Dyletswydd Prevent

05 Mehefin 2017

Dylai pob cydweithiwr feddu ar ymwybyddiaeth o ofynion y Canllaw Dyletswydd Prevent.

Mae Deddf Gwrth-Derfysgaeth a Diogelwch 2015 yn nodi bod gan awdurdodau penodol ddyletswydd i atal pobl rhag cael eu denu gan derfysgaeth. Mae hyn yn golygu bod gan brifysgolion ddyletswydd statudol i ymgymryd ag agenda Prevent y llywodraeth. Yn rhan 26(1) Deddf Gwrth-Derfysgaeth a Diogelwch 2015 nodir bod dyletswydd ar “awdurdodau penodol” wrth gyflawni eu gweithrediadau i lawn ystyried yr amod i atal pobl rhag cael eu denu i derfysgaeth. ‘Dyletswydd Prevent’ yw’r enw sydd wedi’i roi i hyn.

Cewch wybodaeth bellach yn: https://www.aber.ac.uk/cy/hse/proc-prac/prevent/