Asesiadau o’r Effaith ar Breifatrwydd

Mae Asesiad o’r Effaith ar Breifatrwydd yn broses a gynlluniwyd i helpu sefydliadau i nodi a lleihau unrhyw risgiau i breifatrwydd a achosir gan wasanaethau, gweithdrefnau neu bolisïau newydd neu ddiwygiedig. Mae ymrwymiadau diogelu data a phreifatrwydd o’r fath yn rhan allweddol o’r ddeddfwriaeth newydd ar ddiogelu data a’i phwyslais ar ‘ddylunio preifatrwydd’, sy’n golygu y dylai pob proses newydd ystyried y goblygiadau o ran diogelu data a phreifatrwydd o’r cychwyn cyntaf, yn hytrach nag ymdrin â hwy fel ôl-ystyriaeth.   

Mae Asesiadau o’r Effaith ar Breifatrwydd yn orfodol o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) ar gyfer prosesau a thechnolegau sy’n debygol o gynyddu neu newid y risgiau i hawliau gwrthrychau data.  

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn argymell y dylid eu hymgorffori i weithdrefnau sefydliadau fel rhan annatod o fabwysiadau dull o weithio sy’n ‘dylunio preifatrwydd’. Gall Asesiadau o’r Effaith ar Breifatrwydd helpu i nodi materion yn ymwneud â phreifatrwydd neu ddiogelwch data a’u datrys yn gynnar yn y broses.

Mae cod ymarfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar gynnal asesiadau effaith ar breifatrwydd i’w gael yma: https://ico.org.uk/for-organisations/guide-to-data-protection/guide-to-the-general-data-protection-regulation-gdpr/data-protection-impact-assessments-dpias/

I weld a oes angen cynnal asesiad o’r fath, llenwch y ffurflen ganlynol: Asesiadau o’r Effaith ar Breifatrwydd – Ffurflen Sgrinio

Os bydd angen cynnal Asesiad o’r Effaith ar Breifatrwydd, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen Asesiad o’r Effaith ar Breifatrwydd.

Am gyngor mwy penodol cysylltwch â’r Rheolwr Diogelu Data a Hawlfraint ar infogovernance@aber.ac.uk