Neges Fisol Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd (2014)

I weld negeseuon Misol Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd y gorffennol, dewiswch o'r tabiau canlynol:

Rhagfyr

Holly PictureSut i gadw’n ddiogel dros y Nadolig

Mae’r Nadolig yn amser arbennig i ddathlu ac ni ddylai orffen mewn trychineb oherwydd y peryglon ychwanegol sy’n bresennol yr adeg hon o’r flwyddyn.

Mae’r canlynol yn cyfeirio at unrhyw ardduniadau neu goed a brynir i addurno adeiladau’r Brifysgol:

  • Peidiwch â rhoi Coed Nadolig wrth ymyl allanfa neu ddihangfa dân, lle gall fod yn berygl tân neu faglu rhywun.
  • Rhaid i unrhyw goed Nadolig neu unrhyw addurniadau eraill sydd â chyflenwad trydan basio prawf offer cludadwy.
  • Mae goleuadau math LED yn gweithredu ar dymheredd tipyn is ac yn ddewis mwy diogel.
  • Ni chaniateir coed Nadolig iawn. Gweler y ddolen: http://www.youtube.com/watch?v=EdO1nFXGS0Y
  • Dylai pob addurn fel tinsel a garlantau fod yn arafwyr tân.
  • Cymerwch ofal wrth osod cardiau Nadolig ac addurniadau i beidio â gorchuddio tyllau awyru mewn offer trydanol.
  • Rhaid adolygu eich asesiadau risg er mwyn perderfynu a ydynt dal yn foddhaol.

Diolch am eich cydweithrediad.

Dymuna’r Adran Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd Nadolig Llawen a dymuniadau gorau ar gyfer y flwyddyn newydd i chi.

A oeddech yn gwybod…..?

Dechreuodd canhwyllau tua 1,000 tân mewn cartrefi yn y Deyrnas Gyfunol, gan arwain at 9 marwolaeth a 388 o anafiadau, yn 2011/12.

Achosodd goleuadau bychain 20 tân, ac achosodd coed Nadolig iawn 47 tân yn y cartref, gan achosi anafiadau an-angheuol i 20 o bobl, ar draws y Deyrnas Gyfunol.

Ffynhonnell: 2011/12 Fire Statistics Great Britain from the Department for Communities and Local Government.

Tachwedd

FireworkNoson Tân Gwyllt Ddiogel i chi! Ystyriwch fynychu digwyddiad wedi’i drefnu yn hytrach na pheryglu eich diogelwch drwy gael eich coelcerth eich hunain.

Ond os ydych chi’n dal i fod eisiau eich coelcerth eich hun…….

Sicrhewch eich bod yn ymwybodol o’r canllawiau canlynol:

  • Dylai coelcerthi fod 18 metr i ffwrdd o adeiladau, coed, ffensys, gwifrau uwchben a meysydd parcio. Dim ond coed glân a sych y dylid eu llosgi.
  • Peidiwch â llosgi: erosolau, batris, boteli, dodrefn sydd wedi’u llenwi â sbwng; tuniau paent, teiars.
  • Ni ddylai coelcerthi fod yn fwy na 3 metr mewn uchder. Dylid rhoi rhwystr addas o amgylch y goelcerth i gadw gwylwyr 5 metr i ffwrdd.
  • Peidiwch â defnyddio’r canlynol i gynnau coelcerth: Petrol, paraffin, disel, gwirod gwyn neu wirod methyl.
  • Defnyddiwch danwydd addas yn lle!
  • Sicrhewch nad oes plant nag anifeiliaid yn cuddio yn y goelcerth cyn ei chynnau.
  • Cadwch fwcedi o ddŵr yn agos rhag ofn bod argyfwng ac i wlychu popeth ar ddiwedd y digwyddiad.
  • Caiff coelcerthi a adeiledir ar dir cyngor heb ganiatâd eu dileu.

CÔD DIOGELWCH TÂN

  • Yn ddelfrydol, ewch i ddigwyddiad wedi’i drefnu.
  • Ni ddylid gwerthu tân gwyllt i unrhyw un o dan 18 mlwydd oed.
  • Prynwch dân gwyllt wedi’u marcio â BS 7114 neu CE.
  • Cadwch dân gwyllt mewn blwch metel wedi’i gau.
  • Dilynwch y cyfarwyddiadau ar bob tân gwyllt.
  • Rhaid eu cynnau o hyd braich gan ddefnyddio tapr.
  • Sefwch ddigon pell yn ôl.
  • Peidiwch â dychwelyd at dân gwyllt sydd wedi’i gynnau.
  • Peidiwch â rhoi tân gwyllt yn eich poced.
  • Cadwch fwced o ddŵr yn agos os ydych yn tanio tân gwyllt yn yr ardd.
  • Peidiwch â thaflu tân gwyllt.
  • Cadwch anifeiliaid anwes tu fewn.
  • Nid yw alcohol a thân gwyllt yn cymysgu a gall arwain at anaf.

Hydref

Ymwybyddiaeth YfedBear with Sore Head

Mwynhau bod yn ôl yn y Brifysgol? Gobeithio'n wir, er efallai fod y cur pen o’ch noson yn y Pier yn eich cadw rhag mwynhau'ch pasta! Dyma rai pwyntiau a allai'ch helpu i fwynhau eich noson allan heb ddioddef y diwrnod wedyn ….

Bwytewch rywbeth! Sicrhewch eich bod yn cael swper sylweddol cyn mynd i’r dref- dim swper hylif yn unig!

Dylech wybod eich terfynau a chadw llygad ar yr hyn rydych yn ei yfed – beth am roi cynnig ar ddefnyddio’r ap Drinkaware?

Gwnewch 'foc-têl' o'ch coctel! Beth am flasu coctêl di-alcohol?

Gofalwch am eich gilydd! Dyma i beth mae ffrindiau yn dda!

Mwynhewch!

#drinkaware

Darganfyddwch faint o alcohol sydd yn eich hoff ddiod!