Polisi Iechyd a Lles - Atodiad A

O ran materion sy’n ymwneud â straen, mae’r Brifysgol yn cydnabod bod gan yr Undebau Llafur gyfrifoldebau penodol a amlinellir isod gan yr adran Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd. Dyma gyfrifoldebau’r Undebau Llafur:

  1. bod â swyddogaeth arweiniol a rhagweithiol wrth wella amodau gwaith eu haelodau.
  2. monitro perfformiad y cyflogwr
  3. sicrhau bod y cyflogwr yn cydweithredu’n effeithiol â hwy i weithredu mesurau rheoli i atal salwch sy’n ymwneud â straen rhag digwydd
  4. sicrhau bod unrhyw un sy’n bwlio yn cael eu trin fel perygl yn y gweithle a’u bod yn cael asesiad risg i atal hyn rhag digwydd eto
  5. sicrhau bod y baich gwaith yn rhesymol a’i fod yn cael ei benderfynu ar y cyd ag aelodau unigol o staff
  6. sicrhau bod yr oriau’n cael eu rheoli
  7. sicrhau y cytunir ar unrhyw benderfyniadau sy’n cael eu gwneud yn hytrach na’u gorfodi, ac amddiffyn eu haelodau yn gyffredinol
  8. cael digon o amser o’r gwaith i allu cyflawni eu gwaith o fod yn gynrychiolydd diogelwch yn effeithiol
  9. cael rhwydd hynt i weld gwybodaeth y tîm rheoli
  10. cymryd rhan mewn gwaith datblygu polisïau drwy ymgynghori, trafod a dod i gytundeb ar y cyd mewn modd priodol.

Fersiwn 060508