Contractau Staff

Gallai aelodau unigol o’r staff fod yn droseddol atebol pe baent yn torri neu’n tramgwyddo’r Ddeddf Gwarchod Data. Y mae’r datganiadau canlynol wedi eu cynnwys ym mhob contract newydd wrth gyflogi staff:

Mae gofyn ichi lynu wrth Bolisi’r Brifysgol ar Warchod Data. Ceir copi o’r polisi hwn yn y Llawlyfr i’r Staff Academaidd a Pherthynol. Ystyrir mai camymddwyn posibl yw methu â dilyn unrhyw un o’r canllawiau ar gasglu, cadw, prosesu neu ddinistrio data personol, boed am aelod arall o staff, myfyriwr arall neu drydydd parti, naill ai’n fwriadol neu’n ddamweiniol, a gall hyn olygu camau disgyblu. Gellir ystyried mai camymddwyn difrifol yw camddefnyddio data yn fwriadol neu’n esgeulus, boed trwy ei ddatgelu’n anghyfreithlon neu fel arall, a gall hyn olygu diswyddo yn y fan a’r lle yn yr achosion mwyaf difrifol.

Deddf Gwarchod Data 1998 - Caniatâd i Brosesu

Yn unol â Deddf Gwarchod Data 1998, dan rai amgylchiadau, y mae’n bosibl y bydd angen caniatâd y gweithiwr a phan fo’r wybodaeth yn sensitif, yn aml bydd angen caniatâd diamwys. Nodwch, wrth ichi dderbyn y cynnig hwn o swydd trwy lofnodi isod, eich bod hefyd yn cytuno trwy’r contract hwn i Brifysgol Aberystwyth brosesu’r cyfryw wybodaeth ag a fydd yn angenrheidiol i weinyddu’n gywir y berthynas gyflogaeth yn ystod cyfnod eich cyflogaeth ac wedyn, ar yr amod bod sylw priodol wedi ei roi i’r cyfryw egwyddorion ar warchod data ag a all fod mewn grym.

Pan fydd angen prosesu gwybodaeth sensitif am resymau gwahanol i’r rhai a nodir uchod, bydd y Brifysgol, lle bo angen, yn gofyn am ganiatâd yr unigolyn cyn ei phrosesu.

Gall hyn gynnwys data am unrhyw un neu’r cyfan o’r canlynol:

Iechyd Meddwl neu Gorfforol, gan gynnwys dyddiadau absenoldeb o’r gwaith oherwydd salwch a’r rheswm am yr absenoldeb; materion sy’n ymwneud â beichiogrwydd ac absenoldeb mamolaeth; dedfrydau troseddol; hil neu darddiad ethnig; cymwysterau; materion disgyblaeth; cyflog pensiynadwy neu gyfraniadau; oed a blynyddoedd gwasanaeth; aelodaeth o undeb llafur cydnabyddedig.

Gall y Brifysgol brosesu’r data hwn am unrhyw un o’r rhesymau canlynol:

Talu cyflog, pensiwn, budd-dâl gwaeledd, neu daliadau eraill sy’n ddyledus dan y contract cyflogaeth; cadw golwg ar absenoldeb neu salwch dan bolisi rheoli absenoldeb neu fedrusrwydd; cyflawni gwaith hyfforddi a datblygu; cynllunio rheolaeth; cyd-drafod â chynrychiolwyr undeb llafur neu staff; cynllunio diswyddiadau neu olyniaeth; cynllunio a threfniadaeth y cwricwlwm; trefnu’r amserlen; cydymffurfio â’r polisi cyfle cyfartal; cydymffurfio â Deddf Gwahaniaethu yn erbyn yr Anabl.