Amgylchedd IACH

Datblygu prosesau diwydiannol ar gyfer y bio-economi..

Datblygu prosesau diwydiannol ar gyfer y bio-economi sy’n datblygu

Er bod tanwydd ffosil wedi darparu ynni a chemegau cost isel dros y ganrif ddiwethaf a mwy, mae’n adnodd cyfyngedig ac mae ei ddefnydd yn cyfrannu at newid hinsawdd.

Felly mae angen i ni ddychwelyd at ddefnyddio planhigion fel prif ffynhonnell tanwydd, cemegau, a deunyddiau, ac rydym ni’n defnyddio gwyddoniaeth a thechnoleg fodern i ddatblygu dulliau newydd fydd yn hybu’r bioeconomi. Un diddordeb penodol i ymchwilwyr yw creu bioburfeydd; systemau technoleg sy’n cymryd deunydd biolegol ac yn ei drawsnewid yn gynhyrchion niferus, yn yr un ffordd ag y mae purfeydd olew yn darparu tanwydd, olewau a’r hydrocarbonau a ddefnyddir i gynhyrchu plastigau. IBERS yw’r partner arweiniol yn BEACOn, Canolfan Rhagoriaeth Bioburo, ac mae staff BEACOn yn ymgymryd â phrosiectau gyda chwmnïau sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o’r bio-economi. Gellir cynhyrchu llawer o’r elfennau sydd eu hangen i adeiladu deunyddiau cymhleth o siwgrau syml. Mae cnydau amaethyddol fel corn a chansen siwgr yn ffynonellau posibl, fodd bynnag mae angen i ni fod yn ymwybodol o’r angen i osgoi cystadlu gyda’r gadwyn gyflenwi bwyd, ac felly mae angen i ni ddatblygu ffyrdd o gynhyrchu’r siwgrau hyn o gnydau nad ydynt yn gnydau bwyd. Gallai’r glaswelltydd siwgr uchel a ddatblygir yn IBERS fod yn borthiant delfrydol posibl. Mae prosesu sylfaenol y glaswelltydd ildio cacen bwyso y gellir ei silweirio i’w storio a’i bwydo i anifeiliaid, ac mae hefyd yn cynhyrchu sudd â chyfran uchel o siwgr y gellir ei eplesu’n gemegau llwyfan, gan gynnwys asid lactig. Rydym ni’n gweithio gydag amrywiol gwmnïau ar draws y gadwyn cynhyrchu a chyflenwi plastigau i ddatblygu plastigau’n seiliedig ar laswellt ac rydym ni hefyd wedi dangos bod modd cynhyrchu blychau wyau o ffibr glaswellt. Mae hyn yn codi’r posibilrwydd o gynhyrchu deunydd pecynnu bwyd yn eang o laswellt, gan gyfrannu at leihau’r defnydd o danwydd ffosil.

Rydym yn

• Cyfuno ein harbenigedd mewn glaswelltydd siwgr uchel gyda chyfleusterau eplesu newydd i gynhyrchu cemegau llwyfan i’r diwydiant plastigau.
Datblygu prosesau bioburo ar gyfer cynhyrchion yn seiliedig ar ffibr
Defnyddio ein gwybodaeth o gemeg wal celloedd mewn cnydau lignoselwlosig fel Miscanthusi ddatblygu prosesau rhagdriniaeth ac eplesu a fydd yn galluogi i’r cnydau hyn gael eu trawsnewid yn amrywiaeth o gynhyrchion defnyddiol.
Datblygu prosesau trin a thrawsnewid ar gyfer Gwastraff Soled Trefol ac amrywiaeth o wastraff biolegol i greu gwerth ychwanegol.
Mae gwaith yn y maes hwn wedi’i gefnogi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r: Athro Iain Donnison isd@aber.ac.uk

Effaith newid yn yr hinsawdd ar amaethyddiaeth anifeiliaid cnoi cil yn y DU

Effaith newid yn yr hinsawdd ar amaethyddiaeth anifeiliaid cnoi cil yn y DU

Mae gan amaethyddiaeth yn y DG ran bwysig i’w chwarae i liniaru newid hinsawdd drwy fabwysiadu arferion ffermio carbon isel, ond mae hefyd angen i ni ddeall sut i addasu i’r newidiadau sy’n digwydd a mynd i’r afael â’r bygythion a’r cyfleoedd fydd yn codi.

Mae ymchwilwyr yn ein grŵp Systemau Anifeiliaid wedi canolbwyntio’n benodol ar sut fydd newid hinsawdd yn effeithio ar amaethyddiaeth anifeiliaid cnoi cil ac yn cyfrannu drwy roi gwybodaeth i wneuthurwyr polisi drwy’r bartneriaeth ‘Byw gyda newid Amgylcheddol’. Bydd newid hinsawdd yn arwain at dymheredd uwch a thymhorau tyfu hirach, yn enwedig yng ngogledd Lloegr. Mae’n bosibl y gallai’r manteision hyn leihau gan y byddai llai o ddŵr ar gael, a gostyngiad yn y nifer o ardaloedd sy’n addas i dyfu porthiant a chnydau porthiant traddodiadol yn ne Lloegr. Yn y cyfamser, bydd amledd digwyddiadau glaw eithafol yn arwain at gynnydd mewn llifogydd. Bydd yr erydiad pridd a’r trwytholchiad nitradau sy’n cyd-fynd â hyn yn peri problemau uniongyrchol i amaethyddiaeth anifeiliaid cnoi cil, a hefyd yn cynyddu’r angen i ystyried swyddogaethau ehangach tir amaethyddol wrth gyflenwi gwasanaethau ecosystem, fel dal dŵr o lifogydd yn ôl dros dro i osgoi effeithio ar drefi a dinasoedd. Mae’n bosibl y bydd newid hinsawdd hefyd yn effeithio’n uniongyrchol ar anifeiliaid cnoi cil; gallai straen gwres fod yn fwy tebygol ac mae gwyddonwyr IBERS hefyd wedi adrodd am gynnydd mewn llyngyr yr iau a’r rwmen, a allai fod yn ganlyniad i amodau cynhesach a gwlypach sy’n ffafrio tyfiant y malwod sy’n cario’r parasitiaid hyn. Mae ein cyswllt ni gyda’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau’n helpu i drosi canlyniadau ymchwil yn gyngor polisi a chynlluniau cymhelliant sy’n diwallu anghenion ffermwyr a’r amgylchedd, a hefyd yn llywio amcanion ymchwil y dyfodol.

Rydym yn:

Gweithio i ddeall effaith newid hinsawdd ar amaethyddiaeth yn y DG a throsi gwybodaeth ymchwil yn gyngor polisi ac i ymarferwyr.
Datblygu rhaglenni ymchwil newydd sy’n targedu problemau sy’n ymddangos, fel y newidiadau mewn beichiau pla a chlefyd fydd yn deillio o newidiadau mewn patrymau tywydd.
Ymchwilio i borthiant anifeiliaid a’i effaith ar eplesu enterig er mwyn i ni allu lleihau cyfraniad anifeiliaid cnoi cil at allyriadau nwyon tŷ gwydr amaethyddol.


I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r: Dr John Moorby jxm@aber.ac.uk

Biomas Cadwraeth a’i botensial fel porthiant bioynni i Gymru

Biomas Cadwraeth a’i botensial fel porthiant bioynni i Gymru

Mae gwellt y gweunydd (Molinia caerulea) yn rhywogaeth glaswellt bryn ymledol sy’n cyfrif am 10% o orchudd tir ucheldiroedd y DG.

Mae cynydd o ran Moliniayn aml yn digwydd ar draul cynefinoedd rhosydd a gwernydd. Er ei fod yn gallu darparu tir pori rhesymol i dda byw yn yr haf, os na chaiff ei bori’n rheolaidd mae’r tyweirch yn cronni llawer o ddeunydd marw, ac mae anifeiliaid yn ei osgoi, yn enwedig defaid. Mae adfer rhostir a gwella gwerth cynefinoedd felly yn aml yn golygu torri a thynnu’r biomas, sydd yn ei dro yn creu problem rheoli gwastraff; deunydd dwysedd isel mewn lleoliadau anghysbell sydd ag amodau tir bregus. Gall problemau tebyg godi gyda rheoli rhedyn a brwyn. Yn nodweddiadol caiff porthiant bioynni ei brosesu ar gyfer treulio anaerobig (lle mae angen i’r deunydd fod â lefelau uchel o siwgrau hydawdd mewn dŵr) neu ar gyfer llosgi (lle mae angen i’r deunydd fod yn sych a dwys). Gan ddefnyddio technoleg a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Kassel (yr Almaen) rydym ni wedi llwyddo i ddangos bod modd cynhyrchu tanwydd solid a bionwy yn integredig (a elwir yn IFBB) gan ddefnyddio biomas cadwraeth a gynaeafwyd o ucheldiroedd Cymru. Mae hyn yn golygu trin y deunydd o flaen llaw gyda dŵr poeth ac yna ei roi drwy wasg sgriwio. Mae’r hylif a grëir yn addas ar gyfer treulio anaerobig, a gellir defnyddio’r deunydd soled fel tanwydd soled neu i gynhyrchu carbon actifedig neu bioolewau. Ynghyd â rhanddeiliaid Cymreig eraill rydym ni’n gweithio i ddatblygu’r broses ymhellach i fioburo ar raddfa fferm; nod hyn yw dangos agwedd economaidd ac ymarferol at reoli biomas cadwraeth sy’n creu cynhyrchion defnyddiol ac sy’n cyfrannu at leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Rydym yn:

• Gweithio gydag elusennau cadwraeth a rhanddeiliaid ucheldirol i hyrwyddo rheolaeth weithredol rhostiroedd diraddedig er mwyn gwella eu bioamrywiaeth
• Dangos bod modd cynhyrchu tanwydd soled a bionwy yn integredig o fiomas cadwraeth er mwyn ysgogi cynnydd yn y niferoedd sy’n defnyddio’r dechnoleg.
• Datblygu’r dechnoleg i greu cynhyrchion gwerth uwch gyda phartneriaid yn Ewrop.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Dr Mariecia Fraser mdf@aber.ac.uk