Rhaglen Cymorth i Staff - Care First
Care First Leaflet (Saesneg yn unig)
Cliciwch yma am fanylion mewngofnodi i Raglen Cymorth i Staff Care first
Mae Rhaglen Gefnogi Gweithwyr newydd ar gael o 1af Hydref, 2015 ar gyfer pob Gweithiwr.
Pwy yw Care first?
Gyda phwysau cynyddol yn y gwaith a gartref, mae adegau pan fydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol ar bob un ohonom i gydbwyso gofynion bywyd bob dydd. Mae Care first yn ddarparwr gwasanaethau cefnogi gweithwyr proffesiynol blaenllaw ac annibynnol. Mae Care first yn cyflogi Cwnselwyr ac Arbenigwyr Gwybodaeth gyda chymwysterau proffesiynol, sydd â phrofiad o helpu pobl i ddelio â phob math o faterion ymarferol ac emosiynol fel Lles, materion teuluol, perthnasoedd, rheoli dyledion, materion yn y gweithle, a llawer mwy…
Sut ydw i'n defnyddio'r gwasanaeth?
Mae Care first yn darparu cyngor a chefnogaeth gyfrinachol a diduedd bob awr o’r dydd, a phob dydd o’r flwyddyn. Cewch ddefnyddio’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim, pryd bynnag y bydd arnoch ei angen. Does dim angen i chi ofyn caniatâd eich rheolwr neu’ch sefydliad cyn cysylltu â Care first.
Gall yr EAP ddarparu llyfrynnau gwybodaeth, erthyglau, adnoddau gwybodaeth ar wasanaethau cymorth yn eich ardal leol a hyd yn oed yn cwnsela wyneb-yn-wyneb dros y tymor byr i’ch helpu i fod ar y trywydd iawn.
Ar gyfer beth ydw i'n defnyddio'r gwasanaeth?
Cynlluniwyd Care first i'ch helpu gydag ystod eang o faterion gwaith, teuluol a phersonol. O gydbwysedd bywyd a gwaith i wybodaeth am ofal plant, perthnasau i faterion yn y gweithle, iechyd a lles, gadewch i'ch EAP eich cefnogi ar y materion sy'n effeithio ar bob un ohonom ar ryw adeg yn ein bywydau. Mae’r testunau’n cynnwys, ond nid ydynt wedi’u cyfyngu i:
-
Cydbwysedd bywyd/ gwaith
-
Pherthnasau
-
Gwybodaeth gofal plant
-
Iechyd a lles
-
Dyled
-
Anabledd a salwch
-
Gyrfaoedd
-
Profedigaeth a cholled
-
Straen
-
Gwybodaeth gofal am henoed
-
Digwyddiadau bywyd
-
Mudo
-
Pryder ac iselder
-
Materion teuluol.
-
Bwlio ac aflonyddwch
-
Addysg
-
Hawliau defnyddwyr
-
Pwysau yn y gweithle
A yw'n gyfrinachol?
Nid yw eich sefydliad yn gwybod pwy sy'n defnyddio ein gwasanaeth oni bai bod yr unigolyn yn dewis dweud wrth rywun am ei gyswllt â Care first. Rydym yn darparu ystadegau i'ch sefydliad i ddangos faint o weithwyr sy’n defnyddio'r gwasanaeth a'r mathau eang o faterion y mae gweithwyr yn codi gyda ni, er enghraifft; 'perthynas yn chwalu yn y cartref' neu 'fwlio ac aflonyddu yn y gweithle', felly nid oes unrhyw wybodaeth yn cael ei throsglwyddo o gwbl a allai ddangos pwy ydych chi.
Am ragor o wybodaeth, a wnewch chi weld y dogfenni canlynol: