Busnes IACH

Cynorthwyo i olrhain cig yn y gadwyn gyflenwi gyda phrofion genetig

Cynorthwyo i olrhain cig yn y gadwyn gyflenwi gyda phrofion genetig

Mae enghreifftiau proffil uchel o halogi cynhyrchion eidion wedi’u prosesu â deunydd o geffylau a moch wedi amlygu pwysigrwydd labelu cywir a dilysu deunyddiau yn y gadwyn gyflenwi bwyd. Caiff hyder defnyddwyr yn y diwydiant cig yn gyffredinol ei ddylanwadu’n fawr gan syniadau ynghylch olrhain ‘o’r fferm i’r fforc’ ac mae cynhyrchion sy’n cael eu labelu fel hyn yn denu premiwm sylweddol. O ganlyniad, mae angen sicrhau gweithdrefnau profi cyflym a dibynadwy sy’n gallu profi tarddiad cynnyrch eidion, o ran brid y gwartheg y mae’n deillio ohono, ac o bosibl hefyd y ffarm ble cafodd ei fagu.

Mae dros 98% o’r gwartheg a leddir fel eidion preim yn y DG yn dod o 12 brid o wartheg. Rydym ni wedi sefydlu cronfa ddata o’r amryffurfeddau niwcleotid sengl (SNP) sy’n digwydd yn y bridiau hyn. Mae SNP yn amrywiant mewn niwcleotid sengl ar bwynt penodol yn y genom. Mae amledd a lleoliadau SNPs yn amrywio rhwng bridiau; gallwn felly gymryd sampl o gig o archfarchnad ac ymholi’r gronfa ddata i bennu tebygolrwydd bod sampl yn dod o un o’r bridiau a nodweddir. Ymhellach, gan ei bod yn bosibl gwahaniaethu rhwng gyrroedd o wahanol ffermydd gyda’r un dechneg, gallwn ei defnyddio i olrhain cynnyrch yn ôl i’r fferm o ble y tarddodd. Defnydd posibl arall o’r weithdrefn brofi yw darganfod cig o rywogaethau eraill (e.e. halogi gyda chig ceffyl) neu’r gyfran o gigoedd o rywogaethau amrywiol mewn cynhyrchion cig cymysg.

Rydym yn:

• Dangos defnyddioldeb profi genetig wrth olrhain a dilysu cynhyrchion cig o’r fferm i’r fforc
• Gweithio gyda chymdeithasau bridio (gwartheg a moch) i ganfod a yw amrywiant SNP yn ddigon i ehangu’r dull i rywogaethau eraill a mathau eraill o fridiau ynddynt.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r: Dr Matt Hegarty ayh@aber.ac.uk

Porthiant a dyfir gartref fel bwyd protein cynaliadwy

Porthiant a dyfir gartref fel bwyd protein cynaliadwy

Mae’r DG yn mewnforio sypiau sylweddol o’r protein a gaiff ei fwydo i anifeiliaid; mae blawd soya a fewnforiwyd yn cyfrif am 33% o’r protein mewn porthiant i dda byw yn y DG, gyda’r mwyafrif yn soya trawsenynnol o Dde America. Mae pryderon y cyhoedd am olrhain ac ansawdd y cynnyrch, ynghyd â galw cynyddol byd-eang am borthiant anifeiliaid wedi golygu ymgyrch i gynyddu cynhyrchu proteinau llysieuol ar ffermydd yn y DG. Mae porthiant protein uchel, a gynhyrchir gartref, yn cynnig cyfle cynaliadwy fel ffynonellau amgen, y gellir eu holrhain, o brotein ar gyfer anifeiliaid cnoi cil. Dangosodd arolwg o ffermwyr anifeiliaid cnoi cil yn 2012 er bod 69% yn tyfu’r codlys meillion gwyn, roedd defnydd o broteinau porthiant eraill fel lucerne a sicori lluosflwydd yn is o lawer. Y rhesymau a nodwyd amlaf am beidio â thyfu’r cnydau hyn oedd diffyg gwybodaeth am ddulliau sefydlu ac ansicrwydd am strategaethau rheoli. Nodwyd dealltwriaeth well o’r ffordd orau i gadw porthiannau newydd fel silwair a sut i optimeiddio trefniadau porthi hefyd fel modd i helpu ffermwyr i sicrhau’r budd gorau. Mae’r rhwystrau hyn wedi’u targedu mewn prosiect cydweithredol sy’n cynnwys IBERS, y cynhyrchwyr hadau Germinal, a chynhyrchwyr a phroseswyr yng nghadwyni cyflenwi Waitrose ar gyfer cig eidion, oen a llaeth drwy gyfuniad o arbrofion a ddyblygwyd mewn lleiniau a chaeau ac astudiaethau achos o ddysgu drwy brofiad ar ffermydd cyfranogol. Mae ffermwyr sydd wedi dechrau tyfu eu protein porthiant eu hunain yn hapus gyda’r canlyniadau.
“Mae gwneud y defnydd gorau o borthiant wastad wedi bod wrth galon ein huned eidion masnachol. Mae cylchdroi pori gwartheg a gwneud silwair o ansawdd uchel yn rhoi sylfaen i ni ar gyfer busnes cynaliadwy ac yn ein helpu i gyfyngu ar effeithiau costau dwysfwydydd cyfnewidiol”. Ian Farrant, Caerwrangon.

Rydym yn:

• Ymgysylltu ar draws cadwyni cyflenwi anifeiliaid cnoi cil i ddeall anghenion y diwydiant a defnyddwyr yn well.
• Manteisio ar ein hymchwil sylfaenol mewn bridio glaswellt a meillion ac agronomeg i leihau dibyniaeth ar brotein wedi’i fewnforio ar gyfer porthiant anifeiliaid.
• Gweithio gyda ffermwyr i ddeall ac ymdrin â chyfyngiadau ymarferol i ddefnydd cynyddol o borthiannau protein mewn systemau fferm
• Hwyluso newid ymddygiad sy’n helpu i gynyddu effeithlonrwydd economaidd ac amgylcheddol y cynhyrchu.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r: Dr Christina Marley cvm@aber.ac.uk

Cyflwyno cyfleoedd hyfforddiant ac addysg arloesol i ffermwyr

Cyflwyno cyfleoedd hyfforddiant ac addysg arloesol i ffermwyr

Yn ogystal â’i amrediad o gyrsiau israddedig ac uwchraddedig, mae IBERS wedi datblygu amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi sydd wedi’u hanelu at ffermwyr a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant amaethyddol. Mae rhaglen Dysgu o Bell IBERS ar y cyd gyda Phrifysgol Bangor yn cyflenwi modiwlau ar bynciau sy’n amrywio o reoli pridd a gwasanaethau ecosystem i wyddoniaeth silwair a maeth anifeiliaid cnoi cil. Mae’r deunyddiau’n cynnwys deunydd darllen, fideos a phodlediadau wedi’u teilwra, ynghyd â chyfleoedd i gyfranogwyr ryngweithio drwy fforymau ar-lein. Gall cyfranogwyr astudio modiwlau unigol neu ddewis cronni credydau i sicrhau cymwysterau hyd at lefel doethuriaeth broffesiynol. Rydym ni hefyd yn cydweithio gyda Lantra, corff a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n cynnig hyfforddiant a chymwysterau i’r sectorau tir ac amgylcheddol. Mae’r deunydd e-ddysgu rydym ni wedi’i ddatblygu i Lantra ar ffurf fideos rhyngweithiol byr â’r nod o gefnogi ac atgyfnerthu’r cyngor a hyfforddiant ymarferol a geir drwy gyfnewidfa gwybodaeth a rhaglenni hyfforddi.

Mae IBERS hefyd yn gweithredu fel Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth i Cyswllt Ffermio – rhaglen Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi datblygiad sector tir mwy proffesiynol, proffidiol a gwydn. Mae staff yn IBERS yn darparu adolygiadau o’r meddwl diweddaraf ac fe’u cyhoeddir ar wefan Cyswllt Ffermio a’u lledaenu gan ymgynghorwyr Cyswllt Ffermio.

Rydym yn:

• Cynyddu effaith ein hymchwil ein hunain ac ymchwil pobl eraill drwy ddatblygu addysgu dan arweiniad ymchwil sy’n berthnasol i’r diwydiant ffermio.
• Cynyddu’r nifer sy’n ymgymryd ag ymarfer ffermio da drwy ddarparu llwybrau niferus ar gyfer cyfnewid gwybodaeth.
• Galluogi amaethyddiaeth yn y DG i ymdrin â heriau newid hinsawdd a diogelwch bwyd.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r: Ms Martine Spittle rjs@aber.ac.uk