Neges Fisol Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd (2016)

I weld negeseuon Misol Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd y gorffennol, dewiswch o'r tabiau canlynol:

Rhagfyr

Mae’r Nadolig yn amser ar gyfer y teulu ac i ddathlu, ond mae data swyddogol yn dangos ei bod hefyd yn un o adegau mwyaf peryglus y flwyddyn. O ganlyniad, mae’n bwysig eich bod yn cadw’n ddiogel wrth fwynhau’r ŵyl.

Mae’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau wedi llunio’r 12 awgrym canlynol i helpu i atal damweiniau ac anafiadau dros gyfnod y Nadolig:

  1. Gwnewch yn siŵr eich bod yn prynu anrhegion plant ar gyfer y grŵp oedran cywir, ac o ffynonellau dibynadwy a chyfrifol sy’n cydymffurfio â’r safonau perthnasol (e.e. Rheoliadau (Diogelwch) Teganau 2011);
  2. Cofiwch brynu batris ar gyfer teganau y mae eu hangen arnynt – trwy wneud hyn, ni fyddwch yn cael eich temtio i dynnu batris o larymau mwg;
  3. Cadwch lygad allan am eitemau bach y gallai plant bach dagu arnynt, gan gynnwys darnau sydd wedi syrthio oddi ar deganau neu’r goeden Nadolig, batris botwm a balwnau sydd wedi byrstio;
  4. Cadwch addurniadau a chardiau i ffwrdd o danau a ffynonellau gwres eraill, fel goleuadau. Peidiwch â gadael canhwyllau i losgi heb oruchwyliaeth. Sicrhewch eich bod yn eu diffodd cyn mynd i’r gwely, a pheidiwch â rhoi canhwyllau ar goed Nadolig;
  5. Os oes gennych hen oleuadau Nadolig, ystyriwch brynu rhai newydd a fydd yn bodloni safonau diogelwch uwch o lawer. Ni ddylid cynnau’r goleuadau nes byddwch wedi gorffen addurno’r goeden Nadolig. Peidiwch â gadael i blant chwarae gyda’r goleuadau (mae rhai wedi llyncu bylbiau), a chofiwch ddiffodd y goleuadau pan fyddwch yn gadael y tŷ neu’n mynd i’r gwely;
  6. Cofiwch, nid teganau yw addurniadau Nadolig, hyd yn oed os ydynt yn edrych fel rhai, ac felly nid oes rhaid iddynt gydymffurfio â rheoliadau diogelwch teganau. Dylech ystyried ble i’w gosod yn ofalus iawn, er enghraifft, eu rhoi i fyny yn uchel ar y goeden Nadolig lle na fydd modd i ddwylo ifanc eu cyrraedd;
  7. Rhowch ddigon o amser i’ch hun i baratoi a choginio cinio Nadolig i osgoi damweiniau gyda braster poeth, dŵr berwedig a chyllyll miniog a all ddigwydd wrth ruthro. Dylech gadw unrhyw un nad ydynt yn helpu gyda’r coginio allan o’r gegin. Os ydych yn sarnu unrhyw beth, cofiwch ei sychu ar unwaith;
  8. Sicrhewch fod siswrn wrth law i agor pecynnau, a sgriwdreifer i roi’r teganau at ei gilydd, fel na chewch eich temtio i ddefnyddio cyllell;
  9. Byddwch yn ofalus o geblau a gwifrau wrth i chi ruthro i gysylltu teclynnau newydd, a chofiwch ddarllen y cyfarwyddiadau bob tro;
  10. Cwympo yw’r math mwyaf cyffredin o ddamwain, felly rhowch unrhyw sbwriel o’r neilltu. Sicrhewch fod y grisiau wedi’u goleuo’n dda ac nad oes unrhyw rwystrau, yn enwedig os oes gennych westeion;
  11. Cynlluniwch unrhyw bartïon tân gwyllt y Flwyddyn Newydd ymlaen llaw a dilynwch y Côd Diogelwch Tân Gwyllt;
  12. Peidiwch ag yfed a gyrru, a chynlluniwch unrhyw deithiau hir fel na fyddwch yn gyrru wedi blino.

Hoffai Adran Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd lewyrchus i chi gyd. Edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio’n agos gyda chi yn 2017.   

Tachwedd

Yn dilyn cyflwyniad Termpled Asesu Risg diwygiedig y Brifysgol, dylai cydweithwyr fod yn ymwybodol o bwysigrwydd cyfathrebu’n mesurau rheoli a nodir yn effeithiol. Mae’r Templed Asesu Risg a’r Canllawiau Cynorthwyol ar gael yn: https://www.aber.ac.uk/cy/hse/proc-prac/risk-assessment/

Does dim diben nodi mesurau rheoli drwy asesu risg os nad ydynt yn cael eu mynegi’n effeithiol wrth y rhai sydd yn ymgymryd â’r dasg. Y gweithwyr sydd yn ymgymryd â’r dasg sydd yn wynebu’r risg fwyaf o’r peryglon cysylltiedig, felly rhaid i reolwyr sicrhau bod y gweithwyr wedi’u cynnwys yn y broses ac yn hollol ymwybodol ohoni.

Gwelwch isod gamau gweithredu allweddol a awgrymir gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) er mwyn sicrhau cyfathrebu effeithiol mewn sefydliadau:

Arweinwyr

  • Sicrhau bod amser wedi’i bennu ar gyfer cyfathrebu;

Rheolwyr

  • Nodi cynlluniau i ddyrannu gwybodaeth. Cofiwch gynllunio sut i drosglwyddo’r neges i gontractwyr, unrhyw un â lefelau isel o lythrennedd, neu rai nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt;
  • Meddyliwch am yr hyn sydd angen ei gyfathrebu ac i bwy. Sut fyddwch chi’n cyfathrebu eich polisi iechyd a diogelwch, canlyniadau asesiad risg a systemau diogel o weithio?;
  • Lluniwch weithdrefnau cyfathrebu clir ar gyfer tasgau lle mae diogelwch yn hanfodol;
  • Lle bo angen, cynlluniwch eich cyfathrebu â’r gwasanaethau brys. Pwy fydd yn cydlynu hyn a sut y bydd yn cael ei wneud?;
  • Sicrhewch bod cyfathrebu wedi’i gynnwys yn y gweithdrefnau ar gyfer rheoli newid;
  • Sicrhewch bod cyfarwyddiadau ysgrifenedig yn glir ac wedi’u diweddaru;
  • Sicrhewch bod negeseuon sy’n hanfodol i ddiogelwch yn cael sylw ac yn cael eu deall;

Ymgynghoriad ac ymglymiad gweithwyr

  • Cynnwys gweithwyr neu eu cynrychiolwyr wrth gynllunio gweithgareddau cyfathrebu. Byddwn yn gallu eich cynorthwyo i nabod a datrys rhwystrau i gyfathrebu o fewn y sefydliad;
  • A yw gweithwyr yn medru rhoi adborth ac adrodd ar unrhyw bryderon?;
  • A ydych wedi ystyried grwpiau bregus o fewn y gweithlu yn eich cynlluniau cyfathrebu, e.e. gweithwyr ifanc neu amhrofiadol, gweithwyr ag anabledd neu weithwyr sy’n ymfudwyr;

Hydref

Mae cofnodi mathau penodol o ddigwyddiadau yn ofyniad cyfreithiol. Mae’r cofnod yn hysbysu’r awdurdodau gorfodi ynghylch marwolaethau, anafiadau, afiechydon galwedigaethol a digwyddiadau peryglus, fel y gallant weld lle a sut mae peryglon yn codi, ac os oes angen ymchwilio iddynt. Fel hyn gall yr awdurdodau dargedu eu gwaith a darparu cyngor ynghylch osgoi marwolaethau, anafiadau, afiechydon a cholledion damweiniol yn y gwaith. Mae’r gofynion hyn wedi’u nodi gan y Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR) 2013.

Dim ond yn yr amgylchiadau isod mae angen adroddiad RIDDOR:

  • Os bu damwain a achosodd anaf;
  • Os oedd y ddamwain yn gysylltiedig â gwaith;
  • Os yw’n achosi anaf y dylid adrodd amdano.

Mae’r rheoliadau’n cynnwys diffiniadau ar gyfer anafiadau adroddadwy neu benodol, sy’n cynnwys:

  • Marwolaeth unrhyw berson;
  • Anafiadau penodol i weithwyr;
  • Anafiadau i weithwyr sydd yn arwain at analluogi am fwy na 7 diwrnod;
  • Anafiadau i bobl nad ydynt yn weithwyr sydd yn achosi iddynt cael eu cymryd yn syth i’r ysbyty am driniaeth, neu anafiadau penodol i bobl nad ydynt yn weithwyr sydd yn digwydd mewn adeiladau ysbyty.

Polisi’r Brifysgol yw y bydd yr Adran Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd yn cwblhau unrhyw adroddiadau RIDDOR, ac y byddant yn penderfynu os yw digwyddiad yn un y dylid adrodd arno yn ôl y rheoliadau hyn. 

Er mwyn sicrhau bod y mesuriadau cywir wedi’u cymryd ar gyfer pob digwyddiad, cwblhewch ffurflen cofnodi digwyddiad ar gyfer pob digwyddiad neu achos ‘trwch blewyn’. Cewch ragor o wybodaeth yn ymwneud â chofnodi digwyddiadau, gan gynnwys copïau o’r ffurflen cofnodi digwyddiadau a gweithdrefn cofnodi digwyddiadau y Brifysgol, yn: https://www.aber.ac.uk/cy/hse/proc-prac/incident-reporting/

Mae rhagor o wybodaeth yn ymwneud â RIDDOR ar gael yn: http://www.hse.gov.uk/riddor/.

Medi

Gweithio ar eich Pen eich Hun

Mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb cyfreithiol dros iechyd a diogelwch pob aelod o staff, gan gynnwys gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain. Gellir diffinio ‘gweithiwr ar ei ben ei hun’ fel unrhyw weithiwr sy’n gweithio ar ei ben ei hun heb oruchwyliaeth agos neu uniongyrchol, gan gynnwys rhywun sy’n gweithio ar ei ben ei hun mewn labordy neu weithdy, gweithwyr o’r cartref, rhywun sy’n gweithio mewn lleoliadau anghysbell, neu weithwyr symudol i ffwrdd o’r gweithle.

Dylai pob aelod o staff fod yn ymwybodol o ofynion y Polisi Gweithio ar eich Pen eich Hun, a gyflwynwyd yn ddiweddar, sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch sut i sicrhau eu diogelwch a’u lles eu hunain ac eraill tra eu bod yn gweithio ar eu pen eu hunain. Mae’r Polisi Gweithio ar eich Pen eich Hun ar gael yma, ac mae’r canllawiau perthnasol ar gael yma.   

Mae asesiadau risg wrth galon y Polisi, gan fod gan gyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol i asesu pob risg i iechyd a diogelwch (gan gynnwys risgiau sy’n gysylltiedig â gweithio ar eich pen eich hun). Mae’n ofynnol i bob Athrofa ac Adran Gwasanaeth Proffesiynol sicrhau, drwy’r Rheolwyr Llinell, bod asesiadau risg addas a digonol yn cael eu cynnal ym mhob achos lle bo un o’u haelodau staff yn gweithio ar ei ben ei hun. Mae gan weithwyr hefyd ddyletswydd gofal i’w cyflogwyr i sicrhau eu bod yn dilyn canlyniadau’r asesiad risg, ac i fod yn gyfrifol am eu diogelwch eu hunain yn ogystal â diogelwch pobl eraill a allai gael eu heffeithio gan eu gwaith.

Dylid ystyried y materion canlynol i sicrhau nad yw pobl sy'n gweithio ar eu pen eu hunain yn cael eu gosod mewn perygl:

  • asesu'r meysydd risg gan gynnwys trais, codi a chario, addasrwydd meddygol yr unigolyn i weithio ar ei ben ei hun, ac a yw'r gweithle ei hun yn cyflwyno risg iddo;
  • y gofynion o ran hyfforddiant, lefelau profiad yr unigolyn, a sut orau i’w fonitro a’i oruchwylio;
  • gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod beth sy'n digwydd, gan gynnwys sicrhau bod systemau yn eu lle i gadw mewn cysylltiad â’r gweithiwr.

Ceir canllawiau pellach yn ymwneud â Gweithio ar eich Pen eich Hun yn: https://www.aber.ac.uk/cy/hse/proc-prac/gweithioareichpeneichhun/.

Am wybodaeth yn ymwneud â hyfforddiant asesu risg, gan gynnwys manylion y cyrsiau nesaf, gweler: https://www.aber.ac.uk/en/hse/training/risk-training/.

Awst

Dyfais neu offer sydd â sgrin arddangos graffig neu alffaniwmerig yw Offer Sgrin Arddangos (OSA), waeth beth yw’r broses arddangos. Mae’n cynnwys sgrinau arddangos confensiynol a’r rhai a ddefnyddir mewn technolegau sy’n dod i’r amlwg fel gliniaduron, offer cyffyrdd-sgrîn, ac offer tebyg.

Gellir cysylltu gweithfannau neu offer cyfrifiadurol â phoen gwddf, ysgwydd, cefn neu bwll braich , yn ogystal â blinder a straen llygaid, yn enwedig i ddefnyddwyr rheolaidd, sy’n defnyddio OSA mewn dull dwys yn rhan o’u gwaith arferol.

O ganlyniad, mae’n hanfodol bod defnyddwyr OSA, yn enwedig rhai y mae eu gwaith yn cynnwys OSA yn rhan sylweddol o’u gwaith, yn sicrhau eu bod yn cymryd asesiad o’r risgiau sy’n gysylltiedig â defnyddio OSA ac unrhyw anghenion arbennig ar gyfer aelodau staff penodol.  

Fe’ch cynghorir i dorri cyfnodau hir o waith OSA. Ma’r mwyafrif o swyddi yn rhoi cyfle i gymryd seibiant i wneud gwaith arall, fel copïo neu ffeilio. Mae’n well os yw defnyddwyr yn gallu cymryd egwyl neu newid gweithgareddau a symud o gwmpas, neu o leiaf ymestyn neu newid osgo. Mae cymryd egwyl fer reolaidd hefyd yn well nag egwyl hirach mwy anaml h.y. 5-10 munud o egwyl bob awr yn hytrach nag 20 munud bob 2 awr.

Dylid arolygu pob asesiad gweithfan yn flynyddol, pan fyddwch yn creu gweithfan newydd, wrth i ddefnyddiwr newydd ddechrau yn y gwaith, neu os oes newid sylweddol wedi’i wneud i weithfan (neu’r ffordd y caiff ei defnyddio). Dylid ailwneud asesiadau os oes unrhyw reswm i gredu nad yw’r canlyniadau bellach yn ddilys.   

Gall y modiwl E-ddysgu ‘Gweithio’n Ddiogel Gyda Cyfrifiaduron’ gynorthwyo defnyddwyr gyda chymorth rhyngweithiol i osod eu gweithfannau. I gael manylion mynediad a gwybodaeth bellach am y modiwl hwn, cysylltwch â’r Adran Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ar hasstaff@aber.ac.uk neu ar estyniad 2073.

Mae’r Cyfarwyddiadau Ymarferol Safonol i’w cael yn: https://www.aber.ac.uk/en/media/departmental/healthsafetyenvironment/DSE_Standard_Practice_Instruction_Revised.pdf.

Cewch gopiau o’r Rhestr Wirio Gweithfan VDU yma: https://www.aber.ac.uk/en/media/departmental/healthsafetyenvironment/vduchecklist_welsh.pdf.

Cewch wybodaeth bellach ynghylch Offer Sgrin Arddangos fan hyn:  https://www.aber.ac.uk/cy/hse/proc-prac/dse/.

Gorffennaf

Fel mae misoedd yr haf yn dynesu, a’r tymheredd yn codi, mae’n bwysig eich bod yn cymryd camau priodol wrth weithio yn yr haul. Mae gormod o olau haul yn niweidiol i’r croen. Gall achosi difrod i’r croen sy’n cynnwys llosg, pothellu a heneiddio’r croen (mae lliw haul hefyd yn arwydd o ddifrod i’r croen), a gall yr effeithiau hir-dymor arwain at risg uwch o ganser y croen. Mae canser y croen yn un o’r ffurfiau mwyaf cyffredin o ganser ym Mhrydain, a gwelir 50,000 o achosion newydd pob blwyddyn.

Os ydych yn gweithio tu allan am gyfnodau hir, gellir rhoi eich croen yn agored i fwy o haul nag sy’n iach i chi. Awgrymir i chi gymryd gofal penodol os oes gennych:

  • Croen golau neu frycheulyd sydd ddim yn cymryd lliw haul, neu’n mynd yn goch neu’n llosgi cyn cael lliw haul;
  • Gwallt coch neu olau neu lygaid lliw golau;
  • Nifer fawr o fannau geni.

Mae’r Awdurdod Iechyd a Diogelwch (HSE) yn cynghori y dylai gweithwyr ddilyn y canllawiau canlynol er mwyn amddiffyn eu hunain rhag yr haul:

  • Peidiwch â thynnu eich crys;
  • Gwisgwch het gyda phig neu ddarn sy’n gorchuddio’r clustiau a chefn y gwddf;
  • Arhoswch yn y cysgod cymaint â phosib, yn ystod egwylau, ac yn enwedig yn ystod amser cinio;
  • Defnyddiwch eli haul sydd o leiaf SPF15 ar unrhyw groen sydd yn y golwg;
  • Yfwch ddigon o ddŵr er mwyn osgoi dadhydradu;
  • Edrychwch ar eich croen yn rheolaidd am unrhyw fannau geni neu smotiau. Ewch i weld meddyg yn syth os sylwch ar unrhywbeth sy’n newid mewn siâp, maint neu liw, sy’n cosi neu’n gwaedu.

Dylai staff sydd ag unrhyw bryderon yn ymwneud â bod allan yn yr haul wrth weithio gysylltu â’u rheolwr llinell neu’r adran Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd yn hasstaff@aber.ac.uk neu ar estyniad 2073.

Mehefin

Mae teithio yn rhan annorfod o weithgareddau dysgu, ymchwil a masnachol y Brifysgol, ond mae’n rhaid sicrhau ein bod yn ymgymryd â diwydrwydd dyladwy er mwyn sicrhau diogelwch staff a myfyrwyr sydd yn teithio ar fusnes y Brifysgol. Gall y fath weithgareddau gynnwys mynd i gynhadleddau, gwaith maes, neu leoliadau gwaith.

Cyn gwneud unrhyw drefniadau, dylid cymeradwyo natur a diben y teithio gan unigolyn priodol o fewn yr Athrofa neu Adran Gwasanaeth Proffesiynol. Dylai cydweithwyr sicrhau bod asesiadau risg priodol a chynhwysfawr yn cael eu cwblhau a’u hadolygu cyn unrhyw deithio ar ran y Brifysgol. Cewch rhagor o wybodaeth ynghylch Asesu Risg yn http://www.aber.ac.uk/cy/hse/proc-prac/risk-assessment/ a gellir archebu lle ar gyrsiau Asesu Risg trwy: https://stafftraining.aber.ac.uk/hs/list_courses.php.

Dylid ystyried y cyngor ynglŷn â theithio dramor a ddarperir gan y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad, sydd ar gael yn: https://www.gov.uk/foreign-travel-advice. Dylid cyfeirio at y cyngor yn gyson yn ystod y cyfnod yn arwain i fyny at y daith, a disgwylir y bydd staff a myfyrwyr yn cydymffurfio â’r cyngor diweddaraf a ddarparwyd.

Mae’n rhaid i staff a myfyrwyr sy’n teithio dramor am unrhyw reswm yn gysylltiedig â’r Brifysgol roi gwybod i’r Adran Gyllid er mwyn trefnu’r yswiriant priodol. Er mwyn gwneud hynny, ebostiwch insurance@aber.ac.uk gyda manylion am:

  • Dyddiad(au)’r Teithio;
  • I ble;
  • Pwrpas y Teithio.

Dylai cydweithwyr hefyd sicrhau bod eu Hathrofa neu Adran Gwasanaeth Proffesiynol yn ymwybodol o’u lleoliad drwy gydol eu taith ac y gellir cysylltu os oes angen drwy ddull y penderfynwyd arno cyn teithio.  

Mae dogfennau defnyddiol i’w cario wrth deithio yn cynnwys:

  • Copi o’ch tystysgrif yswiriant teithio, a fydd yn cynnwys y rhif argyfwng meddygol;
  • Copi o’ch gwybodaeth teithio;
  • Copi o’r asesiad(au) risg priodol;
  • Mae rhifau cyswllt defnyddiol yn cynnwys rhif 24 awr y Brifysgol (01970 622 999) a Cyfnewidfa’r Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad (020 7008 1500).

Mai

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl y Sefydliad Iechyd Meddwl, a gynhelir rhwng 16-22 Mai, yn bwriadu addysgu’r cyhoedd ynghylch materion iechyd meddwl a hyrwyddo gwell arferion iechyd meddwl. Mae’r digwyddiad wedi hybu trafodaethau cyhoeddus am y ffordd y mae ffactorau fel pryder, diffyg cwsg ac ymarfer corff yn gallu effeithio ar iechyd meddwl. Thema eleni yw perthynas, gan fod perthnasau iach a chefnogol yn lleihau risg afiechyd meddwl, ac mae rhwydweithiau cymdeithasol cryf yn gwella ein lles meddyliol.

Cewch rhagor o wybodaeth ynghylch Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl y Sefydliad Iechyd Meddwl drwy ddilyn y ddolen ganlynol: https://www.mentalhealth.org.uk/campaigns/mental-health-awareness-week.

Mae’r GIC yn amcangyfrif y bydd un o bob pedwar person yn dioddef o gyflwr iechyd meddwl yn ystod eu bywyd, felly mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r hyn y gallwn ni ei wneud i wella’n lles meddyliol.

Mae’r GIC yn awgrymu ‘pum cam i les meddyliol’ er mwyn gwella eich lles meddyliol:

  1. Cysylltu – cysylltwch â’r bobl o’ch amgylch: teulu, ffrindiau, cydweithwyr a chymdogion. Treuliwch amser yn datblygu’r perthnasau hyn.
  2. Byddwch yn weithgar – does dim rhaid mynd i’r gampfa. Cerddwch, seiclwch neu chwaraewch gêm o bêl-droed. Dewch o hyd i weithgaredd rydych yn ei fwynhau a’i wneud yn rhan o’ch bywyd.
  3. Daliwch i ddysgu – mae dysgu sgil newydd yn gallu rhoi teimlad o gyflawniad a hyder newydd. Beth am gofrestru am ddosbarth coginio, dechrau chwarae offeryn, neu ddysgu sut i drwsio’ch beic?
  4. Rhowch i eraill – mae hyd yn oed y weithred lleiaf yn cyfri, hyd yn oed gwên, diolch, neu air caredig. Mae gweithred fwy, fel gwirfoddoli mewn canolfan gymunedol leol, yn medru gwella eich lles meddyliol a helpu i adeiladu rhwydweithiau cymdeithasol newydd.
  5. Byddwch yn ofalgar – byddwch yn fwy ymwybodol o’r presennol, gan gynnwys eich meddyliau a’ch teimladau, eich corff a’r byd o’ch hamgylch. Mae rhai bobl yn galw’r ymwybyddiaeth hyn yn ‘ymwybyddiaeth ofalgar’. Gall newid y ffordd rydych yn teimlo am fywyd a sut rydych yn gwynebu heriau am y gorau.

Mae Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yn darparu amrywiaeth o wasanaethau a chymorth i fyfyrwyr yn ymwneud â lles iechyd meddwl. Mae’n bwysig bod staff a myfyrwyr yn gyfarwydd â’r gwasanaethau hyn, felly cymerwch ychydig o amser i gyfarwyddo â’r gwasanaethau cymorth a ddarperir, a’r manylion cyswllt priodol. Cewch fanylion ynghylch y cymorth iechyd meddwl a ddarperir gan Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr fan hyn: https://www.aber.ac.uk/cy/student-support/health/mental-health/. Gall aelodau staff elwa o’r Rhaglen Cymorth i Staff, gyda manylion yn: http://www.aber.ac.uk/cy/hr/employment-information/eap-carefirst/.

Mae gan y Brifysgol hefyd nifer o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, sydd wedi’u hyfforddi mewn Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Hwy yw’r pwynt cyswllt cyntaf i fyfyrwyr a staff sy’n mynd trwy gyfnod o ofid neu anawsterau iechyd meddwl, a gallant gyfeirio pobl at y gwasanaethau priodol. Cewch fanylion am Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl y Brifysgol yn: https://www.aber.ac.uk/cy/student-support/health/mental-health/first-aid/.

Ebrill

Mae’r her Teithio’r Byd poblogaidd yn dychwelyd y mis hwn, ac yn para am 7 wythnos o ddydd Llun 11 Ebrill tan ddydd Gwener 27 Mai. Trwy’r her gall ymgeiswyr gofnodi’r pellteroedd a deithiwyd yn cerdded, rhedeg, nofio a seiclo wrth ddarparu elfen gystadleuol i’r rheini sydd yn dymuno cystadlu yn erbyn cydweithwyr ar draws y Brifysgol.

Fel elfen newydd eleni, bydd ymgeiswyr yn medru gosod targedau iddyn nhw’u hunain a chofnodi cynnydd yn erbyn y targedau. Hefyd, bydd ymgeiswyr yn medru elwa o nifer o hyrwyddiadau yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol a Brynamlwg.

Mewn paratoad ar gyfer yr her, bydd aelodau staff yn medru archebu sesiwn ‘MOT Bach’, sydd yn rhoi dadansoddiad o nifer o ddangosyddwyr perfformiad fel BMI, canran braster y corff, pwysau difraster, a chryfder cyhyrol. Gall cydweithwyr archebu eu lle drwy glicio fan hyn.

Bydd cydweithwyr yn medru cofrestru a dechrau cofnodi’r pellteroedd a deithiwyd o Ddydd Llun 11fed Ebrill gan ddefnyddio’r wefan Teithio’r Byd drwy’r ddolen ganlynol: https://travel.aber.ac.uk/travel/.

Mae canllawiau’r CIG ar weithgareddau corfforol i oedolion ar gael yn:  http://www.nhs.uk/Livewell/fitness/pages/physical-activity-guidelines-for-adults.aspx.

Am rhagor o wybodaeth, gan gynnwys buddion i aelodau staff sy’n cymryd rhan, cliciwch yma neu cysylltwch ag Heather ar hec7@aber.ac.uk neu’r Adran Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ar hasstaff@aber.ac.uk

Mawrth

Rhoi Gwybod am  Achosion ‘Trwch Blewyn’

Mae pethau’n digwydd yn y gweithle bob dydd a allai olygu difrod neu anaf difrifol. Mae rhoi gwybod yn brydlon a llawn am bob digwyddiad ac achosion ‘trwch blewyn’ yn hanfodol i sicrhau bod y rheswm sylfaenol am y digwyddiadau hyn yn cael ei adnabod a’i ddatrys. Gall hyn atal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol. Efallai fod rhai cydweithwyr yn amau gwerth rhoi gwybod am bob achos ‘trwch blewyn’, fodd bynnag ni ddylid eu diystyru na’u hanwybyddu fel enghreifftiau o “ni wnaethpwyd unrhyw niwed”.

Gellir disgrifio achos ‘trwch blewyn’ fel digwyddiad nad yw’n arwain at anaf neu ddifrod, ond sydd â’r potensial i wneud hynny.

Mae achos ‘trwch blewyn’ yn achos ‘cael a chael’ – er enghraifft, ystyrir briciwr sy’n gollwng offer o uchder, a’r offer hwnnw bron iawn â tharo person sy’n sefyll oddi tano yn achos ‘trwch blewyn’. Efallai nad yw’r digwyddiad yn achosi anaf i’r unigolyn, ond o dan amgylchiadau gwahanol, gallai’r canlyniad fod yn wahanol iawn.

Dylid rhoi gwybod am bob achos ‘trwch blewyn’ oherwydd er nad yw efallai wedi achosi anaf neu ddifrod y tro cyntaf, mae’n bosibl y gall wneud y tro nesaf y bydd yn digwydd.

Mae’r triongl damweiniau’n dangos pwysigrwydd cofnodi ac ymateb i achosion ‘trwch blewyn’. Cydnabyddir yn eang am bob 600 o achosion ‘trwch blewyn’, bydd sefydliad yn profi oddeutu 30 enghraifft o ddifrod i eiddo, 10 o anafiadau bach ac 1 anaf difrifol.  

Trwy sicrhau bod pob achos ‘trwch blewyn’ yn cael ei gofnodi’n brydlon, gellir trefnu mesurau i ymdrin â thueddiadau neu batrymau sy’n dod yn amlwg a thrwy hynny, atal anafiadau difrifol. Felly hoffem atgoffa cydweithwyr i lenwi Ffurflen Cofnodi Digwyddiadau ar gyfer pob digwyddiad o’r fath a’i chyflwyno i’w Cydlynydd Iechyd a Diogelwch lleol.

Mae’r Ffurflen Cofnodi Digwyddiadau ac Iechyd Galwedigaethol ar gael yn: http://www.aber.ac.uk/en/media/departmental/healthsafetyenvironment/procedurespracticesforms/S002F_cy.pdf

Cewch fanylion am Weithdrefn Cofnodi Digwyddiadau’r Brifysgol ar:

http://www.aber.ac.uk/en/media/departmental/healthsafetyenvironment/procedurespracticesforms/S002.pdf.

Cewch fanylion am gyrsiau a gynigir gan yr Adran Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd, yn cynnwys Adrodd am Ddigwyddiadau ar: https://www.aber.ac.uk/cy/hse/training/.

Chwefror

Bob mis Chwefror, mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn dathlu Mis y Galon, sydd yn ceisio codi ymwybyddiaeth am glefyd y galon a’r driniaeth sydd ar gael. Mae’r digwyddiad yn canolbwyntio ar bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu i atal neu reoli clefyd y galon, megis:

  • Bwyta’n Iach
  • Cadw’n Heini
  • Rheoli’ch Pwysau
  • Rhoi’r Gorau i Ysmygu
  • Yfed Llai o Alcohol
  • Rheoli Straen

Mae Sefydliad Prydeinig y Galon wedi lansio nifer o ‘Heriau 10 Munud’, sydd yn dangos y gall gwneud newidiadau bach wneud gwahaniaeth i’ch iechyd cardiofasgwlaidd. Mae’r Sefydliad yn gofyn i chi dreulio 10 munud bob dydd yn darllen pob her sydd yn egluro sut gall newidiadau bach i’ch arferion dyddiol gael effaith gadarnhaol gynyddol.

Dyma’r mathau o wybodaeth sydd ar gael:

  • Amser i Fwyta’n Iach – beth i’w fwyta a beth i beidio â’i fwyta, cyngor ar sut i newid arferion bwyta, straeon o lwyddiant, a dull o gofnodi faint o ffrwythau a llysiau a fwyteir.
  • Amser Rhoi’r gorau – dulliau o roi’r gorau i ysmygu, pwy i gysylltu â hwy am gyngor, straeon o lwyddiant, a siart cofnodi nifer y dyddiau di-fwg.
  • Cymryd Seibiant – sut i leihau eich lefelau straen, ymarferion ymlacio, straeon o lwyddiant, a chofrestr gweithgareddau lliniaru straen.

Am ragor o wybodaeth am Fis y Galon Sefydliad Prydeinig y Galon, ewch i: https://www.bhf.org.uk/heart-health/preventing-heart-disease/heart-month1.

Am wybodaeth am y Ffair Iechyd ar 26 Chwefror, ewch i: https://www.aber.ac.uk/cy/student-support/forthcoming-workshops/health-fair/.

Ionawr

Hoffai’r Adran Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ddymuno blwyddyn newydd hapus, ddiogel a llewyrchus i chi gyd.

I gyd-fynd â’r Flwyddyn Newydd ac unrhyw addunedau blwyddyn newydd, bydd digwyddiad Ffit ac Iach blynyddol y Ganolfan Chwaraeon yn rhedeg trwy gydol mis Ionawr. Mae’r digwyddiad yn ceisio hyrwyddo a dathlu ffyrdd o wella iechyd a ffitrwydd trwy gyfrwng amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau cysylltiedig.

Am ragor o wybodaeth am weithgareddau Ffit ac Iach 2016 yn y Ganolfan Chwaraeon ac ar draws y Brifysgol, cliciwch ar y ddolen ganlynol: http://www.aber.ac.uk/en/media/departmental/sportscentre/newsite/classes/20503-Fit--Well-poster-events-WEB.pdf.

Gall rheini sydd yn cymryd rhan yng Nghynllun Effaith Wyrdd eleni gwblhau rhannau o’r gweithlyfr drwy gadw’n heini.

Mae’r NHS hefyd yn darparu gwybodaeth a chanllawiau ychwanegol am weithgareddau corfforol i oedolion, a cheir hyd i’r rhain ar: http://www.nhs.uk/Livewell/fitness/Pages/physical-activity-guidelines-for-adults.aspx.

Mae nifer o bobl hefyd yn manteisio ar y cyfle i ‘ddadwenwyno’r’ corff yn dilyn hwyl yr ŵyl. Un ffordd y gall unigolion wneud hyn yw trwy gofrestru ar gyfer digwyddiad ‘Dryathlon’ Ymchwil Canser y DU. Mae’r digwyddiad yn galluogi unigolion i gasglu nawdd a chodi arian tuag at Ymchwil Canser y DU trwy osgoi yfed alcohol ym mis Ionawr.

Cewch wybodaeth bellach ynghylch ‘Dryathlon’, gan gynnwys sut i gofrestru, awgrymiadau ar sut i godi arian, a chyfrifiannell i gyfrifo manteision ariannol a’r manteision o ran calorïau o gael mis Ionawr heb alcohol, drwy’r ddolen ganlynol: http://www.cancerresearchuk.org/support-us/find-an-event/charity-challenges/dryathlon.