Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Croeso i IBERS. Rydym yn awyddus i greu a chynnal cysylltiadau ag ysgolion a cholegau ledled Cymru a’r DU.
Gallwn gynnig ymweliadau â’ch sefydliad gan aelodau o’n staff academaidd, a fydd yn gallu cyflwyno sgyrsiau am y brifysgol, am IBERS, ac am y cynlluniau gradd sydd gennym i’w cynnig i israddedigion ac uwchraddedigion. Bydd modd i ni hefyd siarad am yr ymchwil y mae IBERS yn ei wneud a sut brofiad yw astudio mewn addysg uwch.
Os hoffech, gallech hefyd ymweld â’r brifysgol i weld ein hadnoddau a siarad â’r staff, a bydd modd iddynt hwy roi sgyrsiau byr a sesiynau ymarferol bach.
Os hoffech gysylltu ag IBERS ynglŷn â’r hyn y gallwn ei gynnig i chi a’ch disgyblion cysylltwch â Dr Russ Morphew, e-bost: rom@aber.ac.uk rhif ffôn: (01970) 62 2314.
Prosiect Rhwydwaith Cynaliadwyedd Cymru (SusNet)
IBERS yw’r brif athrofa yn y Brifysgol sy’n cyflwyno’r prosiect ac mae’n cynnig y canlynol i fyfyrwyr Safon Uwch. Unedau academaidd byr a arweinir gan ymchwil i gyfoethogi a chyffroi’r cwricwlwm Safon Uwch ym meysydd:
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn helpu i ddatblygu marchogwyr y dyfodol diolch i bartneriaeth newydd gyda’r Clwb Merlod.
Y nod yw helpu i ddatblygu marchogwyr dawnus ledled y DU, gyda Phrifysgol Aberystwyth yn cefnogi rhaglen Llwybr Talent Pathway 2017 y Clwb Merlod sy’n darparu hyfforddiant o’r radd flaenaf i aelodau.
I gael gwybod mwy, cysylltwch â Hannah Appleton, Canolfan Geffylau Lluest, Prifysgol Aberystwyth ar y rhif ffôn: 01970 621676 neu e-bostiwch: htt@aber.ac.uk.