Dolenni at brosiectau eraill

Prosiect gan Miranda Whall yw ‘Crossed Paths’ ac mae’n cael ei gyllido gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Darlithydd ac artist cyfoes rhyngddisgyblaethol yn yr Ysgol Gelf ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Miranda Whall. Bydd y prosiect yn cynnig golwg unigryw ar yr ucheldiroedd, a’r hyn mae’n ei olygu i ymdrwytho yn y tirweddau hynny. Bu Miranda’n creu casgliad ffilm Go-Pro o amryw bersbectifau wrth iddi gropian ar hyd llwybrau defaid o’r rhostiroedd grug o gwmpas Pen-y-Garn i’r swyddfeydd ym Mhwllpeiran.


Mae staff Pwllpeiran yn rhan o’r prosiect INTERREG yng Ngorllewin Ewrop, RE-DIRECT (REgional Development and Integration of unused biomass wastes as REsources for Circular products and economic Transformation). Yng Nghymru, mae diddordeb arbennig mewn defnyddio rhywogaethau  o blanhigion ymledol megis rhedyn, brwyn a Molinia (glaswellt y gweunydd).


Menter Mynyddoedd y Cambrian Mae Menter Mynyddoedd y Cambrian yn brosiect eangfrydig sy’n anelu i hyrwyddo mentrau gwledig ac ychwanegu gwerth at gynnyrch a gwasanaethau yng Nghanolbarth Cymru. Symbylwyd y prosiect gan Dywysog Cymru, sydd, fel Llywydd, yn dymuno cynnal ffermydd traddodiadol yr ucheldiroedd, cymunedau gwledig a’r amgylchedd naturiol. Mae dau aelod o staff Menter Mynyddoedd y Cambrian yn gweithio o Bwllpeiran.


Cydweithwyr