Tâl Gwyliau - Cwestiwn ac ateb

A fydd y newidiadau yma yn golygu y bydd staff yn gweld unrhyw gwtogi yn eu cyflog?

Na. Ni fydd y newidiadau yma yn achosi afles i unrhyw aelod o staff, ac ni fyddant yn gweld unrhyw newid yn eu taleb gyflog. Pwrpas mabwysiadu’r broses yma ydy i gofnodi tâl gwyliau yn unol a chyfnod penodol pan nad yn gweithio er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol.

Beth os ydy’r unigolyn yn gweithio’n llawn amser ar hyn o bryd, ac felly, ni cheir unrhyw gyfnod lle gellir cofnodi gwyliau?

Os taw dyma’r achos, mae’n bosib fod yr unigolyn ar y math anghywir o gytundeb, ac fe ddylai’r rheolwr llinell gysylltu â AD i drafod hyn.

Gall yr unigolyn logi amser penodol ar gyfer gwyliau ymlaen llaw?

Gall yr unigolyn ddewis cael ei dalu am yr oriau o wyliau sydd wedi’u cronni ar y pryd, neu fe fedrant ddewis cael eu talu am yr oriau a weithiwyd yn unig, gan gadw’r hawl am dâl gwyliau ar gyfer diwrnod penodol. Os taw dyma yw eu dymuniad, NI ddylid cwblhau Rhan 2 o’r daflen amser, ac fe ddylid nodi faint o oriau sydd wedi’u cronni. Pan fydd yr unigolyn yn dewis cymeryd y gwyliau yma, dylid cofnodi hyn ar Ran 1 o’r daflen amser, yn yr adran “Tâl Gwyliau”. Eto, ni ddylid llenwi Rhan 2 o’r daflen amser yn yr amgylchiadau yma.

A gaiff hyn unrhyw adwaith ar hawl neu ar gyfrifo tâl diswyddo?

Na. Selwyd tâl diswyddo ar y tâl sylfaenol yn flaenorol, ac felly, ni fydd unrhyw newid yn y modd y cyfrifir hyn.

A fydd unrhyw newid gweledol i’r cytundeb?

Bydd, oherwydd fe fydd y tâl fesul awr yn ymddangos fel petai’n is, oherwydd ni fydd yn cynnwys yr elfen yma o lwfans tâl gwyliau.