Cyflogadwyedd

94% o israddedigion DU/UE o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a raddiodd yn 2016 mewn cyflogaeth neu addysg bellach chwe mis ar ôl graddio (HESA 2018)
Yn y lle cyntaf, bydd astudio ar gyfer gradd mewn gwleidyddiaeth ryngwladol yn cynnig cyfle i chi ddyfnhau eich dealltwriaeth o faterion sy'n greiddiol i weithrediad y byd cyfoes: pwer, gwrthdaro, moeseg, diogelwch a chyfranogiad. Ond ar yr un pryd, bydd cwrs gradd mewn gwleidyddiaeth ryngwladol yn caniatau i chi ddatblygu a mireinio ystod o sgiliau – sgiliau llafar, ysgrifenedig, dadansoddol a rhyngbersonol - sy'n gwbl hanfodol os am lwyddo mewn marchnad lafur hynod gystadleuol. Erbyn diwedd eich cyfnod yn Aberystwyth byddwch yn medru mynd ati'n hyderus i werthuso problemau cymhleth a chyflwyno dadansoddiad beirniadol, boed mewn adroddiad ysgrifenedig neu mewn cyflwyniad llafar.
Mae graddedigion o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth ddatblygu gyrfaoedd, a hynny yng Nghymru, Prydain neu'n rhyngwladol. Ymhlith y llwybrau mwyaf poblogaidd mae
- Y gwasanaeth sifil (Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a llywodraeth leol);
- sefydliadau rhyngwladol (NATO, yr Undeb Ewropeaidd a’r Cenhedloedd Unedig);
- mudiadau anllywodraethol (Amnest Rhyngwladol, Oxfam, Cyfeillion y Ddaear);
- ymchwil wleidyddol, gyda chwmnïau preifat yn ogystal ag yn y Cynulliad Cenedlaethol, Senedd San Steffan neu Senedd Ewrop
- gyrfa yn y lluoedd arfog
- gyrfa yn y cyfryngau (fel newyddiadurwyr neu gyflwynwyr radio neu deledu)
- y gyfraith
- byd addysg
Dewis poblogaidd arall yw parhau ym maes addysg uwch, a bob blwyddyn mae nifer da o raddedigion yn dewis aros i astudio am radd Feistr neu PhD yn ysgol uwchraddedig nodedig yr Adran.