Tai Gwydr y Gerddi Botaneg
Yn 1946 prynodd y Brifysgol ystâd Plas Penglais. O fewn dwy flynedd adnewyddwyd ac ehangwyd y tŷ yn sylweddol, tra bod staff yr ardd yn mynd i’r afael â’r tir gwyllt oddi amgylch, gan greu gardd hyfryd â lawntiau yn ymestyn i lawr i’r nant fach a’r gwelyau o blanhigion manwyddog a lluosflwydd.
Galwyd y gwelyau hyn yn welyau ‘urdd’ oherwydd bod pob un ohonynt yn cynnwys planhigion o’r un teulu blodeuol neu urdd naturiol. Ar ochr arall y nant, ar ochr ddwyreiniol dreif Plas Penglais (gyferbyn â phrif fynedfa’r campws), codwyd tŷ gwydr ffrâm bren fawr, ynghyd ag adeilad brics unllawr sydd erbyn hyn yn cael ei ddefnyddio fel cwt potiau a storio.
Y Tŷ Trofannol
Disgrifiwyd y Tŷ Trofannol fel ‘Gerddi Kew Aberystwyth’ gan ein hymwelwyr yn ddiweddar. Mae’r planhigion a geir yma yn cynnwys cnydau bwyd trofannol bob dydd e.e. banana, siocled a choffi; planhigion hynafol a fwydai’r deinosoriad; planhigion pryfysol a phlanhigion dŵr (â ‘rhwymynnau breichiau’ i arnofio!) a llu o ddail llachar a gweadog.
Mae’r Tŷ Trofannol yn cynnwys amrywiaeth helaeth o rywogaethau o blanhigion, gan gynnwys Lycophyta (cnwp-fwsogl), rhedyn (tua deg rhywogaeth), sycadau, tua deugain rhywogaeth o Gacti a suglysiau, ‘coeden’ fananas (gweler y llun), planhigyn pîn-afal, coed datys a choco, planhigion pryfysol a Thegeirianau, a llu o blanhigion eraill sy’n cael eu tyfu am eu gwerth addurnol yn unig.
Mae croeso i fyfyrwyr ac ymwelwyr â’r campws ddod i’r tai gwydr i weld y rhywogaethau egsotig hyn o blanhigion. Ceir mynediad i’r Tŷ Gwydr Trofannol drwy’r cwt potiau. Cofiwch fod yr adeiladau ar agor yn ystod oriau gwaith yn unig (9.00-13.00 - 14.00-16.00, dydd Llun-Gwener).
Rhedyn a Sycadau
Y planhigion mwyaf yn y Tŷ Gwydr yw’r goedredynen Angiopteris evecta a’r sycad Cycas revoluta. Mae sawl math o redyn a sycadau yn y casgliad.
Cliciwch ar y dolenni isod i weld ambell enghraifft:
- Dosbarth Pteridophyta (y rhedyn)
- Dosbarth Cycadophyta (y sycadau)
Planhigion Blodeuol (yr Angiosbermau)
Gosodwyd planhigion blodeuol mewn gwelyau blodau ac arddangosiadau.
Yn ôl y drefn ddosbarthu a luniwyd gan Cronquist, mae’r angiosbermau yn ffurfio’r Dosbarth Magnoliophyta, a rennir yn ddau ddosbarth (gyda’r terfyniad -opsida), a phob un ohonynt hwythau wedi’i rannu’n is-ddosbarthiadau (gyda’r terfyniad -idae). Mae 12 is-ddosbarth o angiosbermau i gyd, sy’n cynnwys 400 o deuluoedd (gyda’r terfyniad-aceae) a dros 200,000 o rywogaethau.
Dosbarth Liliopsida (y monocotau)
- Alismatidae - Perlysiau dyfrol
- Arecidae - Palmwydd, planhigion arymaidd.
- Commelinidae - Tradescantia, papurfrwyn.
- Zingiberidae - Banana, bromeliaceae.
- Liliidae - Lilïau, tegeirianau (chwith).
Dosbarth Magnoliopsida (deuhad-ddail)
- Caryophyllidae - Cacti, ac ati.
- Dilleniidae - Nepenthes, Hibisgws (chwith), blodau’r dioddefaint.
- Rosidae - Planhigion Chenille, ac ati.
- Asteridae - Clerodendrum, ac ati.
Cydnabyddiaeth a chysylltiadau
Staff y Tŷ Gwydr: David Summers, Pat Causton, Ray Smith, Tom Thomas a chynorthwywyr.
Ffôn: 01970 628612
Testun gwreiddiol gan Dr Ian Scott a Pat Causton