Neges Fisol Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd (2018)

I weld negeseuon Misol Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd y gorffennol, dewiswch o'r tabiau canlynol:

Medi

Mae ymgyrch ‘Go Home Healthy’ yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi nodi agweddau allweddol a allai gael effaith anffafriol ar iechyd a lles gweithwyr. Un o’r agweddau hyn yw straen, a ddiffinir fel yr ymateb anffafriol y mae pobl yn ei gael i bwysau gormodol neu fathau eraill o alwadau a roddir arnynt.

Mae’r Awdurdod wedi nodi chwe factor a all gyfrannu tuag at straen sy’n gysylltiedig â gwaith:

  • gofynion eich swydd;
  • eich rheolaeth dros eich gwaith;
  • y gefnogaeth a gewch gan reolwyr a chydweithwyr;
  • eich perthynas â phobl yn y gwaith;
  • eich sefyllfa yn y sefydliad;
  • newidiadau a’r dulliau o’u rheoli.

Mae’n rhaid hefyd cydnabod y gall ffactorau eraill fel materion teuluol, llety neu bersonol gyfrannu at effeithiau straen.

Mae straen yn effeithio’n wahanol ar bawb, ond mae’r CIG wedi pennu 10 dull cyffredinol, a allai helpu i drin effeithiau straen:

  1. Byddwch yn fywiog – gall ymarfer corff leihau peth o’r dwysedd emosiynol yr ydych yn ei deimlo, gan glirio eich meddwl a gadael i chi drin eich problemau’n fwy pwyllog.
  2. Cymerwch Reolaeth – Mae ateb i bob problem. Mae’r weithred o gymryd rheolaeth yn rymus ynddi’i hun, ac mae’n rhan allweddol o ganfod ateb sy’n eich bodloni chi ac nid rhywun arall.
  3. Cysylltwch â phobl – Gall rhwydwaith cefnogol o gydweithwyr, ffrindiau a theulu leddfu eich problemau yn y gwaith a’ch helpu i weld pethau’n wahanol.
  4. Cymerwch amser i chi’ch hunan – Yn aml, nid ydym yn treulio digon o amser yn gwneud yr hyn rydym yn wir yn ei fwynhau.
  5. Heriwch eich hunan – Mae gosod nod a heriau, yn y gwaith neu fel arall, fel dysgu iaith neu gamp newydd, yn gall adeiladu hyder ac ymdrin â straen.
  6. Osgoi Arferion Afiach – Peidiwch â dibynnu ar alcohol, ysmygu na chaffein yn ddull o ymdopi.
  7. Helpwch bobl eraill – Mae na dystiolaeth bod pobl sy’n helpu eraill, drwy weithgareddau fel gwirfoddoli neu waith yn y gymuned, yn fwy abl i ymdopi.
  8. Gweithio’n ddoethach, nid yn galetach – Mae gweithio’n ddoethach yn golygu blaenoriaethu gwaith, gan ganolbwyntio ar y tasgau sydd wir yn gwneud gwahaniaeth.
  9. Ceisio bod yn gadarnhaol – Chwiliwch am y pethau cadarnhaol mewn bywyd, a’r pethau yr ydych yn ddiolchgar amdanynt.
  10. Derbyn pethau na allwch eu newid – Nid yw bob amser yn bosibl newid sefyllfa anodd. Ceisiwch ganolbwyntio ar y pethau y gallwch eu rheoli.

Cewch wybodaeth bellach am y dulliau hyn yn: https://www.nhs.uk/conditions/stress-anxiety-depression/reduce-stress/

Bydd aelodau o’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd yn mynd i Ddigwyddiad Iechyd a Lles y Brifysgol, a gynhelir Ddydd Iau 13 Medi. Cewch wybodaeth bellach ynghylch y digwyddiad yma

Awst

Gall cyfnodau o dywydd poeth iawn beri amodau gwaith anghysurus, yn enwedig os yw’r tymheredd yn uchel am gyfnodau hir. Er nad oes uchafswm tymheredd gwaith a ganiateir wedi’i nodi, mae’r Rheoliadau Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992 yn nodi “yn ystod oriau gwaith, dylai’r tymheredd ym mhob gweithle o fewn yr adeiladau fod yn rhesymol”. Yn y cyd-destun hwn, bydd tymheredd rhesymol yn dibynnu ar y gweithgaredd ac ar amodau amgylcheddol y gweithle.

Gall cydweithwyr a rheolwyr llinell gyflwyno nifer o fesurau rheoli a fwriedir i liniaru effeithiau gweithio mewn tywydd poeth. Gall mesurau rheoli posib gynnwys, ond ni fyddant yn gyfyngedig i:

  • Sicrhau bod ffenestri ar agor i hyrwyddo cylchrediad aer trwy’r adeilad a lleihau crynodiad gwres yn ystod y dydd (Noder: Dylid ystyried diogelwch adeilad pan fydd yn wag, a chau ffenestri yn ystod y cyfnodau hynny e.e. ar ddiwedd pob dydd).
  • Symud neu leoli gweithfannau lle nad ydynt yn uniongyrchol yng ngolau’r haul ac unrhyw wrthrychau a all belydru gwres.
  • Sicrhau bod llenni neu haen adlewyrchol ar gael ac yn gweithio’n gywir er mwyn lleihau effeithiau’r gwres.
  • Llacio cod gwisg ffurfiol i staff sy’n gallu eu gwneud hyd yn oed yn fwy anesmwyth e.e. caniatáu dillad trwsiadus, ysgafn a llac yn hytrach na siwt a thei (Noder: Bydd dal angen gwisgo a defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) ar gyfer tasgau penodol).
  • Sicrhau bod awyrgylch oerach ac amgylchedd cyfforddus ar gael i’w defnyddio gan staff ar gyfer egwyl.
  • Ystyried prynu ffaniau sy’n troelli a sicrhau eu bod yn effeithiol.
  • Sicrhau bod digon o ddŵr yfed ar gael.
  • Caniatáu cyfnodau egwyl mwy rheolaidd yn ystod y dydd, er mwyn lleihau’r amser mae’r gweithiwr yn ei dreulio mewn amgylchedd poeth heb saib.
  • Ystyried cylchdroi tasgau er mwyn cyfyngu faint o weithgareddau corfforol a wneir yn ystod cyfnodau poeth. Dylid derbyn hefyd y gall rhai gweithgareddau gymryd yn hwy i’w cwblhau yn ystod cyfnodau o dywydd poethach na’r arfer.
  • Ystyried effaith ychwanegol y tywydd cynnes ar gydweithwyr sydd mewn sefyllfaoedd penodol, er enghraifft mamau newydd neu fenywod beichiog, unigolion ag afiechydon penodol neu’n cymryd meddyginiaeth penodedig.

Gall unigolion hefyd leihau effeithiau gwres drwy’r newidiadau canlynol i’w hymddygiad eu hunain:

  • Gwisgo dillad golau a llac.
  • Osgoi caffein a diodydd melys iawn, sy’n dad-hydradu’r corff.
  • Yfed, ac annog eraill i yfed, digon o ddŵr.
  • Defnyddio llenni i leihau gwres o olau uniongyrchol yr haul.
  • Sicrhau bod yr holl offer trydanol dianghenraid wedi’i ddiffodd os nad yw’n cael ei ddefnyddio, i leihau gwres wedi’i belydru.
  • Dweud wrth eich Rheolwr Llinell yn syth os ydych yn dechrau teimlo’n sâl.

I gael gwybodaeth pellach ynglŷn â gweithio mewn tymheredd poeth, cysylltwch â’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd, trwy e-bostio hasstaff@aber.ac.uk neu ffonio 2073. 

Ebrill

Diweddarwyd Polisi Iechyd a Diogelwch y Brifysgol yn ddiweddar fel rhan o gynllun adolygu arfaethedig, a gafodd ei ystyried a’i gymeradwyo gan aelodau Cyngor y Brifysgol. Mae’r adolygiad hefyd wedi ceisio cywasgu’r Polisi, tra’n cynnwys elfennau o ddogfen  ‘Leadership and Management in Health & Safety in Higher Education Institutions’ yr University Health and Safety Association (USHA). Mae dogfen yr USHA yn rhoi enghreifftiau o arferion da diwydiant-benodol ar gyfer systemau rheoli iechyd a diogelwch effeithiol mewn sefydliadau addysg uwch.

Mae'r Polisi’n nodi elfennau allweddol system rheoli iechyd a diogelwch y sefydliad, ac yn manylu ar ymrwymiad y Brifysgol i gynnal a gwella iechyd, diogelwch a lles ein staff, myfyrwyr ac eraill a allai gael eu heffeithio gan ein gweithgareddau.

Yng ngoleuni cynnwys, rolau cysylltiedig, cyfrifoldebau a disgwyliadau ymarferol y Polisi, nid oes llawer iawn  o newidiadau o’r fersiwn flaenorol. Mae atodiadau wedi’u hychwanegu yn dilyn y fframwaith cydnabyddedig Plan, Do, Check, Act ar gyfer grwpiau o staff allweddol gyda chyfrifoldebau penodol o fewn y Polisi.

Dylai pob cydweithiwr fod yn ymwybodol o’r egwyddorion cyffredinol sydd wedi’u cynnwys yn y Polisi, gan eu bod yn berthnasol i bob aelod o staff a phob myfyriwr. Yn benodol, mae disgwyl i bob unigolyn gymryd gofal rhesymol am eu hiechyd a’u diogelwch eu hunain, ac eraill a allai gael eu heffeithio gan eu gweithgareddau neu’u diffyg gweithredu.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau’n ymwneud â’r Polisi diwygiedig, cysylltwch â’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ar hasstaff@aber.ac.uk neu ar estyniad 2073.

Mae’r Polisi ar gael yn ei gyfanrwydd yma: Polisi Iechyd a Diogelwch (Diweddariad 2018)

Chwefror

Dylai pob digwyddiad ac achos trwch blewyn fod yn destun ymchwiliad mewnol, gyda lefel a natur pob ymchwiliad yn ddibynnol ar ddifrifoldeb y digwyddiad a’r tebygolrwydd y bydd yn digwydd eto. Mae rhoi’r bai ar unigolion yn ofer yn y pen draw ac mae’n cynnal y myth bod damweiniau ac achosion o salwch yn anochel. Ond y gwrthwyneb sy’n wir mewn gwirionedd. Bydd mesurau rheoli wedi’u cynllunio’n dda, ynghyd â goruchwyliaeth addas, monitro a rheolaeth effeithiol yn sicrhau bod gweithgareddau yn y gwaith yn ddiogel. Gall digwyddiad arwain at ganlyniadau mwy difrifol os yw’n digwydd eto, felly prif nod unrhyw ymchwiliad yw atal unrhyw ailadrodd.

Dylai'r ystyriaethau cyffredinol hyn gael eu cymhwyso i bob math o ymchwiliadau i ddigwyddiadau, a allai gynnwys ond efallai nad ydynt yn gyfyngedig i: ddigwyddiadau sydd wedi arwain at anafiadau neu'r potensial am anafiadau; digwyddiadau sydd wedi arwain at ddifrod i eiddo neu offer, neu sydd â'r potensial i wneud hynny; neu ddigwyddiadau amgylcheddol sydd wedi arwain at lygredd neu'r potensial am lygredd.

Dyma rai o fanteision cynnal ymchwiliadau effeithiol i ddigwyddiadau:

  • Adnabod pam mae’r mesurau rheoli presennol wedi methu, a pha welliannau neu reoliadau ychwanegol sydd eu hangen.
  • Cynllunio i atal digwyddiadau o’r fath rhag digwydd eto.
  • Adnabod y meysydd lle mae angen adolygu’r asesiadau risg perthnasol.
  • Gwella’r trefniadau rheoli risg yn y gweithle ar gyfer y dyfodol.

Dylai cydweithwyr sy’n ymgymryd ag ymchwiliadau i ddigwyddiadau o fewn eu Hathrofa neu’u Hadran Gwasanaeth Proffesiynol ystyried y cwestiynau canlynol i’w tywys drwy’r broses:

  • Sut ddigwyddodd y digwyddiad a pha offer oedd yn cael ei ddefnyddio?
  • Pa effaith gafodd yr anawsterau i ddefnyddio’r offer?
  • Pa weithgareddau oedd yn digwydd ar y pryd?
  • Unrhyw amodau gweithio anarferol?
  • A oedd y gweithdrefnau gweithio’n ddiogel yn addas ac a gawsant eu dilyn?
  • Natur yr anafiadau neu unrhyw niwed arall?
  • Sut ddigwyddodd yr anafiadau?
  • Faint o wybodaeth oedd am y risg, ac a oedd y mesurau rheoli yn ddigonol?
  • Dylanwad trefn gwaith, cynllun y gweithle a/neu’r deunyddiau a ddefnyddir?
  • A oedd y gwaith cynnal a chadw a’r glanhau yn ddigon da?
  • A oedd y bobl yno yn gymwys ac addas?
  • A oedd digon o gyfarpar diogelwch?

Prif bwrpas pob ymchwiliad yw adnabod ac ymdrin â’r achosion canlynol ar gyfer y digwyddiad:

  1. Achosion Uniongyrchol – cyfrwng yr anaf neu’r salwch (e.e. gwrthrych, sylwedd, ac ati);
  2. Achosion Sylfaenol – gweithredoedd a/neu amgylchiadau anniogel (e.e. tynnu gwarchodydd, diffodd system awyru, ac ati);
  3. Achosion Craidd – methiant sy’n sylfaen i’r holl fethiannau eraill, yn aml heb gysylltiad uniongyrchol â’r digwyddiad ei hun.

Wedi adnabod yr achosion, dylai cydweithwyr ddefnyddio’u canlyniadau i roi camau ar waith i atal hyn rhag digwydd eto. Gellir cyflawni hyn drwy sicrhau bod camau cywiro yn cael eu cymryd, bod yr hyn a ddysgwyd yn cael ei rannu’n eang, a bod unrhyw welliannau angenrheidiol yn cael eu rhoi ar waith.

I gael rhagor o wybodaeth a chanllawiau yn ymwneud â chynnal ymchwiliadau, cysylltwch â’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ar hasstaff@aber.ac.uk neu ar estyniad 2073.

Ionawr

Mae straen yn effeithio ar bobl mewn nifer o ffyrdd, yn gorfforol ac yn emosiynol, ac i wahanol raddau. Mae ymchwil wedi dangos y gall pwysau cynyddol weithiau fod yn gadarnhaol, gan wella perfformiad mewn sefyllfaoedd penodol. Ond, darganfuwyd ei fod ond yn fuddiol os mai straen tymor byr ydyw. Gall pwysau eithafol neu hirdymor gyfrannu at afiechydon megis clefyd y galon a phroblemau iechyd meddwl megis pryder ac iselder.

O ganlyniad, mae’n bwysig bod unigolion yn adnabod ac yn gweithredu ar arwyddion o straen. Gall straen effeithio ar y ffordd yr ydych yn teimlo’n emosiynol, yn feddyliol a chorfforol, yn ogystal â’r modd yr ydych yn ymddwyn. Er bod straen yn effeithio ar bawb yn wahanol, dyma rai o’r arwyddion a’r symptomau cyffredin:

Sut yr ydych yn teimlo’n emosiynol

  • Wedi gorlethu       
  • Anniddig        
  • Yn bryderus neu’n ofnus       
  • Diffyg Hunan-barch

Sut yr ydych yn teimlo’n feddyliol

  • Meddyliau’n rasio        
  • Poeni’n ddiddiwedd       
  • Anhawster canolbwyntio        
  • Anhawster gwneud penderfyniadau

Sut yr ydych yn teimlo’n gorfforol

  • Cur pen        
  • Tensiwn neu boen yn y cyhyrau        
  • Penysgafnder        
  • Problemau cysgu        
  • Teimlo’n flinedig drwy’r amser        
  • Bwyta gormod neu ddim digon

Sut yr ydych yn ymddwyn

  • Yfed neu ysmygu mwy        
  • Troi ar bobl        
  • Osgoi pethau neu bobl yr ydych yn cael problemau â hwy

 

Mae arbenigwyr mewn lles yn cynnig y deg awgrym canlynol ar gyfer lleddfu straen:

  1. Cadw’n heini – Ni fydd ymarfer corff yn cael gwared ar y straen, ond bydd yn lleihau rhai o’r dwyster emosiynol yr ydych yn ei deimlo, yn clirio eich meddwl, ac yn eich galluogi i ymdrin â phroblemau’n well.
  2. Cymryd Rheolaeth - Mae ateb i bob problem. Mae’r weithred o gymryd rheolaeth ynddi’i hun yn rymus, ac mae’n rhan hanfodol o ddod o hyd i ateb sy’n eich bodloni chi yn hytrach na phobl eraill.
  3. Cysylltu â Phobl – Gall rhwydwaith da o gydweithwyr, ffrindiau a theulu leddfu eich problemau yn y gwaith a’ch helpu i weld pethau mewn ffordd wahanol.
  4. Sicrhau amser i chi’ch hun – Treuliwch ddigon o amser yn gwneud yr hyn yr ydych wir yn ei fwynhau.
  5. Herio eich Hun – Mae gosod nodau a heriau i’ch hun, pa un ai yn y gwaith neu’r tu allan i’r gwaith, megis dysgu iaith neu gamp newydd, yn helpu i fagu hyder. Bydd hyn yn eich helpu i ymdopi â straen.
  6. Osgoi Arferion Afiach - Peidiwch â dibynnu ar alcohol, ysmygu neu gaffein fel dulliau o ymdopi. Yn y tymor hir, ni fydd y rhain yn datrys eich problemau.
  7. Helpu pobl eraill – Mae tystiolaeth yn dangos bod pobl sy’n helpu eraill, drwy weithgareddau megis gwirfoddoli neu waith yn y gymuned, yn dod yn fwy gwydn.
  8. Gweithio’n ddoethach, nid yn galetach – Mae gweithio’n ddoethach yn golygu blaenoriaethu eich gwaith, gan ganolbwyntio ar y tasgau sydd wir yn gwneud gwahaniaeth.
  9. Ceisio bod yn gadarnhaol – Chwiliwch am y pethau cadarnhaol mewn bywyd, a’r pethau yr ydych yn ddiolchgar amdanynt.
  10. Derbyn pethau na allwch eu newid – Nid yw hi bob amser yn bosibl newid sefyllfa anodd. Ceisiwch ganolbwyntio ar y pethau y mae gennych reolaeth drostynt.

Os hoffech roi cynnig ar rai o’r awgrymiadau hyn i leddfu straen, efallai y bydd y dolenni hyn o gymorth:

https://www.aber.ac.uk/en/media/departmental/oldstudentsupport/pdf/Wellbeing-Map-eng.pdf

https://www.aber.ac.uk/en/sportscentre/membership/

https://www.aber.ac.uk/en/student-support/our-services/student-wellbeing/

https://www.aber.ac.uk/en/study-with-us/prospectus/?from=homepage-tile

https://www.aber.ac.uk/en/hr/employeeassistanceprogramme/

https://www.carefirst-lifestyle.co.uk/fileadmin/content/PDFs/Articles-All/2014/Alcohol/December_Article2.pdf

https://www.carefirst-lifestyle.co.uk/fileadmin/content/PDFs/Articles-All/2014/Alcohol/December_Article3.pdf

https://www.carefirst-lifestyle.co.uk/fileadmin/content/PDFs/Articles-All/2015/Smoking/March_Article3.pdf

http://www.volunteering-wales.net/landing/

https://www.aberystwythartscentre.co.uk/

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy’r ffynonellau canlynol:

Sefydliad Iechyd Meddwl: https://www.mentalhealth.org.uk/

NHS Stress: https://www.nhs.uk/Conditions/stress-anxiety-depression/Pages/understanding-stress.aspx

Mind: https://www.mind.org.uk/information-support/tips-for-everyday-living/stress/#.WjeXW8tLHcs