Cyflwyniad

Ein cenhadaeth yw gwella iechyd a lles pobl trwy weithgareddau ymchwil, addysg ac ymgysylltu. mhlith y buddsoddiadau newydd yn IBERS ar gyfer 2017 mae labordai ar gyfer patholeg filfeddygol; galluoedd arloesol i leihau effaith amgylcheddol cynhyrchiant anifeiliaid cnoi cil a gwella ansawdd cynhyrchion da byw; rhaglen strategol o ymchwil a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) i wella gwydnwch cnydau yn wyneb newid amgylcheddol a gwleidyddol; a lansiad ein Huned Ymchwil Asesu Lles ac Iechyd sy’n ymgymryd â gweithgareddau ymchwil i hyrwyddo iechyd a lles yn y gymuned. Mae’r Athrofa yn parhau i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o fiolegwyr proffesiynol trwy ei broses addysgu dan arweiniad ymchwil. Ymhlith y rhaglenni newydd a addysgir sy’n gysylltiedig â’r gadwyniechydar gyfer 2017 mae BSc Cadwraeth Bywyd Gwyllt, BSc Bioleg Ddynol ac Iechyd ac MSc Biotechnoleg. Wrth i ni agosáu at 2019 a chanfed pen-blwydd cychwyn bridio planhigion yn Aberystwyth, mae’n addas ein bod yn ymdrin yn briodol yn y tudalennau canlynol â’n hymrwymiad parhaus i wella cnydau. Mae ein safle arweiniol o ran datblygu a defnyddio cnydau lluosflwydd yn cyfrannu at ein cenhadaeth, a gynrychiolir fan hyn gan laswelltau a meillion porthi, a’r glaswellt ynni Miscanthus. Glaswelltiroedd yw sylfaen systemau cynhyrchu bwyd pwysicaf y byd ar sail rhywogaethau lluosflwydd.
O gofio lle rydym ni yng ngorllewin canolbarth Cymru, mae gennym brofiad uniongyrchol o’r ffordd y gall systemau lluosflwydd ddarparu lleoedd trawiadol i fyw a gweithio ynddynt, gan greu lles, gwerth amwynder ac economi wledig amrywiol. Mewn byd ar ôl Brexit, bydd hi’n fwyfwy pwysig defnyddio adnoddau mor effeithlon â phosibl, a diogelu’r ecosystemau y mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt. Mae sawl ffordd y gall cynhyrchiant ein caeau helpu i fodloni gofynion y diwydiannau synthetig, tanwydd a ffibrau, yn ogystal â’r gofynion am fwyd, heb gyfaddawdu ar ein tirwedd a’n treftadaeth. Y tu hwnt i’r cnydau lluosflwydd, mae gennym raglenni ymchwil arwyddocaol ar gyfer ceirch, pys a ffa. Caiff gwelliannau eu gwneud i bob un o’n cnydau er mwyn helpu i fodloni heriau cymdeithasol o ran bwydo poblogaeth sy’n tyfu yn wyneb newid amgylcheddol; gan leihau’n dibyniaeth ar danwydd ffosil ac adnoddau cyfyngedig eraill a datblygu’r bioeconomi o’r sector gwledig. Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, rhaid bod y cynhyrchion yn sicrhau buddiannau i ddefnyddwyr mewn ffordd ddiogel. Ceir sawl enghraifft yn y rhifyn hwn o Bioleg sy’n Cyflawnio’r ffordd y gall ymyrraeth yn y gadwyn fwyd, boed trwy fridio planhigion, datblygu system da byw, neu’r gadwyn brosesu, fod o fantais i gymdeithas. Mae’n bwysig, yn fwy nag erioed, bod ein gwyddor yn cyfrannu at ddarpar gynhyrchiant ond hefyd at ddatblygiad sefydlog a gwydn. Mae Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, ynghyd â nifer fawr o’n partneriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, yn croesawu dulliau amlddisgyblaethol o wella cynaliadwyedd amgylcheddol, diogelwch bwyd, iechyd a lles. Mae’n hanfodol fod buddsoddiad cyhoeddus, masnachol a buddsoddiad mewn myfyrwyr mewn prifysgolion yn cynnig buddiannau sylweddol, pobl ac atebion i fodloni’r heriau y mae cymdeithas yn eu hwynebu. Yn yr Athrofa, rydym yn ymroi i fodloni’r heriau hyn yn uniongyrchol gyda Bioleg sy’n Cyflawni.