IBERS yn ganolfan ymchwil a dysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol
Mae Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ( IBERS ) yn ganolfan ymchwil a dysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol a sydd yn darparu sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang megis diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effeithiau newid hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol o genynnau a moleciwlau i organebau a'r amgylchedd.
Ym mis Ionawr 2018 gwnaethom dderbyn Achrediad Cymdeithas Frenhinol Bioleg ar gyfer 20 o'n cyrsiau biowyddoniaeth israddedig. Yn ogystal, mae 5 o'n cyrsiau Meistr Integredig wedi derbyn statws Achrediad Uwch dros dro Cymdeithas Frenhinol Bioleg (a ddaw yn Achrediad Uwch pan fydd y garfan gyntaf o fyfyrwyr o gyrsiau gradd MBiol yn graddio yn haf 2018).
Mae IBERS yn derbyn cyllid ymchwil strategol gan y Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol (BBSRC) i gefnogi ymchwil a yrrir gan genhadaeth tymor hir, ac mae'n aelod o Sefydliad Cenedlaethol y Biowyddorau. Mae IBERS yn elwa hefyd o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru , DEFRA a'r Undeb Ewropeaidd.
Gyda dros 300 o aelodau o staff , IBERS yw'r Athrofa fwyaf o fewn Prifysgol Aberystwyth, gan addysgu dros 1,000 o fyfyrwyr israddedig a mwy na 150 o fyfyrwyr ôl-raddedig, ac mae'n gartref i Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion, a Chanolfan Ragoriaeth ar gyfer Bioburo BEACON - partneriaeth rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor a Abertawe, a Phrifysgol De Cymru.
Dyfarnwyd gwobr “Excellence with Impact” Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol (BBSRC) i IBERS yn 2011.
MaeIBERS yn gweitho gyda phartneriaid academaidd a diwydiannol, yn datblygu a chyfieithu ymchwil biowyddoniaeth arloesol a chanfod atebion i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd, clefydau planhigion ac anifeiliaid, a darparu ynni adnewyddiadwy a sicrwydd bwyd a dwr. Cael gwybod mwy am y effaith economaidd a chymdeithasol IBERS.
Aber ar y brig am fodlonrwydd myfyrwyr yng Nghymru ac yn hefyd un o'r prifysgolion gorau yn y DU am fodlonrwydd myfyrwyr.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn dathlu perfformiad gwych arall yn Arolwg Cenedlaethol blynyddol y Myfyrwyr (ACF) 2018.
Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS): 92% boddhad myfyrwyr (ACF 2018) |
Uchaf yn y DU am asesiadau ac adborth ym maes pwnc Microbioleg (ACF 2018) |
2ail yn y DU am foddhad myfyrwyr ym maes pwnc Gwyddor Anifieliaid (ACF 2018) |
2ail yn y DU am cymorth dysgu yn y maes pwnc Bioleg (ACF 2018) |
3ydd yn y DU am ddysgu ar y cwrs a boddhad myfyrwyr cyffredinol ym maes pwnc Amaethyddiaeth, Gwyddorau Anifeiliad (ACF 2018) |
Mae nifer o'n cyrisau israddedig yn llwyddianus yn yr Arolwg Cenedlaethol i Fyfyrwyr diweddaraf:
100% boddhad myfyrwyr â’n cynllun gradd Bioleg C100 (ACF 2018)
100% boddhad myfyrwyr â’n cynllun gradd Microbioleg C500 (ACF 2018)
100% boddhad myfyrwyr â’n cynllun gradd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff C600 (ACF 2018)
100% o'n myfyrwyr wedi cadarnhau bod ein staff yn dda am egluro pethau ym maes pwnc Geneteg (ACF 2018)
98% boddhad myfyrwyr â chanlyniadau dysgu ein cynllun gradd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff C600 (ACF 2018)
97% boddhad myfyrwyr am canlyniadau dysgu ar ein cynllun gradd Bioleg y Môr a Dŵr Croyw C164 (ACF 2018)
97% o'n myfyrwyr wedi cadarnhau bod ein staff yn dda am egluro pethau ym maes pwnc Swoleg (ACF 2018)
95% o'n myfyrwyr wedi cadarnhau bod ein staff yn dda am egluro pethau ym maes pwnc y Gwyddorau Bioleg (ACF 2018)
92% boddhad myfyrwyr ym maes pwnc y Gwyddorau Bioleg (ACF 2018)
Mae mwy o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn dod o hyd i swyddi da ar ôl graddio nac erioed o’r blaen.
Mae’r cynnydd cyson yma mewn cyflogadwyedd graddedigion yn adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol i sicrhau bod gan ein Myfyrwyr y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer llwyddo ym myd gwaith y 21ain ganrif.
Rydym yn cynnig yn cynnig ystod cynyddol eang o gyrsiau pedair blynedd gyda blwyddyn mewn diwydiant integredig, sy’n caniatáu i fyfyrwyr dreulio amser yn gweithio i gwmni yn eu dewis faes. Gall profiad gwaith go-iawn o’r fath wneud gwahaniaeth pwysig wrth geisio am swydd.
98% o'n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 3% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Biolegol yn genedlaethol. HESA 2018*
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ei henwi yn Brifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd y Dysgu am yr ail flwyddyn yn olynol.
Dyma’r tro cyntaf i brifysgol dderbyn y wobr fawreddog am yr ail flwyddyn o'r bron The Times / Sunday Times Good University Guide, sy’n cael ei gyhoeddi ddydd Sul 23 Medi 2018. Yn ogystal, mae Prifysgol Aberystwyth ar y brig yn y DU am ansawdd y dysgu yn rhifyn 2019 The Good University Guide, cynnydd o bum safle ers 2018. Dengys y cyhoeddiad hefyd fod Prifysgol Aberystwyth wedi cynnal ei safle ymhlith 50 uchaf o brifysgolion y DU.