Neges Fisol Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd (2017)

I weld negeseuon Misol Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd y gorffennol, dewiswch o'r tabiau canlynol:

Rhagfyr

Hoffai’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd lewyrchus i chi gyd. Edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio â chi yn ystod 2018.

Er bod goleuadau Nadolig yn trawsnewid tai a chymdogaethau dros gyfnod y gwyliau, gallant hefyd gyflwyno peryglon ychwanegol i’r cartref. Mae’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau yn rhoi’r cyngor canlynol o ran diogelwch wrth ddefnyddio goleuadau Nadolig. 

Prynu

  • Chwiliwch am farciau diogelwch e.e. nod barcud y BSI;
  • Prynwch o siop gyfrifol;
  • Osgowch brynu’n ail-law heblaw eich bod yn cael rhywun proffesiynol i edrych arnynt gyntaf;

Gwirio

  • PEIDIWCH â gosod neu dynnu bylbiau pan fônt wedi’u troi ymlaen;
  • Archwiliwch y ceblau a’r bylbiau am ddifrod;
  • Peidiwch â defnyddio goleuadau sydd wedi’u difrodi, gwaredwch hwy’n ddiogel.

Defnyddio

  • Darllenwch a dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr;
  • Defnyddiwch ddyfais cerrynt gweddilliol fel amddiffyniad ychwanegol yn erbyn sioc;
  • Peidiwch â defnyddio’r goleuadau y tu allan heblaw eu bod wedi’u gwneud at y diben hwnnw;
  • Peidiwch â rhedeg y cebl o dan garpedi neu rywle y gall gael ei ddifrodi;
  • Cadwch y goleuadau oddi wrth addurniadau a deunyddiau fflamadwy eraill;
  • Osgowch osod y ceblau fel eu bod yn achosi perygl o faglu;
  • Defnyddiwch rywbeth sefydlog wrth hongian y goleuadau;
  • Peidiwch â gadael y goleuadau ymlaen pan fydd yr ystafell yn wag. Cofiwch eu diffodd pan fyddwch yn mynd i’r gwely a phan fyddwch yn mynd allan o’r tŷ;
  • Peidiwch â chaniatáu i blant chwarae â’r goleuadau.

Storio

  • Cymerwch ofal i beidio â difrodi’r goleuadau wrth eu datgymalu a’u pacio;
  • Cadwch hwy’n ddiogel allan o gyrraedd plant;
  • Osgowch amodau llaith neu or-boeth.

Gall y Nadolig hefyd gynrychioli amser o ormodedd. Gall unrhyw faint o alcohol effeithio ar eich gallu i yrru, ac mae yfed a gyrru yn gyfrifol am 14% o’r holl farwolaethau ar y ffordd. Nid yw’n bosibl dweud faint o alcohol y gallwch ei yfed a pharhau i fod o dan y terfyn – mae’n dibynnu ar eich pwysau, oedran, rhyw, metaboledd, ac wrth gwrs, beth rydych chi’n ei yfed. Does dim rhaid i chi fod yn teimlo’n feddw i fod yn yfed a gyrru. Os ydych chi’n manteisio i’r eithaf ar ddathliadau’r ŵyl, dilynwch gyngor yr ymgyrch THINK!

  • Cymerwch ofal y bore wedyn – gallwch fod dros y terfyn am nifer o oriau ar ôl eich diod olaf
  • Does dim esgus dros yfed a gyrru
  • Os ydych chi’n bwriadu yfed alcohol, ystyriwch sut rydych am fynd adre heb yrru
  • Peidiwch â chynnig diod alcoholig i unrhyw un y gwyddoch eu bod yn bwriadu gyrru
  • Peidiwch a derbyn lifft gan yrrwr y gwyddoch eu bod wedi yfed alcohol

Tachwedd

Fel rhan o’i ymgyrch ‘Go Home Healthy’ a lansiwyd yn ddiweddar, mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi nodi tri phrif faes o ran diogelu iechyd gweithwyr. Y tri maes yw:

  1. Anhwylderau Cyhyrysgerbydol sy’n gysylltiedig â Gwaith;
  2. Afiechyd Ysgyfaint sy’n gysylltiedig â Gwaith;
  3. Straen sy’n gysylltiedig â Gwaith.

Mae Anhwylderau Cyhyrysgerbydol yn cynnwys anafiadau a phoen i’r cefn, cymalau, coesau a breichiau a all effeithio ar ansawdd eich bywyd. Gall ffactorau corfforol a seicogymdeithasol gyfrannu at Anhwylderau Cyhyrysgerbydol sy’n gysylltiedig â gwaith, a gall y gweithgareddau y mae pobl yn eu gwneud y tu allan i’r gwaith, a’u hiechyd a’u ffitrwydd cyffredinol, eu gwaethygu. Yn ôl amcangyfrifon diweddaraf yr Arolwg o’r Llafurlu (2016), ym Mhrydain Fawr:

  • Cyfanswm nifer yr achosion o Anhwylderau Cyhyrysgerbydol yn 2015/16 oedd 539,000, sef 41% o’r holl achosion o salwch sy’n gysylltiedig â gwaith;
  • Amcangyfrifir bod 8.8 miliwn o ddiwrnodau gwaith wedi cael eu colli o ganlyniad i anhwylderau cyhyrysgerbydol - 16 diwrnod am bob achos ar gyfartaledd. Mae hyn yn 34% o’r holl ddyddiau gwaith a gollwyd o ganlyniad i salwch sy’n gysylltiedig â gwaith.
  • Mae amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota, adeiladu, trafnidiaeth a storio, ac iechyd dynol a gwaith cymdeithasol yn ddiwydiannau lle ceir cyfraddau sylweddol uwch o anhwylderau cyhyrysgerbydol sy’n gysylltiedig â’r gwaith, o’i gymharu â’r cyfraddau ar gyfer pob diwydiant.

Dyma rai ystyriaethau pwysig:

  • Gallwch gymryd camau i atal neu leihau Anhwylderau Cyhyrysgerbydol;
  • Yn gyffredinol, mae’r mesurau atal yn gost-effeithiol;
  • Mae adrodd am symptomau yn gynnar, triniaeth briodol ac adferiad addas yn hanfodol.

Mae yna amrywiaeth o fesurau rhagofal y gall cyflogwr eu cymryd i leihau’r risg o anhwylderau cyhyrysgerbydol. Mae’r mesurau rheoli priodol yn gallu dibynnu ar natur y gwaith a beth sy’n ‘rhesymol ymarferol’. Y cam cyntaf yw asesu'r holl risgiau sy’n deillio o’r tasgau a allai achosi anhwylderau cyhyrysgerbydol. Dylid gwneud pob ymdrech i gael gwared ar gynifer o’r risgiau â phosibl drwy ail-drefnu’r tasgau, darparu cymorth mecanyddol, cyflwyno egwyliau neu gylchdroi tasgau. Wrth ystyried y risgiau, y mesurau rhagofal a datrysiadau posibl, dilech sicrhau eich bod yn ymgynghori â’r gweithlu, oherwydd yn aml bydd ganddynt wybodaeth uniongyrchol am y risgiau sy’n gysylltiedig â thasgau penodol. Unwaith y bydd y mesurau rhagofal wedi’u cyflwyno, dylid monitro eu heffeithiolrwydd gan sicrhau nad yw’r mesurau hyn yn cyflwyno risgiau newydd. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cynhyrchu nifer o gyhoeddiadau sy’n darparu datrysiadau posibl a allai fod o gymorth wrth ddewis mesurau rhagofal, ac mae rhai ohonynt wedi’u cynllunio ar gyfer diwydiannau penodol.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag ymgyrch yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ‘Go Home Healthy’ gweler: http://www.hse.gov.uk/gohomehealthy/index.htm.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag Anhwylderau Cyhyrysgerbydol gweler: http://www.hse.gov.uk/msd/index.htm.

Hydref

Mae yn erbyn y gyfraith i ddefnyddio ffôn llaw wrth yrru. Mae hyn yn cynnwys defnyddio eich ffôn i ddilyn map, darllen neges destun, neu edrych ar gyfrwng cymdeithasol, ac mae’n berthnasol hefyd os ydych wedi stopio wrth oleuadau traffig neu’n ciwio mewn traffig. Wrth ddefnyddio ffonau symudol wrth yrru, mae ymchwil wedi canfod fod:

  • Gyrwyr sy’n defnyddio ffôn symudol â llaw neu heb ddwylo yn arafach wrth sylwi ac ymateb i beryglon;
  • Eich bod pedair gwaith yn fwy tebygol o fod mewn damwain os ydych chi’n defnyddio eich ffôn;
  • Bod eich amseroedd ymateb ddwywaith yn arafach os ydych chi’n tecstio a gyrru nag os ydych chi’n yfed a gyrru, ac mae hyn yn codi i deirgwaith os ydych chi’n defnyddio ffonau llaw;
  • Hyd yn oed gyrwyr gofalus yn gallu bod yn bell eu meddwl pan fyddant yn cael galwad ffôn neu neges destun - a gall diffyg canolbwyntio am eiliad arwain at ddamwain.

Mae hyn oherwydd bod gyrwyr sy’n defnyddio ffonau symudol llaw neu heb ddwylo yn:

  • Llawer llai ymwybodol o’r hyn sydd yn digwydd ar y ffordd o’u hamgylch;
  • Aml yn tynnu’u llygaid oddi ar y ffordd yn gyfan gwbl er mwyn edrych ar y sgrin;
  • Methu â gweld arwyddion ffordd;
  • Methu â chadw safle cywir ar y lôn a chyflymdra cyson;
  • Fwy tebygol o ddilyn y cerbyd o’u blaen yn rhy agos;
  • Ymateb yn arafach a chymryd hirach i frecio;
  • Yn fwy tebygol o wthio i fylchau anniogel yn y traffig;
  • Teimlo dan fwy o bwysau ac yn rhwystredig.

Cewch ond ddefnyddio eich ffon symudol os ydych wedi parcio’n ddiogel neu angen ffonio 999 neu 112 mewn argyfwng ac nid yw’n ddiogel nac yn ymarferol i stopio. Os cewch eich dal yn gyrru a defnyddio ffôn llaw, cewch 6 phwynt cosb ar eich trwydded a dirwy o £200. Nid yw defnyddio teclynnau heb ddwylo (e.e. ar gyfer llywio) yn anghyfreithlon, ond gall yr Heddlu eich erlyn os yw’n tynnu eich sylw neu’n effeithio ar eich gallu i yrru’n ddiogel.

Mae THINK!, gwefan diogelwch ar y ffyrdd yr Adran Drafnidiaeth, wedi cyhoeddi’r  canllawiau canlynol ynghylch defnyddio ffonau symudol wrth yrru:

  • Rhowch eich ffôn i gadw cyn gyrru fel nad oes temtasiwn i’w ddefnyddio. Trowch y silff fenig yn silff y ffôn;
  • Peidiwch â ffonio pobl eraill pan fônt yn gyrru;
  • Defnyddiwch declynnau heb ddwylo yn gyfrifol.

Cewch ragor o wybodaeth drwy gyfrwng canllawiau ‘Gyrru yn y Gwaith’ yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), sydd ar gael yn:  http://www.hse.gov.uk/pubns/indg382.pdf

Medi

Wrth gyflogi unigolyn ifainc sydd o dan 18 oed, boed hynny ar gyfer gwaith, profiad gwaith, neu fel prentis, mae gan gyflogwyr yr un cyfrifoldebau am eu hiechyd, diogelwch a lles ag sydd ganddynt ar gyfer unrhyw weithiwr arall.

Mae rheoli risgiau sylweddol yn y gweithle yn ofyniad cyfreithiol ar gyfer pob cyflogwr, a dylid ymgymryd ag asesiad ychwanegol er mwyn penderfynu a oes angen unrhyw reoliadau ychwanegol ar gyfer unigolyn ifainc. Cyn iddynt ymgymryd ag unrhyw gyflogaeth neu brofiad gwaith, rhaid i’r holl risgiau cysylltiedig gael eu rheoli’n briodol.

Os bydd cyflogwr yn cyflogi neu’n cynnig profiad gwaith i unigolyn ifainc, bydd angen iddynt adolygu’r asesiadau risg perthnasol ar gyfer y gweithgareddau y bydd yr unigolyn yn ymgymryd â hwy, gan ystyried y ffactorau penodol i bobl ifainc. Dylai hyn fod yn syml ar gyfer gweithgareddau risg isel, er enghraifft mewn swyddfa gyda pheryglon y byddai’r unigolyn ifainc yn gyfarwydd â hwy. Mewn achosion o’r fath, dylai’r trefniadau cyfredol fod yn ddigonol, ond bydd angen adolygu’r asesiadau risg perthnasol cyn y gall y gweithgaredd(au) fynd yn ei flaen/eu blaen.

Mewn amgylcheddau sy’n llai cyfarwydd i bobl ifainc, dylid gosod rheoliadau penodol ar waith er mwyn rheoli’r risgiau cysylltiol. Dylai hyn gynnwys cynefino â’r lleoliad, ymgyfarwyddo, goruchwyliaeth ac unrhyw gyfarpar amddiffynnol personol fel y nodir yn yr asesiad risg.

Ar gyfer gwaith mewn amgylcheddau risg uwch, mae’r peryglon yn debygol o fod yn uwch, a bydd angen sylw mwy gofalus i sicrhau eu bod yn cael eu rheoli’n briodol. Os yw’r gweithle’n cynnwys peryglon risg uchel, dylai’r cyflogwyr fod â mesurau rheoli yn eu lle eisoes.

Ni ddylai unigolion ifainc ymgymryd ag unrhyw weithgareddau sy’n eu rhoi mewn perygl, megis gweithgareddau yn ymwneud â/ag:

  • Ymbelydredd
  • Lefelau sŵn sy’n uwch na’r gwerth datguddio is ( xˉ 80 dB/y diwrnod neu’r wythnos)
  • Dirgryniad
  • Sylweddau gwenwynig
  • Tymereddau eithafol
  • Laser
  • Offer Pŵer
  • Alcohol

Noder y gall fod cyfyngiad oedran ar gyfer gweithgareddau penodol, er enghraifft, ambell gyfarpar gwaith coed. Ni ddylid caniatáu i unrhyw un o dan y lleiafswm oedran ddefnyddio cyfarpar o’r fath neu gymryd rhan yn y gweithgareddau hynny.

Mae Polisi Pobl Ifainc y Brifysgol ar gael yn: https://www.aber.ac.uk/en/media/departmental/healthsafetyenvironment/Young-Persons-Policy-Final-Cymraeg.pdf.

Mae canllawiau pellach ar gael ar dudalennau Pobl Ifainc yn y Gweithle yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar:  http://www.hse.gov.uk/youngpeople/index.htm.

Awst

Mae gweithio ar uchder yn golygu gwaith mewn unrhyw leoliad lle, os na chymerir camau diogelu, gall rhywun gwympo pellter a all achosi niwed personol. Gall hyn gynnwys, ymhlith posibiliadau eraill:

  • Gwaith uwchben lefel y llawr
  • Cwympo oddi ar ymyl, neu drwy agoriad neu arwyneb bregus;
  • Cwympo o lefel y llawr, i lawr agoriad yn y llawr neu dwll yn y ddaear.

Nid yw gweithio ar uchder yn cynnwys llithro neu faglu ar eich hyd, gan fod cwympo o uchder yn cynnwys cwympo o un lefel i lefel is, ac nid yw’n cynnwys cerdded i fyny nac i lawr grisiau mewn adeilad.

Mae Rheoliadau Gweithio ar Uchder 2005 yn mynnu bod cyflogwyr yn sicrhau bod:

  • Yr holl waith a wneir ar uchder wedi’i gynllunio a’i drefnu’n gywir;
  • Y rhai sy’n ymwneud â gwaith ar uchder yn gymwys i'r gwaith;
  • Peryglon gweithio ar uchder yn cael eu hasesu, a bod offer gwaith priodol yn cael eu dewis a’u defnyddio;
  • Peryglon gweithio ar arwynebau bregus, neu wrth eu hymyl, yn cael eu rheoli’n iawn;
  • Yr offer a ddefnyddir ar gyfer gweithio ar uchder wedi’u harchwilio a’u cynnal yn gywir.

Pan gynllunnir unrhyw waith ar uchder, rhaid i'r staff ystyried yr agweddau canlynol:

  • Ystyried amgylchiadau'r tywydd a all effeithio ar ddiogelwch gweithwyr;
  • Sicrhau bod y safle gwaith lle mae’r gweithio ar uchder yn mynd i ddigwydd (e.e. y to) yn ddiogel. Dylid archwilio pob safle lle y byddwch yn gweithio ar uchder bob tro cyn dechrau;
  • Atal deunyddiau neu wrthrychau rhag cwympo, neu os nad yw’n rhesymol o ymarferol atal gwrthrychau rhag cwympo, cymryd camau addas i sicrhau na all rhywun gael ei anafu e.e. defnyddio mannau gwahardd er mwyn cadw pobl draw neu rwyll (mesh) ar sgaffald er mwyn atal gwrthrychau fel briciau rhag cwympo;
  • Storio gwrthrychau a deunyddiau’n ddiogel lle na fyddant yn achosi anaf os cânt eu symud neu os cwympant;
  • Cynllunio ar gyfer argyfwng a chamau achub e.e. penderfynu ar weithdrefn ar gyfer achub. Meddyliwch am sefyllfaoedd y gallwch eu rhagweld a sicrhewch fod gweithwyr yn ymwybodol o’r gweithdrefnau argyfwng. Yn eich cynllun dylech beidio â dibynnu’n gyfan gwbl ar y gwasanaethau brys ar gyfer achub pobl.

Cyn ymgymryd ag unrhyw weithio ar uchder, dylai staff sicrhau bod y gofynion canlynol wedi'u bodloni:

  • Osgoi unrhyw weithio ar uchder o gwbl os yw hynny'n rhesymol o ymarferol;
  • Lle na ellir osgoi gweithio ar uchder, atal peryglon cwympo drwy ddefnyddio man gwaith sy’n ddiogel eisoes, neu'r math cywir o offer;
  • Lleihau pellter a goblygiadau unrhyw gwympo, trwy ddefnyddio’r math cywir o offer lle na ellir gwaredu â’r risg yn llwyr.

Mae enghreifftiau o’r math priodol o gamau rheoli i’w cymryd yn cynnwys:

  • Gwneud cymaint â phosib o'r gwaith ar lefel y llawr;
  • Sicrhau bod gweithwyr yn medru cyrraedd y lleoliad lle byddant yn gweithio ar uchder, a mynd oddi yno, yn ddiogel;
  • Sicrhau bod yr offer yn addas, ac yn ddigon cryf ar gyfer y dasg, ac wedi’u gwirio a'u cynnal yn rheolaidd;
  • Sicrhau nad ydych yn gorweithio neu orymestyn pan fyddwch yn gweithio ar uchder;
  • Cymryd gofal pan fyddwch yn gweithio ar arwynebau bregus neu wrth eu hymyl;
  • Cymryd camau i ddiogelu rhag gwrthrychau sy’n cwympo;
  • Ystyried gweithdrefnau argyfwng ac achub.

Cewch wybodaeth yn ymwneud â gweithio ar uchder yn: https://www.aber.ac.uk/cy/hse/proc-prac/working-at-height/

Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE): http://www.hse.gov.uk/work-at-height/index.htm

Gorffennaf

Mae Rheoliadau Rheoli Dirgrynu yn y Gwaith 2005 yn canolbwyntio ar ddileu neu reoli sefyllfaoedd lle y mae gweithwyr yn dod i gysylltiad â dirgryniadau, ac yn cyflwyno ffigurau ar gyfer gweithredu a chyfyngu ar ddirgrynu sy'n effeithio ar y llaw a'r fraich ac ar y corff cyfan. Mae’r rheoliadau yn mynnu bod cyflogwyr yn:

  • sicrhau bod y peryglon gan ddirgryniadau wedi’u rheoli;
  • darparu gwybodaeth, cyfarwyddiadau a hyfforddiant i weithwyr ar y risg a’r camau sydd ar waith i reoli’r risg; a
  • darparu goruchwyliaeth iechyd addas.

Ystyrir dirgrynu 'llaw-a-braich' yn ddirgryniadau a drosglwyddir i ddwylo a breichiau gweithwyr. Gall hyn ddeillio o ddefnydd offer pŵer a ddelir â llaw (fel peiriannau llyfnu neu dorwyr ffordd), offer a dywysir â llaw (fel peiriannau torri lawnt neu lifiau llawr) neu drwy ddal deunyddiau a weithir gan beiriannau a fwydir â llaw (fel peiriannau llyfnu pedestal neu forthwylion efail).

Os bydd pobl yn dod i gysylltiad â dirgrynu llaw-a-braich yn rheolaidd ac yn aml, fe all arwain at ddau fath o afiechyd parhaol:

  • Syndrom Dirgrynu Llaw-a-Braich (HAVS); a
  • Syndrom Twnnel y Carpws.

Mae symptomau ac effeithiau HAVS yn cynnwys:

  • Pinnau bach a diffyg teimlad yn y bysedd a all arwain at anallu i wneud gwaith manwl (er enghraifft, rhoi cydrannau bach at ei gilydd) neu dasgau bob dydd (er enghraifft, cau botymau);
  • Colli cryfder yn y dwylo a all effeithio ar y gallu i wneud gwaith yn ddiogel;
  • Y bysedd yn mynd yn wyn ac wedyn mynd yn goch a phoenus wrth wella, yn lleihau’r gallu i weithio mewn amgylcheddau oer nau laith e.e. tu allan.

Gellir rhwystro HAVS , ond unwaith mae’r difrod wedi’i wneud mae’n barhaol. Os oes gan staff unrhyw bryderon ynghylch sut maent yn defnyddio offer dirgrynu, dylent gysylltu â’u rheolwr llinell yn syth. Y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon o reoli cysylltiad â dirgrynu llaw-a-braich yw chwilio am ddulliau newydd neu wahanol o weithio sydd yn dileu neu’n lleihau’r cyswllt â dirgrynu. Unwaith mae tebygolrwydd y risg wedi’i gadarnhau, dylech edrych yn agosach ar ba weithwyr, neu grŵp o weithwyr, sydd yn debygol o fod mewn perygl, a beth y gellir ei wneud i leihau’r peryglon hynny drwy gwblhau asesiad risg.

Cewch wybodaeth bellach ynghylch dirgrynu llaw-a-braich ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn: http://www.hse.gov.uk/vibration/hav/.

Am unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â Thîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ar hasstaff@aber.ac.uk neu ar estyniad 2073.

Mehefin

Wrth i fisoedd yr haf nesáu, atgoffir cydweithwyr i gymryd gofal yn yr haul ac ystyried yr effaith ar eu croen. Mae ymchwil wedi canfod bod llosgi’n boenus ddim ond unwaith bob dwy flynedd yn medru treblu’r perygl o gael y math mwyaf peryglus o ganser y croen, sef melanoma malaen.

Bod yn agored i’r haul yw prif achos canser y croen, sy’n gysylltiedig â 65% o achosion melanoma malaen, a 99% o ganser y croen nad yw’n felanoma. Yn 2015 cyhoeddwyd ymchwil, gan y Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (IOSH), a wnaed i fod yn agored i ymbelydredd solar yn y gwaith ym Mhrydain, a chanfyddwyd bod melanoma malaen yn lladd ar gyfartaledd tua 60 person y flwyddyn. Caiff o leiaf 1,500 achos newydd o ganser y croen nad yw’n felanoma eu cofnodi bob blwyddyn, a 240 achos newydd o felanoma malaen sy’n gysylltiedig ag ymbelydredd solar yn y gwaith.

Mae peryglon ymbelydredd uwchfioled yn berthnasol iawn i gydweithwyr sy’n gweithio yn yr awyragored fel rhan arferol o’u gweithgareddau. Bydd unigolion sy’n gweithio tu allan fel arfer 5-10 gwaith yn fwy agored i’r haul mewn blwyddyn o’i gymharu â’r rheini sy’n gweithio dan do. Mae’r perygl hefyd yn amlwg ar ddyddiau cymylog, gan fod tua 80% o belydrau uwchfioled peryglus yn medru treiddio trwy gymylau.

Mae IOSH yn cynnig y pum cam canlynol i amddiffyn eich croen rhag ymbelydredd uwchfioled niweidiol yr haul wrth weithio:

  1. Gorchuddiwch – Gwisgwch ddillad hir a rhydd i gadw’r haul oddi ar eich croen.
  2. Amddiffynwch eich Pen – Peidiwch ag anghofio eich pen, yr wyneb, clustiau a gwddf – gwisgwch het, yn ddelfrydol un sydd â chantal lydan, a gwisgwch sbectol haul ag iddi amddiffyniad uwch violed.
  3. Mynnwch Gysgod – Ewch allan o’r haul bryd bynnag y gallwch yn ystod y cyfnodau uwchfioled cryfaf (10yb-3yp), a cofiwch aros yn y cysgod adeg egwyl.
  4. Defnyddiwch Eli Haul – Defnyddiwch SPF 30 neu uwch ar unrhyw groen sy’n agored i’r haul – rhowch ar eich croen tua 30 munud cyn mynd allan, rhowch ddigon, a rhowch ragor yn rheolaidd.
  5. Byddwch yn Ddiogel eich Croen – Soniwch am unrhyw newidiadau i fannau geni (maint, siap, lliw, cosi neu waedu) neu unrhyw bryderon eraill ynghylch eich croen wrth eich meddyg cyn gynted â phosib – peidiwch ag oedi gan fod triniaeth gynnar yn bwysig.

Cewch wybodaeth bellach yn ymwneud â chadw’n ddiogel yn yr haul ar wefan y GIC yn: http://www.nhs.uk/Livewell/skin/Pages/Sunsafe.aspx.

Mai

Bydd y staff eisoes yn ymwybodol o’r Polisi Teithio a gyflwynwyd yn ddiweddar, sydd yn nodi’r gofynion ar gyfer teithio at bwrpas busnes sy'n gysylltiedig â’r Brifysgol.

Yn aml mae teithio yn rhan hanfodol ac annatod o ddiwrnodau gwaith i lawer o bobl oherwydd natur gweithgareddau dysgu, ymchwil a masnachol y Brifysgol. Felly mae'n hanfodol bod pob aelod o staff yn gyfarwydd â Pholisi Teithio'r Brifysgol, a'r canllawiau cysylltiedig, yn enwedig os ydynt yn teithio'n rheolaidd ar unrhyw fath o fusnes sy'n gysylltiedig â’r Brifysgol.

Yn benodol, dylai staff ystyried y materion canlynol cyn ymgymryd ag unrhyw deithio sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol:

  • Awdurdodi – Rhaid cael cymeradwyaeth gan awdurdod priodol cyn ymgymryd ag unrhyw deithio. Bydd y gofynion am gymeradwyo'r daith yn cynnwys ystyried cyngor y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, ac fel arfer bydd yn golygu un o’r posibiliadau canlynol:
    1. Lle bydd teithio mewnol (h.y. yn y Deyrnas Unedig) yn digwydd;
    2. Lle nad oes cyfyngiadau teithio wedi eu gosod gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad;
    3. Lle bydd y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn cynghori yn erbyn pob taith i wledydd neu ranbarthau, ac eithrio ar fusnes hanfodol;
    4. Lle bydd y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn cynghori yn erbyn unrhyw deithio i wledydd neu ranbarthau;
    5. Teithio i Wlad neu Ranbarth sy’n gartref i’r unigolyn;
  • Asesu Risg – Dylid ystyried teithio fel rhan o’r broses asesu risg. Dylid paratoi’r asesiad risg cyn cymeradwyo'r daith, a rhaid cynnwys yr asesiad risg er mwyn iddo gael ei ystyried gan yr aelod o staff sy'n awdurdodi'r daith.
  • Cyngor Teithio’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO) – Dylai asesiadau risg ystyried a chyfeirio at y cyngor teithio diweddaraf gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad ar gyfer y wlad neu'r rhanbarth dan sylw. Mae Cyngor Teithio diweddaraf y FCO ar gael yn: https://www.gov.uk/foreign-travel-advice.
  • Yswiriant Teithio – Rhaid trefnu yswiriant teithio cyn unrhyw deithio dramor. Gellir trefnu hyn trwy gysylltu â’r Adran Gyllid ar travel@aber.ac.uk.
  • Manylion Teithio – Dylai staff yn yr Athrofa neu'r Adran allu cael gweld copi o’ch manylion teithio llawn a manylion cyswllt mewn argyfwng.

Dylai'r holl staff ddeall gofynion y Polisi Teithio, sydd ar gael yn: https://www.aber.ac.uk/en/media/departmental/healthsafetyenvironment/Polisi-Teithio-Prifysgol-Aberystwyth.pdf

Cewch wybodaeth bellach ynghylch teithio yn: https://www.aber.ac.uk/cy/hse/proc-prac/teithio/

Ebrill

Mae Rheoliadau Gweithrediadau Codi ac Offer Codi 1998 (LOLER) yn rhoi dyletswydd ar sefydliadau sy’n berchen ar, sy’n gweithredu, neu sydd â rheolaeth dros offer codi. Yn y rhan fwyaf o achosion yr offer codi yw’r offer gwaith hefyd felly bydd Rheoliadau Darparu a Defnyddio Cyfarpar Gwaith (PUWER) hefyd yn berthnasol (gan gynnwys archwilio a chynnal a chadw).

Mae ‘offer codi’ yn golygu unrhyw offer gwaith a ddefnyddir i godi neu ostwng llwythi, gan gynnwys ategolion ac atodion a ddefnyddir i angori, gosod neu gynnal yr offer. Dyma rai enghreifftiau o offer codi:

  • Craeniau uwchben a’u rhedfeydd cynhaliol;
  • Teclynnau codi cleifion;
  • Lifftiau i godi cerbydau modur;
  • Lifftiau ar gefn cerbydau a chraeniau sydd wedi’u gosod ar gerbydau;
  • Cawell ar gyfer glanhau adeiladau a’r offer crog
  • Lifftiau i gario nwyddau a phobl;
  • Triniwr telesgopig a ffyrch codi;
  • Ategolion codi.

Wrth ymgymryd ag unrhyw weithrediadau codi sy’n defnyddio offer codi, mae’n rhaid:

  • Cynllunio’n gywir;
  • Defnyddio pobl sy’n ddigon cymwys;
  • Goruchwylio’n briodol;
  • Sicrhau eu bod yn cwblhau’r dasg mewn modd diogel.

Mae LOLER hefyd yn mynnu bod yr holl offer a ddefnyddir i godi yn addas, yn briodol ar gyfer y dasg, wedi’i farcio’n addas ac, yn y rhan fwyaf o achosion, wedi cael archwiliad trylwyr statudol. Rhaid cadw cofnod o bob archwiliad a rhaid rhoi gwybod am unrhyw ddiffygion i’r person cyfrifol a’r awdurdod gorfodi perthnasol.

Caiff y broses o brofi offer LOLER ei gydlynu gan yr Adran Ystadau, sy’n cadw cofrestr ganolog o holl offer LOLER, ond mae’n rhaid rhoi gwybod iddynt am bob offer codi newydd neu gyfredol a ddefnyddir yn yr Athrofeydd a’r Adrannau Gwasanaeth Proffesiynol. Os ydych yn ymwybodol o unrhyw offer codi yn eich ardal, ond nad ydych yn yn sicr os yw wedi'i gynnwys yn y cofrestr ganolog, cysylltwch a'r Adran Ystadau i gadarnhau.

Mae rhagor o wybodaeth am LOLER ar gael ar:  http://www.hse.gov.uk/work-equipment-machinery/loler.htm.

Am unrhyw gyngor neu ganllawiau, cysylltwch â’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ar hasstaff@aber.ac.uk neu ar estyniad 2073.

Mawrth

Dylai pob aelod newydd o staff, gan gynnwys y rheini sy’n symud i swyddi newydd o fewn y Brifysgol, gwblhau sesiwn gynefino iechyd, diogelwch a’r amgylchedd lleol. Dylid llenwi’r ffurflen Adroddiad Cychwyn Cyflogaeth o fewn pythefnos i ddechrau yn y swydd, ac mae’r ffurflen ar gael yn: https://www.aber.ac.uk/cy/hse/training/hseinduction/.

Dylai’r sesiwn gynefino  gynnwys cyflwyniad i drefniadau a materion lleol yn ymwneud ag iechyd, diogelwch a’r amgylchedd, sy’n golygu cwblhau’r rhannau canlynol o Adroddiad Cychwyn Cyflogaeth Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd:

  1. Trefniadau Diogelwch Tân
  2. Trefniadau Cymorth Cyntaf
  3. Trefn Adrodd am Ddigwyddiadau
  4. Adrodd am unrhyw Broblemau neu Ddiffygion
  5. Polisïau a Gweithdrefnau Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd
  6. Ymwybyddiaeth o’r Ddyletswydd Atal
  7. Rheolau a Gweithdrefnau Diogelwch Athrofeydd / Adrannau Gwasanaethau Proffesiynol
  8. E-Ddysgu Hanfodion Iechyd a Diogelwch
  9. Arall (fel sy’n berthnasol)

Mae Llawlyfr Iechyd a Diogelwch yr Athrofa / Adran Gwasanaethau Proffesiynol yn un ffordd y gall Athrofeydd ac Adrannau Gwasanaethau Proffesiynol gyflwyno trefniadau iechyd, diogelwch a’r amgylchedd lleol i staff newydd a staff presennol. Dylai pob aelod newydd o staff gael copi o Lawlyfr Iechyd a Diogelwch  eu Hathrofa/Adran Gwasanaethau Proffesiynol neu gael gwybod ble mae cael gafael ar y llawlyfr hwnnw.

Yn ystod y sesiynau cynefino iechyd, diogelwch a’r amgylchedd, dylid ystyried y gofynion hyfforddi ar gyfer pob aelod newydd o staff. Rhaid cael sgwrs rhwng y gweithiwr a’r rheolwr neu oruchwyliwr i adnabod yr hyfforddiant hanfodol i alluogi i’r staff weithio’n ddiogel. Gall hyn gynnwys, ymhlith pethau eraill, sesiynau yn y gwaith, dosbarthiadau mewnol a/neu gyrsiau allanol. Dylid penderfynu ar gyrsiau priodol ar ôl ystyried y mesurau rheoli a nodwyd yn yr asesiadau risg ar gyfer y gweithgareddau a wneir gan yr unigolyn, a/neu’r cyrsiau hyfforddi a nodwyd ym matrics hyfforddiant yr Athrofa neu’r Adran Gwasanaethau Proffesiynol.

Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau hyfforddi a gynigir gan y Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd, ewch i: https://www.aber.ac.uk/cy/hse/training/.   

Rhan allweddol o’r broses hon yw cwblhau’r modiwlau perthnasol ar y cwrs hyfforddi E-Ddysgu Hanfodion Iechyd a Diogelwch. Mae’r modiwlau sydd ar gael yn darparu cyflwyniad eang i’r prif egwyddorion ac ystyriaethau sy’n gysylltiedig â’r pynciau iechyd, diogelwch a’r amgylchedd mwyaf cyffredin. Dylai pob modiwl gymryd rhwng 10-15 munud i’w gwblhau, ac maent ar gael ar gyfer pob un o’r pynciau canlynol:

  1. Ymwybyddiaeth Amgylcheddol
  2. Ymwybyddiaeth Asbestos
  3. Osgoi Trais
  4. Ymdrin â Sylweddau Peryglus
  5. Mynd i’r afael ag Iechyd a Diogelwch
  6. Codi a Chario’n ddiogel
  7. Rheoli Risg Ffordd Galwedigaethol
  8. Deall Bygythiad Tân
  9. Cofnodi Digwyddiadau Iechyd a Diogelwch
  10. Lleddfu Straen
  11. Gweithio ar Uchder
  12. Gweithio’n ddiogel ar Gyfrifiaduron

Am ragor o wybodaeth am fodiwlau hyfforddi E-Ddysgu Hanfodion Iechyd a Diogelwch, ewch i: https://www.aber.ac.uk/cy/hse/training/hseessentials/.

Am ragor o wybodaeth am faterion yn ymwneud â sesiynau cynefino Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd cysylltwch â’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ar hasstaff@aber.ac.uk neu ar estyniad 2073.

Chwefror

Mae Deddf Rheoli Sylweddau sy’n Niweidiol i Iechyd (COSHH) 2002 yn mynnu bod cyflogwyr yn rheoli sylweddau sy’n niweidiol i iechyd, ac yn atal neu’n lleihau cyswllt gweithwyr â’r sylweddau hyn. Mae amryw ffurf i sylweddau COSHH, gan gynnwys cemegion, mwg, llwch, anweddau, nanodechnoleg, nwyon ac asiantau biolegol.

Mae dulliau rheoli’r peryglon sy’n gysylltiedig â sylweddau niweidiol i iechyd yn cynnwys:

  • Cadarnhau beth yw’r peryglon i iechyd;
  • Penderfynu sut i rwystro niwed i iechyd;
  • Darparu rheoliadau i leihau niwed i iechyd;
  • Sicrhau bod y rheoliadau’n cael eu defnyddio;
  • Sicrhau bod y dulliau rheoli’n gweithio’n dda;
  • Darparu gwybodaeth, hyfforddiant a chyfarwyddiadau i weithwyr ac i eraill;
  • Darparu goruchwyliaeth monitro neu oruchwyliaeth iechyd mewn achosion priodol;
  • Paratoi am argyfwng (e.e. sicrhau bod pecynnau ar gael os caiff rhywbeth ei sarnu).

Dylid adnabod a chynnwys rheoliadau priodol yn yr Asesiad Risg COSHH.

Yn ôl y gyfraith, rhaid i gyflenwyr cemegion ddarparu taflen gwybodaeth diogelwch os yw’r sylwedd yn beryglus neu’n medru bod yn niweidiol i iechyd. Mae’r daflen gwybodaeth diogelwch yn disgrifio’r peryglon sy’n gysylltiedig â’r sylwedd, ac yn rhoi gwybodaeth ynghylch trin, storio, a threfniadau mewn argyfwng. Dylech nodi nad yw taflenni gwybodaeth diogelwch yn asesiad risg. Yn hytrach, dylid defnyddio’r wybodaeth yn y daflen gwybodaeth diogelwch COSHH wrth baratoi’r Asesiad Risg COSHH.

Mae hanfodion Asesiadau Risg COSHH yn cynnwys pum prif gam:

  1. Casglu gwybodaeth am y sylwedd, y gwaith ac arferion gweithio;
  2. Gwerthuso’r peryglon i iechyd;
  3. Penderfynu beth sydd angen ei wneud;
  4. Cofnodi’r asesiad;
  5. Adolygu’r asesiad.

Dylai pob Asesiad Risg COSHH gael ei lofnodi â’i ddyddio gan unigolyn cymwys, a dylent fod ar gael ynghyd â’r taflenni gwybodaeth COSHH i unrhyw aelod staff sy’n dod i gyswllt â neu’n gweithio gyda sylweddau niweidiol. Mae enghreifftiau o ddulliau storio effeithiol yn cynnwys eu cadw yn y man defnydd (er enghraifft mewn ffolder wedi’i gadw mewn labordy), neu mewn storfa ffeil (fel gwefan SharePoint).

Cewch ragor o wybodaeth am sylweddau sy’n niweidiol i iechyd yn: https://www.aber.ac.uk/cy/hse/proc-prac/coshh/.

Mae manylion ynghylch y cwrs Cyflwyniad i COSHH, a gynigir gan yr Adran Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd, ar gael yn:  https://www.aber.ac.uk/cy/hse/training/coshh-training/.

Ionawr

Yn ystod misoedd y gaeaf, mae’n anodd rhagweld y tywydd a gall newid yn gyflym, ac mae hyn i gyd yn gallu gwneud ffyrdd yn beryglus neu dwyllodrus. Gall amodau’r ffordd effeithio’n sylweddol ar allu’r gyrrwr i weld a phellteroedd stopio. Mae Brake, sef elusen diogelwch ffordd, yn rhoi’r cyngor canlynol ar gyfer gyrru yn y gaeaf neu mewn tywydd garw.

Osgoi Gyrru

Os oes modd, dylech osgoi gyrru mewn eira neu unrhyw amodau peryglus eraill. Peidiwch â chychwyn taith os yw’n bwrw eira’n drwm neu os yw’r rhagolygon yn awgrymu eira, a dylech osgoi gyrru mewn amgylchiadau drwg eraill, er enghraifft niwl, glaw trwm neu rew. Yn y fath amgylchiadau, ystyriwch ddewisiadau eraill fel trafnidiaeth gyhoeddus.

Paratowch

Hyd yn oed os ydych yn osgoi dechrau teithio mewn tywydd gwael, gallwch gael eich dal. Mae dulliau y gallwch baratoi eich hun yn cynnwys:

  • Sicrhau bod y cerbyd wedi’i gynnal yn dda, trwy gael MOT, cael gwasanaeth yn rheolaidd, a chadw golwg ofalus arno eich hun;
  • Cadw golwg gyson ar y teiars i sicrhau eu bod mewn cyflwr da a bod dyfnder y wadn yn 3mm o leiaf er mwyn bod yn ddiogel mewn tywydd gwlyb;
  • Sicrhau bod hylif gwrth-rew yn eich rheiddiadur a photel hylif golchi’r ffenestr flaen;
  • Cadw crafwr rhew a de-icer yn eich cerbyd trwy’r gaeaf;
  • Cadw pecyn gyrru yn y gaeaf rhag ofn – gall hyn gynnwys: fflachlamp; cadachau; blanced a dillad cynnes; bwyd a diod; blwch cymorth cyntaf; rhaw; triongl rhybuddio; a fest gwelededd uchel;
  • Ewch â ffôn symudol â batri llawn gyda chi rhag ofn y bydd argyfwng, ond peidiwch â chael eich temptio i’w ddefnyddio wrth yrru.

Mae dulliau eraill o leihau’r risg o deithio yn cynnwys:

  • Edrych ar fatri’r car er mwyn sicrhau nad oes angen ei newid;
  • Clirio rhew, eira ac anwedd yn gyfangwbl o’r ffenestr flaen a phob ffenestr arall cyn dechrau. Cliriwch eira oddi ar do’r cerbyd hefyd, gan y gall gwympo ac amharu ar yr hyn y gallwch ei weld yn ystod eich taith;
  • Ystyriwch y rhagolygon a chynlluniwch eich taith yn ofalus. Mewn tywydd gwael, mae’r prif ffyrdd yn fwy tebygol o fod yn glir ac wedi’u graeanu;
  • Caniatewch ddigon o amser am oediadau.

Gyrru Gofalus

Os ydych wedi’ch dal mewn tywydd garw, mae’r dulliau o leihau’r risg a pheryglon yn cynnwys:

  • Arafu – os yw’n anodd gweld, neu os yw’r ffordd yn wlyb neu’n rhewllyd, gall gymryd hirach i chi ymateb i beryglon felly dylech dorri ar eich cyflymder;
  • Cadwch fwlch diogel tu ôl i’r cerbyd o’ch blaen – y bwlch rhyngddoch â’r cerbyd o’ch blaen fydd eich lle i frecio mewn argyfwng. Mae pellteroedd brecio yn dyblu yn y glaw, a gallant fod hyd at 10 gwaith pellach mewn tywydd rhewllyd;
  • Byddwch yn wyliadwrus o bobl a pheryglon – mae pobl yn cerdded, beiciau, beiciau modur a cheffylau yn anoddach eu gweld mewn tywydd garw;
  • Cadwch reolaeth – drwy osgoi brecio neu gyflymu yn wyllt, a bod yn ofalus iawn wrth wneud unrhywbeth;
  • Defnyddio goleuadau – rhowch oleuadau ymlaen mewn tywydd mwll neu os yw hi’n anoddach nag arfer i weld yn glir.

I gael rhagor o wybodaeth yn ymwneud â diogelwch ar y ffordd, ewch i wefan yr elusen diogelwch ffordd, Brake: http://www.brake.org.uk/.