Golwg yn ôl ar 90 o flynyddoedd o Fridfa Blanhigion Cymru - persbectif

Y Blynyddoedd Cynnar

Yn Adroddiad Hanner Canmlwyddiant Bridfa Blanhigion Cymru 1919-1969, disgrifiodd yr Athro P. T. Thomas, sef y Cyfarwyddwr ar y pryd, gyd-destun sefydlu’r Fridfa. Ar wahân i’r porfeydd pesgi, dim ond cynnal da byw oedd glastiroedd Prydain; er mwyn gallu bodloni gofynion cynhyrchu roedd yn rhaid mewnforio dwysfwyd. Arweiniodd y gydnabyddiaeth bod amaethyddiaeth da byw yn ddiffygiol yn hynny o beth at sefydlu’r Fridfa fel adran o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, gyda labordai yn Ffordd Alexandra, a lleiniau arbrofi ger y Llyfrgell Genedlaethol ar Rhiw Penglais a Fferm y Frongoch. Daeth y Fridfa i fod drwy ysbrydoliaeth yr Athro Amaethyddiaeth yn Aberystwyth, sef Bryner Jones, a thrwy haelioni’r Arglwydd Milford. Fel mae’r enw yn ei awgrymu, diben y fridfa oedd bridio gwell amrywiadau o weiriau, meillion, grawn a chnydau amaeth eraill i Gymru. George Stapledon (Syr George Stapledonyn ddiweddarach) oedd y dyn â gweledigaeth a ddaeth yn Gyfarwyddwr cyntaf ar y sefydliad. Dywedodd wrth yr Athro Jones na fyddai’n gwneud cais ffurfiol am y swydd, ond fe fyddai’n derbyn y swydd pe bai’n cael ei chynnig! (Waller, 1962; Colyer, 1982) Er y byddai’n anodd meddwl am hyn yn digwydd heddiw, fe ddaeth hyn yn gynsail a ddilynwyd wedyn, gyda T. J. Jenkin yn cael ei benodi i reoli Bridio Gweiriau, y Capten R. D. Williams i reoli Bridio Meillion ac E. T. Jones yn bennaeth ar Fridio Ceirch, a hynny heb i’r un ohonynt wneud cais ffurfiol.Wynebai’r arloeswyr hyn rai heriau anferthol. Gyda rhywogaethau o wair yn croesbeillio â’i gilydd, roedd rhaid datblygu dulliau priodol o fridio amrywiadau pur, a’u cadw, gan ddechrau o ddim byd. Cafodd y dulliau a ddatblygwyd eu copïo ledled y byd. Roedd gwybodaeth Stapledon ei hun am laswelltiroedd Prydain yn amhrisiadwy ar gyfer hel genoteipiau o’r safon uchaf o borfeydd cynhyrchiol. Rhyddhawyd cyfres o amrywiadau S, gan gynnwys rhygwellt lluosflwydd S23 ac S24, a rhygwellt Eidalaidd S22 ar ddechrau’r 1930au. Roedd yr amrywiadau hyn yn fwy deiliog a gwydn na’r mathau

Wynebai’r arloeswyr hyn rai heriau anferthol. Gyda rhywogaethau o wair yn croesbeillio â’i gilydd, roedd rhaid datblygu dulliau priodol o fridio amrywiadau pur, a’u cadw, gan ddechrau o ddim byd. Cafodd y dulliau a ddatblygwyd eu copïo ledled y byd. Roedd gwybodaeth Stapledon ei hun am laswelltiroedd Prydain yn amhrisiadwy ar gyfer hel genoteipiau o’r safon uchaf o borfeydd cynhyrchiol. Rhyddhawyd cyfres o amrywiadau S, gan gynnwys rhygwellt lluosflwydd S23 ac S24, a rhygwellt Eidalaidd S22 ar ddechrau’r 1930au. Roedd yr amrywiadau hyn yn fwy deiliog a gwydn na’r mathau a oedd ar gael yn fasnachol. Serch hynny, dim ond rhan o’r hanes oedd hynny, gan fod llwyddiant yr amrywiadau hyn yn dibynnu ar sicrhau hadau o ansawdd da a oedd yn mynd i ‘wneud yr hyn mae’n ei ddweud ar y bag’. Ac yntau’n arfer bod yn Ymgynghorydd Botaneg Amaethyddol yn Adran Amaethyddol Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, roedd Stapledon ei hun wedi dadansoddi 900 o samplau o hadau i wirio eu safon o ran faint o’r hadau a fyddai’n egino a faint o hadau chwyn oedd ynddynt; fe wyddai’n iawn felly am y problemau a godai pe bai hadau o ansawdd gwael yn cael eu hau. Er mwyn hau gwndwn yn llwyddiannus roedd rhaid i’r ffermwyr gael y wybodaeth iawn am sut i sefydlu eu glastiroedd, a’u rheoli, yn unol â’r treialon agronomegol. Drwy gysylltu agronomeg â disgyblaethau bridio planhigion a chynhyrchu hadau, daeth y Fridfa yn arloeswr mewn gwneud gwaith ymchwil amlddisgyblaethol o’r cychwyn cyntaf.

Roedd y gwaith bridio ceirch a meillion yr un mor llwyddiannus. Er enghraifft, E. T. Jones oedd yn gyfrifol am yr enghraifft gyntaf o fridio ceirch gaeaf â gwelltyn anystwyth. Yn yr un modd, cynhyrchodd y Capten R. D. Williams ystod o feillion cochion a gwynion: S100 yw’r enwocaf. Gwaetha’r modd, bu farw y Capten Williams yn 1943, ac yntau heb ymddeol, yn 54 oed. Ymhlith yr agronomegwyr cynnar llwyddiannus roedd: William Davies a ddaeth yn ôl i Fridfa Blanhigion Cymru ar ôl gweithio ar brosiectau yn Seland Newydd, Awstralia ac Ynysoedd y Falkland, yn Bennaeth Agronomeg Glastiroedd rhwng 1933 a 1940, gan fynd ymlaen wedyn i olynu Stapledon yn 1945 fel cyfarwyddwr yr Orsaf Gwella Glastiroedd ger Stratford-upon-Avon (Williams,1968); Martin Jones, a adawodd Fridfa Blanhigion Cymru i ymuno â chwmni I.C.I. yn 1928 ac aeth ymlaen wedyn i fod yn Athro Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Newcastle yn 1947 ; ac Iorwerth Jones, brawd iau Martin Jones, a fu’n gweithio yn y Fridfa o 1928 i 1971 (Evans, 1987). Yn y pedair blynedd rhwng 1929-1933 yn unig, heuwyd cnydau arbrofol ar 848 erw ar 231 o wahanol ffermydd yng Nghymru (Stapledon, 1935), gwaith anferth o ran ‘trosglwyddo technoleg’ ar ben yr ymdrech wyddonol.

 

 

 

Bridfa Blanhigion Cymru ym Mhlas Gogerddan

Yn 1955, symudodd y Fridfa i Blas Gogerddan. O dan yr Athro E.T Jones (Cyfarwyddwr, 1950-1958) a’r Athro P. T. Thomas (Cyfarwyddwr, 1958-1974), bu’r Fridfa yn ehangu i gynnwys disgyblaethau megis ffisioleg planhigion a seitogeneteg yn ei chylch gwaith. Ymhlith ei chyfraniadau uniongyrchol i fridio gweiriau roedd sefydlu Uned Adnoddau Geneteg a fu’n hel casgliadau helaeth o wahanol rywogaethau ac ecoteipiau, a’u hasesu. Roedd y fridfa yn ymddiddori mewn croesi rhygwellt lluosflwydd â rhygwellt Eidalaidd ers amser, ac yn y 1970au gwelwyd y gwaith hwn yn dwyn ffrwyth pan ryddhaodd y Dr Les Breese a’i gydweithwyr groesfridiau tetraploid ffrwythlon, a arweiniodd at anrhydedd i’r Fridfa wrth iddi gael Gwobr y Frenhines am Gyflawniad Technolegol yn 1976. Cyflwynwyd y Wobr yng Ngogerddan gan Arglwydd Raglaw Dyfed, y Cyrnol Hanning Phillips, mab yr Arglwydd Milford.

 

 

 

 

Newid Enw a Chylch Gwaith

Aed ati i ganolbwyntio o’r newydd ar fridio cnydau pori a grawn yn y 1970au ar ôl cwymp yn y nifer o amrywiadau a oedd yn cael eu cynhyrchu. Digwyddodd y cwymp hwnnw yn rhannol oherwydd bod mwy o gystadleuaeth gan fridwyr masnachol tramor, ond hefyd oherwydd y cred ar y pryd na ddylai amrywiadau newydd gael eu creu drwy waith bridio planhigion gweithredol a phenodol, ond yn hytrach dylent ddod fel sgil-gynnych gwaith yn y gwyddorau sy’n gysylltiedig â bridio planhigion. Roedd y strategaeth ddiwygiedig yn llwyddiant o ran cynhyrchu amrywiadau newydd gan roi’r fridfa - y newidiwyd ei henw erbyn hyn i Sefydliad Cynhyrchu Tir Glas ac Anifeiliaid (IGAP) - mewn sefyllfa gref iawn pan benderfynwyd mai’r sector preifat ddylai ysgwyddo costau ‘marchnad agos’ y gwaith bridio o 1989 ymlaen. Ers hynny, mae’r berthynas â Germinal Holdings a Semundo Cyf (Senova Cyf erbyn hyn) yn gynhyrchiol a hirhoedlog. Newidiwyd yr enw eto yn 1990, yn ogystal â’r cylch gwaith, pan grëwyd Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd (IGER) i adlewyrchu’r pwyslais mwy ar yr amgylchedd yn hytrach nag ar gynhyrchu. Mae’r newidiadau o Fridfa Blanhigion Cymru i IGAP ac wedyn i IGER yn cydnabod bod rhaid i sefydliad ymchwil modern fwrw golwg sy’n ehangach na bridio planhigion yn unig. O gofio maint y gwaith ymchwil roedd hi’n amhosib dadlau bod yr holl waith hwnnw yn anelu at fridio amrywiadau newydd.

 

 

 

 

Dathlu Pen-blwydd yn 75 oed

Yn 1994, buom yn dathlu Pen-blwydd Bridfa Blanhigion Cymru yn 75 oed o dan arweinyddiaeth alluog yr Athro Chris Pollock. Ymhlith y dathliadau roedd dawns haf a chynhadledd ar ‘Ddyfodol Amaethyddiaeth: Cynhyrchu neu Dirwedd’. Wrth agor y gynhadledd, awgrymodd Prifathro Prifysgol Cymru Aberystwyth, K. O. Morgan, mai Bridfa Blanhigion Cymru oedd yr amlycaf o’r holl sefydliadau a’r gweithgareddau a oedd yn gysylltiedig â’r Brifysgol. Roedd yn gobeithio, ac yn credu, fod y cyfeillgarwch mynwesol rhwng IGER a’r Brifysgol yn stori a oedd ‘ymhell iawn o fod ar ben’! (Morgan, 1994.) Crisialwyd ysbryd Bridfa Blanhigion Cymru gan y Dr Ken Edwards, a oedd yn Gadeirydd ar Gorff Llywodraethol IGER, yn yr un gynhadledd: “Roedd y profiad o weithio ym Mridfa Blanhigion Cymru, fel yr oedd hi, yn un a fu’n gryn ddylanwad arnaf i ac yn un a fwynheais yn fawr. Roedd awyrgylch o ymchwil ar y cyd yn y Fridfa yn y dyddiau hynny, ac rwyf i wrth fy modd bod hynny’n dal i ffynnu yn fy mhrofiad i o IGER. Roedd yr awyrgylch cymdeithasol da yn ei amlygu ei hun mewn llawer ffordd, gan gynnwys y timoedd hoci a chriced y bues i’n chwarae ynddyn nhw” ac wedyn “roedd y llif dwyffordd o wybodaeth rhwng ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol yn agwedd arwyddocaol iawn o’r gwaith yn y Fridfa pan oeddwn i yma. Rwyf i wrth fy modd o weld ei fod yn dal yn nodweddiadol iawn o IGER.” (Edwards, 1994.)

 

 

 

 

Cyfleoedd Newydd yn yr 21 Ganrif

Mae IGER yn dal i ddefnyddio’r dull cydgysylltiedig hwnnw o gyflawni ei ymchwil hyd heddiw. Yn 2003, cyflwynwyd Tlws Amrywiad NIAB, am yr amrywiad a oedd yn cyfuno gwell ansawdd â pherfformiad agronomegol ardderchog, i IGER a British Seed Houses (rhan o Germinal Holdings Cyf) am y math o rygwellt lluosflwydd o’r enw AberDart, a rhoddwyd Tlws Grawn NIAB am rawn gorau’r flwyddyn i IGER a Semundo Cyf am y ceirch gaeaf o’r enw Gerald. Cyflwynwyd y wobr hon am amrywiad o geirch 47 o flynyddoedd ar ôl i E. T. Jones gael ei gyflwyno â’r un tlws am y ceirch gaeaf Powys yn 1956. Yn 2007 enillodd IGER Wobr Dechnoleg RASE am ddatblygu amrywiadau arloesol o gnydau, gan gynnwys gweiriau porthiant uchel eu siwgr a hawdd eu treulio, meillion gwynion mwy gwydn a chyson, ceirch o ansawdd da, gweiriau tywarch gwell, a milet gwyn sy’n gwrthsefyll heintiau. O safbwynt ehangach, mae’r wobr yn adlewyrchu meddylfryd y gwaith bridio planhigion yn y Fridfa dros y blynyddoedd, sef bod yr ymchwil yn canolbwyntio ar welliannau radical ac arloesol, yn creu sefyllfaoedd newydd yn hytrach na dim ond newidiadau fesul dipyn sy’n anelu at ddim byd mwy nag ychwanegu amrywiadau at y rhestrau cymeradwy. Er enghraifft, drwy greu gweiriau uchel eu siwgr, mae’r porthiant a’r silwair yn haws eu treulio, ond ar ben hynny, mae’n golygu bod anifeiliaid cnoi-cil yn defnyddio’r protein sydd yn y porthiant ffres yn fwy effeithlon, ac mae hynny’n lleihau’r nitrogen a ollyngir yn nŵr yr anifeiliaid. Mae hynny yn ei dro yn gallu lleihau’r crynodiadau o nitrogen yn y cyrsiau dŵr. Drwy ddefnyddio bioleg folecwlar i wneud gwaith bridio hynod fanwl, gallwn ddisgwyl mwy o gamau ymlaen o ran cynyddu’r siwgr mewn rhygwellt, a thargedau eraill sy’n ymwneud â rhygwellt, er mwyn gwireddu amcanion polisi.

Yn y blynyddoedd diweddar, mae’r Sefydliad wedi arallgyfeirio i gnydau ynni. Mae’n siŵr y byddai Stapledon a’i gydweithwyr wedi cymeradwyo’r ymdrechion cynyddol a wneir ar hyn o bryd i wella genynnau’r gwair ynni enfawr Miscanthus. Buasai ffisiolegwyr y 1960au a’r 70au hefyd wedi cael Miscanthus yn gnwd haws i weithio arno na’r rhygwellt lluosflwydd oherwydd ei faint. Mae rhygwelltiau uchel eu siwgr hefyd yn codi posibiliadau cyffrous o ran bio-ynni fel cnwd sy’n gyfarwydd i ffermwyr i’w defnyddio yn ddeunydd amrwd er mwyn cynhyrchu biodanwyddau. Edrychir ar hyn ymhellach mewn pennod arall. 

Yn 2008, cyfunodd IGER a Sefydliadau’r Gwyddorau Biolegol a’r Gwyddorau Gwledig i greu Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig o dan arweiniad yr Athro Wayne Powell, fel rhan o Brifysgol Aberystwyth unwaith eto. Mae’r gwaith i wella genynnau, er mwyn gwireddu amcanion polisi a gwyddonol y BBSRC, Defra, Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r UE, yn rhan fawr o’n rhaglenni ymchwil, yn enwedig gwaith ar liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd ac ar addasu i’r newidiadau hynny. Mae’r rhaglenni wedi cael eu disgrifio mewn erthyglau eraill yn IBERS Gwybodaeth ac Arloesedd. Wrth gwrs, mae cyfeiriad cenhadaeth y Sefydliad newydd yn wahanol iawn i’r cylch gorchwyl gwreiddiol a rhai’r sefydliadau a ddaeth yn ei sgil, ond drwy ddod yn rhan o gorff mwy, mae IBERS yn cynnig cyfleoedd sylweddol newydd i fanteisio ar yr ymchwil rhyngddisgyblaethol a chydlynol arloesol a fu’n rhan mor bwysig o’n gwaith yn y 90 mlynedd diwethaf.