Menter Partneriaeth Ysgol-Prifysgol: Prosiect Rhwydwaith Cynaliadwyedd Cymru (SusNet)
Mae’r prosiect SusNet yn ceisio cyflwyno ymchwil i ddisgyblion 16 oed a hŷn mewn ysgolion a cholegau yng Ngheredigion a’r ardal leol gyfagos.
Caiff y prosiect ei gyllido gan Gynghorau Ymchwil y DU.
IBERS yw’r brif athrofa yn y Brifysgol sy’n cyflwyno’r prosiect ac mae’n cynnig y canlynol i fyfyrwyr Safon Uwch:
- Unedau academaidd byr a arweinir gan ymchwil i gyfoethogi a chyffroi’r cwricwlwm Safon Uwch ym meysydd:
- Bioleg
- Cemeg
- Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
- Dull cymysg o ddysgu sy’n cynnwys cyswllt wyneb i wyneb (megis sesiynau ymarferol) a gweithgareddau dysgu ar-lein
- Amgylchedd dysgu hwyliog, anffurfiol a rhyngweithiol
- Cyllid i dalu am gostau teithio’r disgyblion a lluniaeth
Caiff yr unedau eu dysgu ar amser sy’n gyfleus i’r disgyblion a’r athrawon (er enghraifft, eleni mae’r ysgolion wedi gofyn i rai unedau gael eu dysgu y tu allan i oriau ysgol).Mae cyllid ar gael hefyd i dalu am gostau athrawon cyflenwi a datblygu cyrsiau datblygu proffesiynol parhaus.
Os ydych chi’n ysgol, coleg, disgybl neu riant â diddordeb ac eisiau rhagor o wybodaeth am y prosiect SusNet cysylltwch â Dr Paula Hughes pah15@aber.ac.uk.
Mae’r ffotograffau’n dangos disgyblion Safon Uwch o Ysgol Aberaeron a Ysgol Bro Pedr, ynghyd ag ymchwilwyr o’r Brifysgol, yn cymryd rhan ym modiwlau Bioleg a Chemeg SusNet.