Pobl IACH

Lleihau heintiau Campylobacter mewn cywion i leihau’r perygl o wenwyn bwyd

Lleihau heintiau Campylobacter mewn cywion i leihau’r perygl o wenwyn bwyd

Mae ymchwil a gynhelir yn IBERS yn datblygu datrysiadau ar gyfer haint Campylobacter, yr achos mwyaf cyffredin o wenwyn bwyd bacteriol i bobl yn y DG.


Mae cyw iâr yn ffynhonnell bwysig o brotein anifeiliaid, ac mae marchnad dofednod y DG werth tua £2.5 biliwn gyda thua 900 o gywion brwylio’n cael eu prosesu yn y DG bob blwyddyn. Fodd bynnag, mae Campylobacter yn rhan o’r microfflora naturiol ym mherfedd cywion, ac er nad yw’n effeithio ar iechyd y cyw, mae’n arwain at gastro-enteritis difrifol mewn pobl, sy’n cynnwys poen difrifol yn yr abdomen, cramp, dolur rhydd, cyfogi a thwymyn. Mewn 1% o achosion, mae cleifion hefyd yn datblygu arthritis adweithiol, ac yn fwy prin fyth gallant ddatblygu Syndrom Guillain-Barre, sy’n barlys niwrolegol difrifol a all bara hyd at flwyddyn. Yn y DG mae Campylobacter yn gyfrifol am dros 100 o farwolaethau bob blwyddyn.

Caiff Campylobacter ei ysgarthu yng ngharthion ieir, ac felly yn aml mae croen a phlu’r aderyn yn cael eu halogi’n ddifrifol. Yn ogystal, yn aml caiff y caeca, (rhan o berfedd yr aderyn a’r man lle mae’r bacteria’n cronni fwyaf) eu difrofi yn ystod y broses ladd. Dangosodd astudiaeth gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop fod dros 80% o gig cyw amrwd a werthir i gwsmeriaid yn y DG wedi’i halogi gyda Campylobacter.
Firysau naturiol sy’n heintio bacteria yw bacterioffag. Mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caergrawnt rydym ni wedi nodweddu genomau nifer o ffagau sy’n heintio Campylobacter er mwyn pennu eu haddasrwydd fel asiantau rheoli, a chanfod triniaethau newydd fel lysins ffag sy’n targedu Campylobacter. Mewn prosiectau gyda phartneriaid diwydiannol gan gynnwys Natural Feeds and Fertilizers (a gaiff ei gyd-ariannu gan Ysgoloriaeth Sgiliau Economi Gwybodaeth) a 2 Sisters Food Group Ltd, Moy Park Ltd, Wynnstay Group Plc, InQpharm, Eminate a Bwydydd Castell Howell Cyf, (a gaiff ei gyd-ariannu gan y Bwrdd Strategaeth Technoleg) rydym ni wedi cynnal astudiaethau bwydo gan ddefnyddio cyfansoddion gwrthficrobal i leihau gallu Campylobacter i oroesi ym mherfedd y cyw a thechnegau dilyniannu genomig y genhedlaeth nesaf i gofnodi’r newidiadau sy’n digwydd yn microfflora’r perfedd mewn ymateb i’r porthiannau hyn.

Caiff Campylobacter ei ladd drwy goginio, ac mae hylendid yn y gegin yn talu ar ei ganfed i atal traws-halogi drwy gyfarpar paratoi bwyd a lleihau’r risgiau i ddefnyddwyr, ond yn y tymor hirach mae angen lleihau lefelau cyffredinol o Campylobacter ym mherfedd y cyw ei hun, ynghyd â gwelliannau yng ngweithdrefnau prosesu’r lladd-dai i osgoi’r salwch hwn sy’n annymunol ac a all fod yn beryglus.

Mae’r Labordy Genomeg Microbal yn:

• Nodweddu genomau’r firysau sy’n heintio Campylobacter
• Canfod lysins ffag newydd sy’n lysu Campylobacter
• Ymchwilio i botensial cyfansoddion gwrthficrobal mewn porthiant ieir
• Astudio’r fflora microbiolegol ym mherfedd y cywion i ddeall yn well y newidiadau mewn lefelau Campylobacteryn ystod datblygiad cywion ac ymyrraeth ddietegol

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Dr Justin Pachebat jip@aber.ac.uk

Cig a llaeth iachach – cysylltu microbioleg y rwmen a bridio planhigion

Cig a llaeth iachach – cysylltu microbioleg y rwmen a bridio planhigion

Mae diet yn chwarae rôl bwysig ar gychwyn sawl afiechyd cronig ac wrth iddynt ddatblygu mewn bodau dynol. Ymhlith yr enghreifftiau amlwg mae canser, afiechyd cardiofasgwlaidd, ymwrthedd rhag inswlin a gordewdra. Ceir cyswllt cryf rhwng afiechyd cardiofasgwlaidd a’r dognau o fraster dirlawn ac o ganlyniad, mae sefydliadau iechyd yn argymell gostwng y dognau braster yn gyffredinol, a lleihau’r asidau brasterog dirlawn sy’n cael eu bwyta gan gynyddu’r asidau brasterog amlannirlawn n-3 cadwyn hir sy’n cael eu bwyta.

Mae cig a llaeth anifeiliaid cnoi cil yn ffynhonnell braster arwyddocaol yn y diet dynol a, chyda’i gilydd, dyma’r brif ffynhonnell brasterau dirlawn yn y diet dynol. Fodd bynnag, caiff y bwydydd hyn eu mwynhau gan nifer fawr, felly mae’r mecanweithiau i addasu’r mathau o fraster sy’n bresennol yn y bwydydd hyn er mwyn gostwng y risg o afiechyd heb yr angen am newidiadau sylweddol mewn arferion bwyta defnyddwyr yn nod allweddol i’r diwydiant.

Er bod diet anifeiliaid cnoi cil yn gyfoethog mewn asidau brasterog amlannirlawn, mae cig a llaeth yn cynnwys lefelau uchel o fraster dirlawn. Mae’r gymuned ficrobaidd yn y rwmen yn troi asidau brasterog amlannirlawn dietegol yn gynhyrchion terfynol dirlawn. Felly, rydym yn gweithio i gynyddu’n dealltwriaeth o drawsnewidiad lipidau dietegol a gyflawnir gan y boblogaeth ficrobaidd yn y rwmen gyda’r nod o’i ailsaernïo’r rwmen i gynhyrchu asidau brasterog llai dirlawn ac, felly, mwy o fwydydd anifeiliaid cnoi cil cyfoethog mewn asid brasterog amlannirlawn.

Yn y cyfamser, mae bridwyr glaswellt yn Athrofa’r y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn gweithio i gynhyrchu mathau newydd o laswellt i godi statws asid brasterog hanfodol anifeiliaid cnoi cil ac addasu cyfansoddiad asid brasterog a chynnwys fitaminau braster hydawdd cig a llaeth anifeiliaid cnoi cil er mwyn gwella iechyd dynol. Trwy ddewis glaswelltau sy’n well am wrthsefyll lipolysis a biohydrogeniad yn y rwmen, gallem o bosibl gynyddu’r cyflenwad asidau brasterog hanfodol i’r anifail cynhaliol a gwella ansawdd llaeth a chig.

Rydym yn:

• Yn astudio poblogaethau microbaidd y rwmen a’r graddau y gellir eu trin a thrafod.
• Yn gweithio gyda gwyddonwyr cig i ddeall y berthynas rhwng y diet y mae’r anifail yn ei fwyta a phroffil braster y cynhyrchion terfynol.
• Yn creu cydweithrediadau rhyngddisgyblaethol rhwng gwyddonwyr y rwmen a bridwyr glaswellt i yrru’r gwaith o greu mathau newydd o laswellt a fydd yn gwella ansawdd cig a llaeth.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Dr Eva Ramos Morales evr1@aber.ac.uk

Cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd ynghylch bregusrwydd ymhlith oedolion hŷn a sut i’w atal

Cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd ynghylch bregusrwydd ymhlith oedolion hŷn a sut i’w atal

Mae darlithwyr ym maes Bioleg ac Iechyd yn Athrofa’r y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig wedi datblygu Cwrs Ar-lein Enfawr Agored (MOOC) sy’n ymwneud ag adnabod ac atal bregusrwydd ymhlith oedolion hŷn.

Mae Dr Marco Arkesteijn, sydd wedi cydysgrifennu adolygiad systematig o astudiaethau ynglŷn ag effeithiolrwydd ymyraethau ymarfer corff i wella cydbwysedd ymhlith oedolion hŷn, wedi cael cyllid Ewropeaidd i ddatblygu’r cwrs ar-lein am ddim.

“Mae nifer o bobl hŷn yn sylwi bod eu cydbwysedd yn dirywio ac maent yn poeni am syrthio. Gall syrthio gael effaith fawr ar unigolion, e.e. gallant dorri clun a gorfod mynd i’r ysbyty. Amcangyfrifwyd bod syrthiadau’n costio dros £2.3 biliwn y flwyddyn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae poeni am syrthio hefyd yn gallu cael effaith seicolegol andwyol, gan wneud i bobl fod yn llai parod i gadw’n heini. Gall arwain at effeithiau eraill hefyd o ran lles corfforol ac emosiynol pobl. Gall hyn, yn ei dro, arwain at fregusrwydd, sy’n cael ei gydnabod yn gynyddol fel agwedd bwysig i’w hystyried wrth reoli gofal iechyd claf”, esbonia Marco. “Fodd bynnag, dyw’r darlun ddim yn ddrwg i gyd. Ceir tystiolaeth glir mewn sawl astudiaeth bod ymarferion cydbwysedd syml yn gallu helpu oedolion i fod yn fwy diogel ar eu traed. Nid yw colli cydbwysedd yn anorfod wrth dyfu’n hŷn. Gellir atal bregusrwydd hefyd drwy ddiet iach a thrwy gadw’n heini. Nod y cwrs hwn yw adnabod bregusrwydd ymhlith pobl hŷn a rhoi cyngor ymarferol ynghylch sut i’w atal.”

Mae’r cwrs, sydd wedi’i anelu at bobl broffesiynol ym maes gofal iechyd a’r cyhoedd, yn para pum wythnos ac mae’n rhoi sylw i faterion megis y gwahaniaeth rhwng heneiddio arferol ac bregusrwydd, asesu bregusrwydd a sut y gellir ei atal drwy ddiet ac ymarfer corff.

Rydym yn:

• Gweithio â phobl broffesiynol ym maes iechyd i gyflymu’r broses o droi canfyddiadau ymchwil yn arferion clinigol.
• Cynyddu ein hystod o gyrsiau ar-lein a dysgu o bell er mwyn darparu cyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus mewn amryw sectorau.
• Mynd i’r afael â chamdybiaethau cyffredin bod syrthio a bregusrwydd yn rhan arferol o dyfu’n hŷn, a hynny drwy ddangos bod modd atal syrthiadau a bregusrwydd.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Dr Marco Arkesteijn maa36@aber.ac.uk

Golwg lliw ac atyniad ymhlith pryfaid tsetse: peirianneg lliwiau i greu’r dyfeisiau rheoli gorau posib

Golwg lliw ac atyniad ymhlith pryfaid tsetse: peirianneg lliwiau i greu’r dyfeisiau rheoli gorau posib

Mae pryfaid tsetse i’w cael yn Affrica Is-Sahara ac mae eu brathiadau’n trosglwyddo’r parasitiaid sy’n achosi clefyd cysgu ymhlith pobl a nagana ymhlith gwartheg.

Wedi i rywun gael ei gnoi gan bryfyn tsetse heintiedig, mae’n dechrau dioddef o wres uchel, pen tost a phoen yn y cymalau. Os nad yw’r cyflwr yn cael ei drin, mae’r sawl sydd wedi’i heintio’n dechrau dioddef o symptomau niwrolegol ac mae’r cyflwr yn angheuol. Mae cwrs yr haint yn amrywio, o wythnosau mewn rhai achosion i fisoedd yn yr achosion acíwt a gall bara sawl blwyddyn ar ei ffurf gronig.

Nid oes dim brechlynnau na chyffuriau proffylactig ar gael i atal clefyd cwsg, mae’n anodd cael diagnosis i’r clefyd ac mae’n anodd ei drin. Oherwydd hynny, dal y pryfaid tsetse a’u lladd yw’r unig ffordd o atal heintiau a gall hyn fod yn elfen bwysig o reoli clefydau. Un o’r dyfeisiau sydd wedi’u datblygu’n ddiweddar i reoli pryfaid tsetse yw panel sydd wedi’i wneud o ddefnydd glas. Mae’r panel yn denu’r pryfaid ac mae wedi’i drwytho â phryfleiddiaid sy’n eu lladd wrth iddynt lanio arno. Rydym yn ymchwilio yn Aberystwyth i’r mecanweithiau ffisiolegol sydd wrth wraidd yr hyn sy’n denu pryfaid tsetse, a hynny er mwyn cynhyrchu defnyddiau mwy deniadol a fydd yn gwneud dyfeisiau rheoli’n fwy effeithiol.

Yn hanesyddol, gwelwyd bod cotwm lliw ‘glas phthalogen’ yn abwyd gweledol hynod effeithiol ond nid oes modd defnyddio’r lliw hwn ar ddefnyddiau modern synthetig sy’n rhatach ac sy’n para’n hirach yn y maes. Fodd bynnag, mae wedi dod i’r amlwg nad yw dewis defnydd glas sy’n ymddangos, i bobl, yn union yr un fath â glas phthalogen yn effeithiol iawn wrth ddenu pryfaid tsetse. Y rheswm dros hyn yw bod canfyddiad pryfaid o liwiau’n wahanol. Mae gan bryfaid bum math o oleudderbynyddion yn eu llygaid ac rydym wedi modelu’n fathemategol ymatebion y goleudderbynyddion hyn i ddefnyddiau o wahanol liwiau. Rydym hefyd wedi defnyddio ymatebion amcangyfrifedig y goleudderbynyddion hyn i ragweld yn ystadegol sut mae pryfaid tsetse yn cael eu denu i wahanol ddeunyddiau mewn profion maes. Rydym i bob pwrpas wedi edrych ar y byd drwy lygaid pryfyn i werthuso lliw. Mae ein modelau’n dangos bod goleudderbynyddion y pryfyn tsetse yn cyfrannu mewn gwahanol ffyrdd i atyniad: pan fo golau sy’n pelydru o ddefnydd yn cyffroi rhai goleudderbynyddion, mae’n gwneud y defnydd hwnnw’n fwy deniadol. Fodd bynnag, pan fo’n cyffroi goleudderbynyddion eraill, mae’n gwneud y defnydd yn llai deniadol. Felly, yr hyn sy’n allweddol wrth greu defnyddiau mwy deniadol yw sicrhau eu bod yn pelydru golau mewn ffordd sy’n cyffroi i’r eithaf y goleudderbynyddion sy’n cyfrannu’n gadarnhaol, ac yn cyffroi’r goleudderbynyddion sy’n cyfrannu’n negyddol leiaf. Gellir gwneud hyn drwy addasu’r technegau a ddefnyddir eisoes i greu lliwiau fel bod lliwiau paent a defnyddiau’n ymddangos yr un fath i lygaid pobl. Credwn fod gan hyn botensial mawr wrth inni geisio gwella dyfeisiau rheoli pryfaid tsetse.

Rydym yn:

• Datblygu modelau ystadegol sy’n dweud wrthym yn gywir iawn sut mae pryfaid tsetse’n cael eu denu i abwydydd gweledol.
• Defnyddio ein dealltwriaeth fecanistig ynghylch ymddygiad pryfaid tsetse i lunio argymhellion sy’n ymwneud â pheirianneg lliwiau ar gyfer dyfeisiau rheoli pryfaid.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Dr Roger Santer rds5@aber.ac.uk