Yswiriant
Mae'r Brifysgol wedi trefnu yswiriant i eiddo personol a ddefnyddir ar gyfer gwaith y Brifysgol. Diben yr yswiriant hwn yw diogelu llyfrau, offer gwyddonol ac offer arall, arfau gwaith ayyb, sy'n eiddo i unigolion ond a gedwir ar dir y Brifysgol er cyfleuster. Nid yw'r yswiriant hwn yn diogelu dillad, nodiaduron electronig, cyfrifiaduron neu liniaduron personol na'r offer cysylltiedig.
Bydd yr aelod unigol o staff yn gorfod talu rhan gyntaf unrhyw hawliad (5% o uchafswm yr hyn sy'n ddyledus).
Dyma fanylion terfynau ariannol yr yswiriant a'r taliadau dros ben:-
Terfyn Ariannol | Tâl dros Ben | |
---|---|---|
Staff Academaidd | £5,000 | £250 |
Staff Academaidd-Berthynol a Staff Cynnal a Chadw | £2,000 | £100 |
Cogyddion | £500 | £250 |
Bydd angen profi pob hawliad yn fasnachol a bydd pob hawliad yn cael ei ‘gyfartaleddu'. Er enghraifft, os oes gan aelod o staff werth £10,000 o lyfrau yn ei swyddfa a'i fod yn gwneud hawliad yn sgil difrod gwerth £1,000, dim ond 50% o'r hawliad fyddai'n cael ei ad-dalu (namyn y tâl dros ben o £250). Argymhellir yn gryf, felly, bod aelodau o staff yn cadw at derfynau ariannol yr yswiriant. Dylid anfon unrhyw ymholiadau/hawliadau at y Swyddfa Gyllid.
Fersiwn v270207