Neges Fisol Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd

Mae ymgyrch ‘Go Home Healthy’ yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi nodi agweddau allweddol a allai gael effaith anffafriol ar iechyd a lles gweithwyr. Un o’r agweddau hyn yw straen, a ddiffinir fel yr ymateb anffafriol y mae pobl yn ei gael i bwysau gormodol neu fathau eraill o alwadau a roddir arnynt.

Mae’r Awdurdod wedi nodi chwe factor a all gyfrannu tuag at straen sy’n gysylltiedig â gwaith:

  • gofynion eich swydd;
  • eich rheolaeth dros eich gwaith;
  • y gefnogaeth a gewch gan reolwyr a chydweithwyr;
  • eich perthynas â phobl yn y gwaith;
  • eich sefyllfa yn y sefydliad;
  • newidiadau a’r dulliau o’u rheoli.

Mae’n rhaid hefyd cydnabod y gall ffactorau eraill fel materion teuluol, llety neu bersonol gyfrannu at effeithiau straen.

Mae straen yn effeithio’n wahanol ar bawb, ond mae’r CIG wedi pennu 10 dull cyffredinol, a allai helpu i drin effeithiau straen:

  1. Byddwch yn fywiog – gall ymarfer corff leihau peth o’r dwysedd emosiynol yr ydych yn ei deimlo, gan glirio eich meddwl a gadael i chi drin eich problemau’n fwy pwyllog.
  2. Cymerwch Reolaeth – Mae ateb i bob problem. Mae’r weithred o gymryd rheolaeth yn rymus ynddi’i hun, ac mae’n rhan allweddol o ganfod ateb sy’n eich bodloni chi ac nid rhywun arall.
  3. Cysylltwch â phobl – Gall rhwydwaith cefnogol o gydweithwyr, ffrindiau a theulu leddfu eich problemau yn y gwaith a’ch helpu i weld pethau’n wahanol.
  4. Cymerwch amser i chi’ch hunan – Yn aml, nid ydym yn treulio digon o amser yn gwneud yr hyn rydym yn wir yn ei fwynhau.
  5. Heriwch eich hunan – Mae gosod nod a heriau, yn y gwaith neu fel arall, fel dysgu iaith neu gamp newydd, yn gall adeiladu hyder ac ymdrin â straen.
  6. Osgoi Arferion Afiach – Peidiwch â dibynnu ar alcohol, ysmygu na chaffein yn ddull o ymdopi.
  7. Helpwch bobl eraill – Mae na dystiolaeth bod pobl sy’n helpu eraill, drwy weithgareddau fel gwirfoddoli neu waith yn y gymuned, yn fwy abl i ymdopi.
  8. Gweithio’n ddoethach, nid yn galetach – Mae gweithio’n ddoethach yn golygu blaenoriaethu gwaith, gan ganolbwyntio ar y tasgau sydd wir yn gwneud gwahaniaeth.
  9. Ceisio bod yn gadarnhaol – Chwiliwch am y pethau cadarnhaol mewn bywyd, a’r pethau yr ydych yn ddiolchgar amdanynt.
  10. Derbyn pethau na allwch eu newid – Nid yw bob amser yn bosibl newid sefyllfa anodd. Ceisiwch ganolbwyntio ar y pethau y gallwch eu rheoli.

Cewch wybodaeth bellach am y dulliau hyn yn: https://www.nhs.uk/conditions/stress-anxiety-depression/reduce-stress/

Bydd aelodau o’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd yn mynd i Ddigwyddiad Iechyd a Lles y Brifysgol, a gynhelir Ddydd Iau 13 Medi. Cewch wybodaeth bellach ynghylch y digwyddiad yma

Archif