IBERS Penglais

Er mwyn ein galluogi i ymgysylltu â’r cyhoedd mae Adeilad IBERS ar Gampws Penglais yn darparu cyntedd cymunedol a man arddangos, caffi ac ystafell arlwyo, ystafelloedd cyfarfod a chyfleusterau seminar yn ogystal ag ardal eistedd awyr agored yng ngardd y Sgwâr Academaidd a’r caffi.
Mae’r adeilad newydd hwn wedi’ adeiladu ac yn cael ei redeg ar lefel hynod gynaliadwy. Yn wir, rhagwelir y bydd 35% o’r holl ddŵr a ddefnyddir yn yr adeilad yn cael ei ddarparu gan ddŵr glaw a dŵr llwyd. Mae’r adroddiad adeiladu isod yn cynnwys manylion am y sgôr rhagoriaeth BREEAM a ddyfarnwyd i’r datblygiad hwn: