Ein Hanes

Mae sefydliadau ac unigolion yn Aberystwyth wedi gwneud cyfraniadau sylweddol a phwysig i ddatblygiadau ym meysydd y gwyddorau amaethyddol, tirol a biolegol. Yn wir, enillodd Aberystwyth gryn enw rhyngwladol yn gyflym iawn am ansawdd uchel ei hymchwil a’i dysgu yn y meysydd hyn o’r cychwyn cyntaf.

Mae’r gwaith empeiraidd a damcaniaethol bob amser wedi’i godi yn gadarn ar sylfaen gwaith ymarferol. Roedd y dynion a’r menywod arbennig a sefydlodd ragoriaeth Aberystwyth mewn cynifer o feysydd bob amser yn barod i dorchi eu llewys a mynd ati i roi’r egwyddorion ar waith yn ymarferol. Mae cydweithredu a chydweithio hefyd wedi bod yn agweddau pwysig a nodweddiadol ar y gwaith. Rhan hanfodol o waith sawl adran dros y blynyddoedd oedd parodrwydd ffermwyr blaengar i ganiatáu i genedlaethau o fyfyrwyr fynd i’w ffermydd a’u parodrwydd i ddarparu tir ar gyfer cynnal arbrofion. Yn yr un modd, mae llawer o wyddonwyr wedi cydweithredu â’i gilydd ar ymchwil arbrofol gan anwybyddu ffiniau gweinyddol. Mae’r llinell amser isod yn rhoi crynodeb o rai uchafbwyntiau a rhai o’r cymeriadau a chwaraeai ran yn y stori. Nid yw’n ceisio rhoi hanes cyflawn o gyfraniad Aberystwyth at y gwyddorau amaethyddol, biolegol a thirol. Mae’r gwaith hwnnw wedi’i wneud eisoes gan y diweddar Dr. E. L. Ellis, y diweddar Gwilym Evans a’r Athro Richard Moore Colyer. (E. L. Ellis. The history of the University College of Wales, Aberystwyth 1872-1972. Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru (1972); Richard J. Colyer. Man’s proper study: a history of agricultural education in Aberystwyth 1878-1978. Gwasg Gomer,Llandysul (1982); Gwilym Evans. Pioneers of Gogerddan. Cyhoeddwyd gan yr awdur (1987).

 Llun: Yr Hen Goleg

 

 

 

Date

Mae Coleg Prifysgol Cymru yn agor gerylli yn Aberystwyth, mewn aelod o staff.

1872
Date

Mae’r Athro Henry Tanner o’r Coleg Amaethyddiaeth Brenhin l a Harry Parnall, Is­Lywydd y Brifysgol, yn awyddus i amaethyddiaeth yn bwnc ar y cwricwlwm. Rhoddodd Parnall gyllid am gyfres o ddarlithoedd gan Tanner ar Egwydd ri Amaethyddiaeth. Fe’u cyhoeddwyd wedyn yn y Gymraeg a’r Saesneg. Daeth y fenter hon i ben oherwydd anawsterau ariann l yn y ‘Dirwasgiad Mawr’.

1870au
Date

Penodwyd L. Lyell i staff y Brifysgol gydag ‘ystod o waith dysgu a fyddai’n codi braw hyd yn oed ar yr unigolyn mwyaf hy erus’. Dysgai Lyell ddosbarthiadau Cemeg, Ffiseg a Sŵoleg, Llysieueg, Daearyddiaeth Ffisegol a Daeareg.

1874
Date

Penodwyd L. Lyell i staff y Brifysgol gydag ‘ystod o waith dysgu a fyddai’n codi braw hyd yn o’r hyfforddi amaethyddol yn Aberystwyth.

1890au
Date

Mae’r Adran Amaethyddiaeth yn agor o dan gyfarwyddiaeth Thomas Parry. Mae gwersi ymarferol mewn dulliau amaethu drwy gynnal dosbarthiadau allanol yn dod yn rhan bwysig o waith yr Adran, yn ogystal â Chyrsiau Byrion a Chyrsiau Byrion Uwch.

1891
Date

Mae Aberystwyth yn ymuno â Phrifysgol Cymru ac mae’r radd B.Sc. yn cael ei chyflwyno.

1897-8
Date

Sefydlir y Gymdeithas Amaethyddol, a’r Prifathro T. F. Roberts yn llywydd arni, i hybu astudiaethau a datblygiadau ym maes Amaethyddiaeth yn y Brifysgol. Bydd y gymdeithas yn chwarae rhan bwysig yn y Brifysgol, yn ogystal â chyfraniadau o bwys i ddatblygiadau amaethyddol yng Nghymru.

1898
Date

Fferm Tan­y­graig, daliad 180 erw i’r de i Gwm Ystwyth, yw’r fferm gyntaf i ddod i feddiant y Brifysgol.

1904
Date

Penodir Syr C. Bryner Jones yn Athro Amaethyddiaeth. Daw Jones yn ddylanwad sylweddol iawn ar ddatblygiadau amaethyddol yng Nghymru, yn enwedig ar ôl iddo gael ei benodi yn Gomisiynydd Amaethyddol i Gymru. Mae’n chwarae rhan yng ngwaith datblygu Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ac wrth sefydlu Bridfa Planhigion Cymru,Welsh Journal of Agriculture ac Adran Economeg Amaethyddol y Brifysgol.

1906
Date

Sefydlir Gwasanaeth Cynghori i ffermwyr. Mae’r rhai cyntaf i’w penodi yn cynnwys R. G. Stapledon (Cynghorydd Llysieueg Amaethyddol),T.W. Fagan (Cynghorydd Cemeg Amaethyddol) a D. D. Williams (Swyddog Da Byw) – tri gw^r a ddaeth yn hynod ddylanwadol ym mywyd Cymru yn y blynyddoedd rhwng y rhyfeloedd.

1911
Date

Daw R. D. Laurie yn olynydd H.F. Fleure fel Pennaeth ar yr Adran Swoleg. Drwy haelioni yr Anrhydeddus Samuel Vestey, sefydlir cadair newydd yn Swoleg, a phenodir Laurie yn Athro yn 1922. Er ei bod hi’n amser o galedi ariannol,mae Laurie yn arweinydd ysbrydoledig. Nid yw n llwyddo i ddarbwyllo awdurdodau Brifysgol i ;roi arian i godi adeilad i'r Adran Sŵoleg newydd, felly mae Laurie, gyda’i staff a i fyfyrwyr, yn mynd ati o’u pen a’u pastwn eu hun i godi eu hadeilad eu hun. Roedd Laurie hefyd yn weithgar wrth wella amodau gwaith staff prifysgolion Prydain. Ef oedd sylfaenydd Cymdeithas Athrawon Prifysgolion ac ef oedd ei Llywydd a i Hysgrifennydd er Anrhydedd cyntaf.

1918
Date

'Oes aur' addysg ameathyddiaeth yn Aberystwyth

1919-1939
Date

Mae Syr Lawrence Phillips yn rhoi grant cyfalaf i’r Brifysgol gwerth £10,000 ac ychwanegiadau blynyddol o £1,000 i sefydlu Bridfa Planhigion Cymru. Mae labordai newydd yn cael eu gosod yn yr Adeiladau Amaethyddiaeth ac mae ‘labordy maes’ yn cael ei brynu yn fferm Frongoch.

1919
Date

Penodir Syr R. G. Stapledon yn Athro Llysieueg Amaethyddol ac ef yw’r Cyfarwyddwr cyntaf ar Fridfa Planhigion Cymru. Wedi iddo raddio yng Nghaergrawnt, gweithiai Stapledon yn adran cynhyrchu’r Bwrdd Amaethyddiaeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.Yn y 1920au a’r 30au,o dan ei arweinyddiaeth ysbrydoledig,mae Bridfa Planhigion Cymru yn arloesi ym maes botaneg ac ecoleg y Graminae,ac yn arloesi wrth ddatblygu amrywiaeth eang o weiriau a meillion. Mae’r fridfa’n ennill enw da rhyngwladol am wyddoniaeth a thechnoleg gwella tir glas ac ucheldiroedd. Yn 1938, mae safle arweiniol Aberystwyth fel y brif ganolfan am ymchwil ar seilir ar y tir yn cael ei gydnabod pan gynhalia’r Gynhadledd Tir Glas Ryngwladol.

1919
Date

O’r diwedd, mae Ysgrifennydd Seneddol Adran Amaethyddiaeth y Llywodraeth yn agor adeiladau Adran Amaethyddiaeth CPC yn Heol Alexandra. Sefydlir yr Adran Cemeg Amaethyddol, gyda’r bywiog T. W. Fagan yn Bennaeth arni. Ymhlith meysydd ymchwil yr adran y mae gwaith arloesol sy’n profi bod dail yn well o safbwynt eu gwerth maethlon na choesau plan-higion, a’r angen am ddad-deilio rheolaidd i gynhyrchu allbwn tir pori uchel, yn ogystal â nodweddion cemegol amrywiaeth o Blan-higion. Mae’r Adran yn gweithredu fel Canolfan Ymgynghori i’r Canolbarth a’r De, gan roi cyngor ymarferol ar fathau o bridd, tail a gwrtaith.

1921
Date

Penodir A.W. Ashby yn Gynghorydd a Darlithydd mewn Economeg Amaethyddol. Yn 1929, mae Ashby yn cael ei benodi i’r gadair Economeg Amaethyddol gyntaf ym Mhrydain. Mae’r Adran Economeg Amaethyddol yn rhoi gwasanaethau cynghori i ffermwyr, sydd yn hanfodol i ffermwyr yn ystod hirlwm y dirwasgiad caled hwn.

1924
Date

Penodir y Dr Lily Newton yn Athro Llysieueg. Mae’r adran yn tyfu o dan ei harweinyddiaeth ac yn ennill bri am safon ei hymchwil a’i dysgu. Yn ddiweddarach,yn 1952,daw’r Athro Newton yn Brifathro Dros Dro ar y Brifysgol.

1930
Date

Mae cyrsiau gradd pedair-blynedd ar gael yn Amaethyddiaeth, Llysieueg Amaethyddol, Cemeg gyda Chemeg Amaethyddol, Swoleg gyda Swoleg Amaethyddol ac Economeg gydag Economeg Amaethyddol. Mae diplomâu ar gael hefyd, y Diploma Llaethyddiaeth yw’r un mwyaf poblogaidd, yn enwedig ymhlith merched ffermwyr.

1934
Date

Mae’r Adeilad Ymchwil Amaethyddol yn agor ar riw Penglais, yn gartref i’r Fridfa Planhigion, Canolfan Geneteg Planhigion yr Ymerodraeth, a’r Adran Economeg Amaethyddol.

Hydref 1939
Date

Mae llawer o aelodau o staff yr Adrannau Amaethyddol a Bridfa Planhigion Cymru, gan gynnwys D. W. Davies, E. T. Jones, Trevor Thomas,Moses Griffith,W. Ellison, T.J. Jenkin ac Iorwerth Jones, yn cael eu secondio i wasanaethu ar Bwyllgorau Amaethyddol y Rhyfel. Mae gwaith yr Adrannau yn cael eu haildrefnu yn gyfan gwbl i gefnogi’r Ymgyrch Cynhyrchu Bwyd. Mae ymdrechion y llywodraeth i wneud tir Prydain yn fwy cynhyrchiol yn llwyddo drwy athrylith Syr R. G. Stapledon a’i gydweithwyr. Byddai Syr Reginald Dorman Smith, y Gweinidog Amaethyddiaeth o 1937 ymlaen, yn dweud wedyn mai newyn fyddai tynged Prydain oni bai am waith Stapledon, a hebddo ef ni fyddai Brydain wedi gallu ymgymryd â’i hymgyrch milwrol.

1939-45
Date

Mae T. W. Stephenson yn cael ei benodi’n Athro Swoleg, yn olynydd i R.D. Laurie.Dros y 21 o flynyddoedd wedyn mae ei waith ar anifeiliaid a phlanhigion glan-y-môr yn ennill bri byd-eang ac fe’i hetholir yn Gymrawd i’r Gymdeithas Fren-hinol.

1940
Date

Dryw haelioni’r Arglwydd Milford mae’r Brifysgol yn gallu sefydlu Adran Iechyd Anifeiliaid gydag A. N. Worden yn Athro arni. Mae’r Adran yn gweithio’n helaeth ym maes parasitoleg ac yn cynnal arolwg manwl ar iechyd anifeiliaid yng Nghymru. Mae perthynas gydweithredol agos yn datblygu rhwng yr Adran Iechyd Anifeiliaid a’r cydweithwyr yn yr Adran Swoleg.

1945
Date

Prynir Plas Gogerddan, hen gartref teulu’r Prysiaid, ac yno yn 1953 mae Bridfa Planhigion Cymru yn ymgartrefu.

1950
Date

Penodir Hugh Rees i staff yr Adran Llysieueg Amaethyddol. Ar ôl gwasanaeth anrhydeddus yn ystod y rhyfel, graddiodd Rees o Aberystwyth ac aeth ymlaen wedyn i wneud gwaith ymchwil yn Birmingham.Mae ei astudiaethau ym maes seitogeneteg yn ennill bri rhyngwladol ac mae’n cael ei ethol yn Gymrawd i’r Gymdeithas Frenhinol yn 1976.

1958
Date

Gwahoddir yr Athro Philip Wareing gan Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, i dderbyn Cadair yr Adran Lysieueg. Yn y degawd canlynol mae e’n sefydlu grwp helaeth gyda’r holl adnoddau i ymchwilio i ffisioleg planhigion. Mae e hefyd yn flaenllaw wrth sefydlu gwyddor yr amgylchedd yn y Brifysgol ac yn sefydlu Ysgol y Gwyddorau Biolegol gan ymgorffori adrannau a fu gynt ar wahân. Yn weinyddwr penigamp, mae’n gwasanaethu fel Is-ganghellor o 1977-1979, ac yn ymddeol yn 1981.

1958
Date

Penodir T. W. Goodwin, biocemegwr byd-enwog, i’r gadair Cemeg Amgaethyddol ac mae’n sefydlu ysgol ymchwil ffyniannus ym maes Biocemeg Amaethyddol.

1959
Date

Yn y blynyddoedd hyn gwelir twfsylweddol yn yr Adran Economeg Amaethyddol. Mae’r Adran yn enwedig o weithgar yn astudio agweddau ar ddatblygu rhyngwladol, ac yn enwedig y gwledydd sy’n datblygu. Yn 1966, mae’r Adran yn mentro i fasnachu ac mae Ymddiriedolaeth Undeb Genedlaethol y Ffermwyr yn ariannu darlithyddiaeth yn y pwnc. Sefydlir cadair mewn Marchnata Amaethyddol yn 1978.

1960-1975
Date

Sefydlir Coleg Amaethyddol Cymru a David Morris yw’r Prifathro cyntaf. Mae’r Coleg yn cael ei ariannu drwy drefn anarferol, sef drwy gydbwyllgor o gynrychiolwyr o bob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae ei nod gwreiddiol o roi addysg alwedigaethol mewn amaethyddiaeth yn cael ei gyflawni drwy ddarparu cyrsiau diplomâu cenedlaethol a diplomâu cenedlaethol uwch. Mae’n mentro i arallgyfeirio wedyn i feysydd arall, gan gynnwys cyrsiau mewn rheolaeth cefn gwlad ac astudiaethau ceffylau.Yn 1982 mae’r Coleg, ar y cyd ag Adran Gwyddorau Amaethyddol y Brifysgol, yn cynnig cynllun gradd mewn Amaethyddiaeth, sy’n cynnwys blwyddyn o brofiad ymarferol.

1970
Date

Mae’r Sefydliad Astudiaethau Gwledig yn agor ar Gampws Penglais, gydag estyniad yn cael ei godi yn 1973.

1970
Date

Cychwynnir ar gyd-fenter dysgu ac ysgoloriaethau lwyddiannus iawn, rhwng Ysgol y Gwyddorau Amaethyddol a Choleg Bunda Prifysgol Malawi.

1970
Date

Mae Gwendolen Rees yn ennill Cadair Bersonol yn yr Adran Swoleg ac yn cael ei hethol yn Gymrawd i’r Gymdeithas Frenhinol. Yr Athro Rees yw’r fenyw gyntaf sy’n gweithio yng Nghymru i gael ei hethol yn gymrawd i’r Gymdeithas nodedig hon. A hithau’n arbenigwraig gydnabyddedig mewn trematodau a chestodau, hi oedd un o sylfaenwyr Cymdeithas Parasitoleg Prydain.

1971
Date

Penodir J. Gareth Morris, a fu gynt yn gymrawd ymchwil yn Rhydychen a chymrawd Rockerfeller yng Nghaliffornia, yn Athro Microbioleg. Cydnabyddir ei waith ymchwil ardderchog mewn ffisioleg a biocemeg ficrobaidd pan y’i hetholir yn Gymrawd i’r Gymdeithas Frenhinol yn 1988. Mae’n gwasanaethu fel aelod o Gyngor Cyllido’r Prifysgolion a’r Comisiwn Brenhinol ar Lygredd Amgylcheddol o 1991.

1971
Date

Penodir yr Athro John Cooper yn Gyfarwyddwr Y Fridfa Blanhigion Gymreig a hefyd yn Athro yn yr Adran Lysieueg Amaethyddol. Mae ei ymchwil neilltuol ar eneteg a ffisioleg planhigion cnydio yn cael ei gydnabod trwy ei ethol yn Gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol yn 1977. O dan ei arweiniad, mae enw da'r Fridfa am ragoriaeth mewn ymchwil yn derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol. Yn 1983 blwyddyn ei ymddeoliad, gwobrwyir yr Arthro Cooper gyda’r CBE yn Rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines.

1975
Date

Bridfa Blanhigion Cymru yn derbyn Gwobr y Frenhines am Gyrhaeddiad Technolegol am ddatblygiad a llwyddiant masnachu rhygwellt hybrid tetrapolidaidd. Cafodd athroniaeth cynnal ymchwil cellolegol elfennol hyd at ddefnydd ymarferol o’r dechnoleg ei dadtblygu gan Dr Les Breese, Pennaeth Adran Bridio Mandyfiant Llysieuol.

1976
Date

Daw Jack Heslop-Harrison, Athro Ymchwil y Gymdeithas Frenhinol a Chyfarwyddwr Gerddi Botanegol Kew rhwng 1971 a 1977 i’r Fridfa Blanhigion Gymreig ble mae’n parhau a’i ymchwil ar ffisioleg celloedd planhigion a gychwynnwyd yn wreiddiol yn Belfast yn 1959. Yn 1985 fe’i penodir yn Weithiwr Ymchwil Gwadd Anrhydeddus hyd at ei ymddeoliad yn 1993.

1977
Date

Mae Bridfa Planhigion Cymru yn symud o’r coleg isefydliad newydd y Cyngor Ymchwil i Amaethyddiaeth a Bwyd,sef y Sefydliad Tir Glas a Chynhyrchu Anifeiliaid. (IGAP). 1988 Penodir yr Athro John Stoddart yn Gyfarwyddwr Ymchwil Sefydliad y Tir Glas a Chynnyrch o Anifeilaid (IGAP). Caiff ei wneud yn Gymrawd o’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol ac fe’i gwobrwyir â’r CBE mewn cydnabyddiaeth o’i gyflawniadau personol arbennig a’i wasanaeth i’r diwydiant amaethyddol. Mae’n ymddeol yn 1993, ac erbyn hyn mae IGAP wedi dod yn Sefydliad Ymchwil y Tir Glas a’r Amgylchedd (IGER) y Cyngor Ymchwil Amaeth a Bwyd (AFRC).

1986
Date

Sefydlir Sefydliad y Gwyddorau Biolegol.

1988
Date

John Harries yw olynydd Robin Gill fel Prifathro Coleg Amaethyddol Cymru.

1992
Date

Penodir yr Athro Chris Pollock yn Gyfarwyddwr Ymchwil Sefydliad Ymchwil y Tir Glas a’r Amgylchedd (IGER).Gyda gradd mewn llysieueg o Brifysgol Caergrawnt, bu yn y Sefydliad ers 1974 a fe oedd Pennaeth yr Adran Bywydeg Amgylcheddol. Yn ystod ei amser fel Cyfarwyddwr yn IGER, mae’r Athro Pollock yn cadeirio'r Pwyllgor Cynghori ar Ollyngiadau i’r Amgylchedd (ACRE) a’r Grwp BlaenoriaethauYmchwil ar gyfer Amaeth a Bwyd Cynaliadwy, gan wasanaethu hefyd ar Banel Gwobrwyo Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Lloegr. Mae e’n Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgolion Cymru a Nottingham a chaiff ei anrhydeddu â’r OBE yn 2002 am ei wasanaeth i’r amgylchedd. Cyn ymddeol o IGER yn 2007, mae’n cael ei wahodd i gadeirio’r Panel Gwyddorau Milfeddygol, Amaeth a Bwyd ar gyfer Ymarferiad Asesiad Ymchwil 2008.

1993
Date

Mae Coleg Amaethyddol Cymru yn ymuno â’r Brifysgol gan uno ag Adran y Gwyddorau Amaethyddol i greu Sefydliad Astudiaethau Gwledig Cymru gyda Michael Haines yn cael ei benodi’n Gyfarwyddwr arno. Mae’r Sefydliad yn cael ei ailenwi’n Sefydliad y Gwyddorau Gwledig wedyn.

1995
Date

Penodir Will Haresign, a fu’n Athro Amaethyddiaeth ers 1996, yn Gyfarwyddwr ar Sefydliad y Gwyddorau Gwledig.

2000
Date

Penodir yr Athro Mike Wilkinson yn Gyfarwyddwr ar Sefydliad y Gwyddorau Biolegol.

2006
Date

Mae Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd yn uno â’r Brifysgol gan gyfuno Sefydliad y Gwyddorau Biolegol a Seflydliad y Gwyddorau Gwledig i ffurfio Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig. Penodir yr Athro Wayne Powell yn Gyfarwyddwr ar y Sefydliad newydd.

2008