Anifeiliaid a Phlanhigion IACH

Gwneud y gorau o mathau o geirch ar gyfer gofynion defnyddiwr terfynol

Gwneud y gorau o mathau o geirch ar gyfer gofynion defnyddiwr terfynol

Mae gan IBERS hanes hir o fridio ceirch ac mae’n parhau i ddatblygu mathau sy’n bodloni anghenion y defnyddwyr. Mae ceirch yn cyd-fynd yn dda â systemau âr y DG. Cânt eu defnyddio fel cnwd saib i ostwng clefydau pridd yn y cylchdro cnydau dilynol, ac maen nhw’n gnwd gwerthfawr yn eu hawl eu hunain. Yn ogystal â datblygu mathau sy’n uchel o ran beta-glucan (sy’n lleihau’r risg o glefyd coronaidd y galon mewn pobl), mae gwyddonwyr IBERS hefyd yn gweithio ar optimeiddio mathau o geirch ar gyfer porthiant anifeiliaid. Mae’r DG yn ddibynnol iawn ar borthiant anifeiliaid sy’n cael ei fewnforio (yn bennaf soya o Dde America) ac felly bydd datblygu mathau newydd o geirch fel ffynhonnell porthiant cartref yn lleihau’r broblem hon. Mae’r hyn a elwir yn ‘geirch noeth’ yn fathau lle mae modd tynnu plisgyn y ceirch yn hawdd yn ystod y broses ddyrnu. Mae’r mathau hyn wedi’u bridio ar gyfer lefelau uchel o brotein ac olew, ac maen nhw’n borthiant delfrydol i ddofednod oherwydd ni all dofednod dreulio plisgyn ceirch. Mae cyfran uchel o fraster hefyd yn fantais mewn porthiant ategol i anifeiliaid cnoi cil; caiff y lefel o fethan mewn defaid a gwartheg ei leihau wrth i gynnwys braster eu diet gynyddu. Fodd bynnag, yn wahanol i ddofednod, gall anifeiliaid cnoi cil dreulio plisgyn ceirch yn rhannol, felly’r targed bridio yma yw ceirch gyda phlisgyn lignin isel ac olew uchel. Rydym ni’n gweithio ar y cyd â Senova a AHDB ar dreialon porthiant lle’r ydym ni’n mesur faint o fethan mae anifeiliaid cnoi cil sy’n cael eu bwydo ar fathau newydd o geirch yn ei gynhyrchu, a hefyd yn defnyddio eplesyddion pen desg sy’n dynwared y rwmen i ddeall y ffisioleg sylfaenol yn well. Mae’r datblygiadau hyn yn seiliedig ar ein gwybodaeth well o’r marcwyr moleciwlaidd sy’n gysylltiedig â’r nodweddion porthiant dymunol mewn ceirch fel cynnwys olew uchel. Mae sgrinio epil ar gyfer y marcwyr moleciwlaidd hyn yn broses lawer cyflymach na dulliau ffenoteipio confensiynol a bydd yn caniatáu i ni gynyddu’r cyflymder y bydd y mathau newydd ar gael i ddefnyddwyr. Mae ein gwaith ar geirch hefyd yn manteisio ar y cyfleusterau delweddu yn y Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol yn IBERS, sy’n caniatáu i ni wneud mesuriadau cyflym anninistriol o nodweddion ffisegol dymunol fel goddefiant sychder a chyfradd tyfu.

Rydym yn:

• Cynyddu cyflymder datblygu mathau newydd o geirch gan ddefnyddio technolegau bridio gyda chymorth moleciwlaidd.
• Defnyddio technegau delweddu anninistriol i sicrhau dealltwriaeth fanwl o ymatebion planhigion i straen.
• Integreiddio gwaith ar eneteg sylfaenol planhigion, bridio planhigion a ffisioleg rwmen i fodloni anghenion y diwydiant porthiant anifeiliaid.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r: Dr Catherine Howarth cnh@aber.ac.uk

Dilyniannu genom y feillionen goch

Dilyniannu genom y feillionen goch

‌Mae gwyddonwyr yn IBERS mewn cydweithrediad â Sefydliad Earlham wedi dilyniannu a chydosod genom y feillionen goch

Mae cynnwys protein uchel y feillionen goch yn ei gwneud yn rhywogaeth ddefnyddiol i’w chynnwys  mewn amaethyddiaeth da byw sy’n pori glaswellt. Oherwydd eu gallu i sefydlogi nitrogen atmosfferig, gellir defnyddio codlysiau, fel meillion coch, hefyd wrth gylchdroi cnydau i hybu ffrwythlondeb y pridd a lleihau’r angen i ddefnyddio gwrteithiau nitrogen a gynhyrchir yn ddiwydiannol. Sut mae dilyniannu’r genom yn ein helpu ni? Mae’r dilyniant yn rhoi map manwl i ni o’r holl enynnau a gallwn ddefnyddio’r wybodaeth hon i ddeall yn well sail enetig nodweddion fel cynnyrch, ymwrthedd i glefydau a nodweddion maethol.

Er enghraifft rydym ni wedi adnabod clystyrau allweddol o enynnau sy’n gysylltiedig â nodweddion maethol pwysig fel argaeledd asidau brasterog ac ymddatod protein yn y rwmen. Yn ail, mae’r genom yn cynnig llwyfan ar gyfer adnabod degau o filoedd o’r amrywiadau yn y dilyniant rhwng planhigion unigol. Yr amrywiad genetig hwnnw yw’r deunydd crai sydd ei angen ar fridwyr planhigion i’w ddefnyddio i gynhyrchu cyfuniadau newydd gyda gwell cynnyrch, ymwrthedd i glefydau a threuliadwyedd i dda byw cnoi cil drwy raglenni sy’n croesi. Gellir defnyddio’r cyfoeth o wybodaeth fanwl am y gwahaniaethau genetig rhwng planhigion unigol i ragfynegi perfformiad eu hepil. Pan fydd y rhagfynegiadau hyn yn ddigon cywir, gellir hepgor rhai o’r asesiadau ffenoteipio sy’n cymryd cryn amser. Bydd hyn yn caniatáu i ni gyflymu’r broses fridio a bydd yn golygu bod gwell amrywiadau ar gael i ffermwyr y DG yn gynt na fyddai wedi bod yn wir gyda dulliau bridio planhigion confensiynol.

Mae gan IBERS hanes hir o ddatblygu mathau o gnydau porthiant sy’n llwyddiannus yn fasnachol gan wella perfformiad amgylcheddol a phroffidioldeb wrth gydweithio â’n partner masnachol Germinal.

Rydym yn:

• Defnyddio technegau dilyniannu’r genhedlaeth nesaf i wella ein dealltwriaeth o enomau planhigion allweddol, gan gynnwys y feillionen goch.
• Cynnwys yr wybodaeth hon yn ein rhaglenni bridio cnydau porthiant i gyflymu cynnydd wrth ddatblygu mathau gwahanol.
• Gweithio gyda diwydiant i ddod â mathau newydd i’r farchnad.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r: Dr Leif Skøt lfs@aber.ac.uk

Hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o fridwyr planhigion mewn sgiliau ymchwil sy’n berthnasol i ddiwydiant

Hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o fridwyr planhigion mewn sgiliau ymchwil sy’n berthnasol i ddiwydiant

Mae IBERS yn cyfuno bron i ganrif o arbenigedd bridio planhigion gyda’i rôl fel Athrofa Prifysgol ac rydym ni’n gweithio i sicrhau bod ein cyrsiau israddedig ac uwchraddedig yn bodloni anghenion myfyrwyr a hefyd yn gwarantu cyflenwad cyson o ddarpar gyflogeion i gwmnïau bridio planhigion. Enghraifft o lwyddiant y dull gweithredu hwn yw myfyriwr a raddiodd yn ddiweddar, Lucy Slatter, a fu’n ymchwilio i eneteg hunan-ffrwythlondeb mewn Lolium perenne yn ei thraethawd hir israddedig. Ar ôl cyflwyno’r gwaith mewn cynhadledd ryngwladol yn Zurich (ugeinfed Gyngres Gyffredinol EUCARPIA; Cymdeithas Ymchwil Bridio Planhigion Ewrop) mae wedi dechrau ar swydd gyda chwmni bridio planhigion o’r Almaen yng Nghaergrawnt ac mae’n parhau â’i hastudiaethau bridio planhigion ym Mhrifysgol Wageningen yn yr Iseldiroedd.

Mae rhygwellt lluosflwydd yn hunan-anghydnaws – ni all planhigyn unigol atgenhedlu gyda’i hun er ei fod yn meddu ar organau atgenhedlu gwrywaidd a benywaidd. Mae bridio allan yn cynnal amrywiaeth genetig yn y boblogaeth ac mae harneisio’r amrywiad hwn yn elfen hanfodol o wella cnydau; rydym ni’n dethol rhiant-blanhigion sydd â nodweddion dymunol penodol ac yn ceisio cyfuno’r nodweddion hyn drwy ddethol planhigion mewn cenedlaethau dilynol. Er ei bod yn ddefnyddiol i’r planhigyn fod yn hunananghydnaws mewn ystyr genetig, byddai’r gallu i greu rhiant-boblogaethau sydd wedi’u mewnfridio (h.y. drwy wneud y planhigyn yn hunan-ffrwythlon) yn caniatáu i ni groesi’r rhiant-boblogaethau homosygus i greu glaswelltydd croesryw F1 a fyddai’n ymgorffori geneteg ddefnyddiol y ddwy riant-boblogaeth mewn modd llawer mwy diffiniedig. Byddai hyn yn gwella cyflymder a sicrwydd y broses o greu amrywiaethau newydd yn sylweddol ac ar yr un pryd byddai’n ein helpu ni i ddeall sail eneteg ymnerth croesryw (heterosis). 

Mae dau locws genetig allweddol wedi’u dynodi hyd yma sy’n rheoli’r elfen hunan-anghydnaws mewn rhygwellt lluosflwydd. Er bod y mwyafrif o amrywiadau’n hunan-anghydnaws, mae rhai planhigion mewn gwirionedd yn hunan-ffrwythlon. Roedd traethawd Lucy’n ymchwilio i eneteg yr amrywiadau hyn gan ddarganfod locws genetig cwbl newydd sy’n peri hunan-ffrwythlondeb, a thrwy hynny mae’n gwella ein dealltwriaeth o’r elfen hunananghydnaws a’n cyfle i’w haddasu yn y dyfodol.

Rydym yn:

• Dynodi’r loci genetig sy’n sail i’r elfen hunan-anghydnaws mewn rhygwellt lluosflwydd.
• Addasu’r elfen hunan-anghydnaws i greu amrywiadau croesryw F1
• Darparu cyfleoedd ymchwil arloesol i fyfyrwyr israddedig
• Creu’r genhedlaeth nesaf o fridwyr planhigion sydd â sgiliau a phrofiad sy’n berthnasol i ddiwydiant

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r: Dr Danny Thorogood dnt@aber.ac.uk