynt yn rhan o'r AEE wneud cais am 'drwydded teulu' cyn ymuno â chi yn y DU.

Nid oes unrhyw fanylion pellach ar gael ar hyn o bryd ar y broses ymgeisio ar gyfer ‘trwydded teulu’. Cyhoeddir manylion pellach unwaith y bydd y llywodraeth yn darparu gwybodaeth.

A fydd yr archwiliad hawl i weithio yn aros yr un fath?

Bydd. Os fydd “dim cytundeb”, mae'r llywodraeth wedi cadarnhau na fydd gwiriadau hawl i weithio yn newid ac felly bydd y gweithdrefnau presennol yn parhau i fod yn gymwys, hyd yn oed i'r rhai sy'n cyrraedd ar ôl 29 Mawrth 2019.

Mae hyn yn golygu y bydd gwladolion yr UE yn gallu parhau i brofi eu hawl i weithio yn y DU gan ddefnyddio eu pasbort neu eu cerdyn adnabod yn unig.  Ni fydd angen hysbysu, na tystioli, i’r Brifysgol eich bod wedi cael dogfennaeth trwy’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE neu’r process Caniatâd Dros Dro i Aros.   Mae'r llywodraeth wedi nodi y bydd hyn yn parhau i fod yn wir tan 1 Ionawr 2021 o leiaf.

A fydd gwirio cymwysterau yn newid?

Bydd. Bydd y Gyfarwyddeb Cydnabyddiaeth Gyffredin Cymwysterau Proffesiynol (MRPQ) yn darparu fframwaith dwyochrog o reolau sy'n galluogi cydnabyddiaeth i wladolion yr AEE a'r Swistir gael eu cymwysterau proffesiynol mewn gwladwriaeth heblaw am yr un y cafwyd y cymhwyster ynddi.

Os bydd y DU yn gadael yr UE gyda “dim cytundeb”, ni fydd y Gyfarwyddeb MRPQ yn berthnasol i'r DU mwyach ac ni fydd system o gydnabyddiaeth gyfatebol i gymwysterau proffesiynol rhwng y gwledydd sy'n weddill yn yr AEE, y Swistir a'r DU.  Bydd y DU yn sicrhau bod gan weithwyr proffesiynol sy'n cyrraedd y DU â chymwysterau AEE a'r Swistir ar ôl y dyddiad ymadael fodd i geisio cydnabyddiaeth i'w cymwysterau, ac mae'r llywodraeth wedi nodi y bydd system newydd os fydd Brexit “heb gytundeb”. 

Mae rhagor o fanylion am y trefniadau ar gyfer y dyfodol os bydd Brexit “heb cytundeb” ar gael yma . 

https://www.gov.uk/government/publications/providing-services-including-those-of-a-qualified-professional-if-theres-no-brexit-deal/providing-services-including-those-of-a-qualified-professional-if-theres-no-brexit-deal

A allaf barhau i deithio i'r UE ar fusnes sy'n gysylltiedig â gwaith?

Gallwch. Os bydd Brexit “heb gytundeb” byddai'n rhaid i gwmnïau hedfan sy'n dymuno hedfan rhwng y DU a'r UE geisio caniatâd unigol i weithredu o'r gwledydd perthnasol (boed hynny y DU neu un o wledydd yr UE).

Yn y senario yma, byddai'r DU yn rhagweld rhoi caniatâd i gwmnïau awyrennau'r UE barhau i weithredu a byddai'n disgwyl i'r UE adleoli yn ei dro.  Os na roddwyd caniatâd o'r fath, gallai fod rhywfaint o darfu ar rai teithiau.

Pe bai Brexit “heb gytundeb”, byddai'r DU yn cael ei hystyried yn drydedd wlad. Gall gwladolion trydedd wlad aros yn ardal Schengen am 90 diwrnod (tua thri mis).  Os ydych chi'n teithio i wlad ardal Schengen, dylech sicrhau bod eich pasbort wedi'i gyhoeddi o fewn y 10 mlynedd diwethaf ar y dyddiad cyrraedd a bod ganddo o leiaf dri mis o ddilysrwydd yn weddill ar y dyddiad yr ymadawodd â'r wlad ddiwethaf yr ymwelwyd â hi yn ardal Schengen.  (Gallai'r gwiriad a wnaed fod y pasbort yn ddilys o leiaf chwe mis yn weddill ar y dyddiad cyrraedd).

Gellir dod o hyd i ganllawiau yma:

https://www.gov.uk/guidance/important-eu-exit-information-for-uk-nationals-if-theres-no-deal#travel-around-the-eu-with-a-british-passport

A allaf yrru yn y DU ar ôl 29 Mawrth 2019?

Pa wybodaeth sydd ar gael i staff Prifysgol Aberystwyth sy'n gweithio ym Mrwsel?

A fydd fy ngherdyn EHIC yn ddilys i deithio i Ewrop ar ôl 29 Mawrth 2019?

Gall staff a myfyrwyr sy'n teithio i'r UE gael Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC) sy'n caniatáu mynediad i ofal iechyd gwladol yn y wlad am gost is neu am ddim.  Cofiwch, os bydd senario “dim cytundeb”, efallai na fydd yr EHIC yn ddilys.

Nid yw'r EHIC yn cymryd lle yswiriant teithio, dylid ei drefnu drwy'r Tîm Teithio a Fflyd cyn pob taith dramor sy'n gysylltiedig â'r Brifysgol. O dan y trefniadau cyfredol ar gyfer talu costau teithio, mae'r rhai sy'n dal cerdyn EHIC wedi'u heithrio rhag talu dros £25 mewn achos gwneud cais.  Os nad yw ETHIC yn ddilys mwyach, gellir codi'r tâl hwn. I gael rhagor o wybodaeth am effaith y newid hwn ar Orchymyn Teithio'r Brifysgol, cysylltwch â'r Tîm Teithio a Fflyd ar trlstaff@aber.ac.uk.

Beth os ydw i'n fyfyriwr yn ogystal ag aelod o staff?

Pa wasanaethau cymorth sydd ar gael i staff?

Gall staff Prifysgol Aberystwyth gael mynediad at gymorth personol gan Raglen Cymorth i Weithwyr y Brifysgol:

https://www.aber.ac.uk/cy/hr/employment-information/eap/ ar sail gyfrinachol.  Mae cymorth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos a 365 diwrnod y flwyddyn.

Bydd y Cwestiynau Cyffredin hyn yn cael eu diweddaru wrth i wybodaeth a chanllawiau newydd cael ei gyhoeddi.

Cyhoeddwyd cwestiynau cyffredin ar 19 Mawrth 2019.

Rwy'n wladolyn o'r UE sydd ar hyn o bryd yn cael ei gyflogi gan Brifysgol Aberystwyth, alla i barhau i weithio yn AU?

Noder bod trefniadau'r Ardal Deithio Gyffredin yn golygu, mewn unrhyw sefyllfa, bydd dinasyddion Prydain ac Iwerddon yn parhau i fod â'r hawl i weithio yn y naill wlad a'r llall ar ôl i'r DU adael yr UE. Mwy o wybodaeth yma: http://bit.ly/2NuRHe5

A allaf i barhau i deithio i'r UE ar fusnes sy'n gysylltiedig â gwaith?

Mae trefniadau'r Ardal Deithio Gyffredin yn golygu, mewn unrhyw sefyllfa lle mae’r DU yn gadael yr UE, bydd dinasyddion Prydain ac Iwerddon yn parhau i fod â'r hawl i symud yn rhwydd rhwng y DU ac Iwerddon ar ôl i'r DU adael yr UE. Mwy o wybodaeth yma: http://bit.ly/2NuRHe5