Gwybodaeth yn Ymwneud ag Unigolion Nad Ydynt yn Aelodau o'r Brifysgol (e.e. Gwybodaeth Ymchwil)

Os oes gan fyfyrwyr hawl i gael mynediad i ffeiliau sy’n cynnwys data personol, rhaid i’r arolygydd - a fydd yn un o weithwyr y Brifysgol - sicrhau bod gofynion Deddf Gwarchod Data 1998 yn cael eu parchu. Lle bynnag y bo’n bosib, dylid dad-bersonoli data fel na all myfyrwyr adnabod y gwrthrych.

Nid yw data sy’n cael ei gadw i bwrpas ymchwil neu ystadegol yn agored i’w weld gan wrthrych y wybodaeth, os nad yw’r data’n cael ei ddefnyddio neu ei ddatgelu i unrhyw bwrpas arall, nac yn cael ei ddatgelu ar ffurf sy’n peri bod modd adnabod y gwrthrych yn bersonol.