Cyflogadwyedd

Mae IBERS wedi ymrwymo’n llawn i ddatblygu rhagolygon gwaith hirdymor ein myfyrwyr. Ein bwriad yw darparu cyfleoedd i’r myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau i’r gweithle i’w helpu i sicrhau gyrfa briodol ar ôl graddio.
Rydym yn gwneud hyn mewn sawl ffordd gan gynnwys:
- Darparu cyfleoedd am leoliadau rhyng-gwrs ar rai rhaglenni.
- Cyfleoedd am gynlluniau allanol megis y Flwyddyn mewn Cyflogaeth a chynllun cyfnewid Ewropeaidd Erasmus.
- Dysgu modiwlau sy’n canolbwyntio’n benodol ar sgiliau i’r gweithle neu brofiad gwaith.
- Annog y defnydd o Gynllunio Datblygiad Personol.
- Trefnu digwyddiadau â chyflogwyr trwy gydol y flwyddyn.
Ac wrth gwrs, dysgu’r sgiliau angenrheidiol i fyfyrwyr i sicrhau eu bod yn llwyddo yn eu maes astudio.Yn gyfnewid am hyn, rydym yn disgwyl i’n myfyrwyr berfformio i’w gallu academaidd llawn a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd hyn.
Am wybod beth mae ein graddedigion yn ei wneud nesaf?
Darllenwch broffiliau ein cyn-fyfyrwyr i ddysgu mwy am fod yn fyfyriwr graddedig o IBERS a’r cyfleoedd gyrfaol y gall gradd yn IBERS eu rhoi i chi.