Teyrnged i Mike Foley (1948-2016)

Gyda thristwch mawr yr ydym yn nodi marwolaeth yr Athro Mike Foley.

‌Mynychodd Mike Ysgol St Benedict yn Ealing, Llundain ac aeth ymlaen i dderbyn gradd BA mewn Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol o Brifysgol Keele, ac MA mewn Theori Wleidyddol, Cymdeithaseg Wleidyddol a Llywodraeth UDA a PhD o Brifysgol Essex. Ymunodd â staff academaidd Aberystwyth ym 1974, pan gafodd ei benodi’n Ddarlithydd mewn Llywodraeth a Gwleidyddiaeth America yn yr Adran Wleidyddiaeth gynt. 

Mae enw da Mike fel un o’r prif ymchwilwyr yn ei faes yn aruthrol. Enillodd glod am ei gyhoeddiadau o’r cychwyn cyntaf yn ei yrfa academaidd: cyhoeddwyd ei draethawd ymchwil PhD ar drawsnewidiad Senedd yr Unol Daleithiau gan Wasg Prifysgol Yale, ac fe’i gosodwyd ar restr fer Gwobr Woodrow Wilson Cymdeithas Gwyddor Gwleidyddiaeth America yn 1981. Roedd ei ymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar wleidyddiaeth UDA, gan gynnwys gwleidyddiaeth arlywyddol, theori gyfansoddiadol, polisi tramor a hanes syniadau. Mae ei lyfr ar The British Presidency: Tony Blair and the Politics of Public Leadership yn cymhwyso dirnadaethau a ddatblygodd yn sgil blynyddoedd o astudio gwleidyddiaeth America i gyd-destun gwahanol, ac fe gyhoeddwyd ei lyfr diweddaraf, Political Leadership: Themes, Contexts and Critiques, gan Wasg Prifysgol Rhydychen yn 2013, gan ennyn parch mawr.

Nid oedd cyfraniad Mike i’r brifysgol wedi’i gyfyngu i ymchwil ac addysgu, er mor sylweddol y bu’r cyfraniadau hynny. Yng nghanol yr 1980au ef oedd Is-ddeon y Gyfadran. Pan ad-drefnwyd strwythur y sefydliad tua diwedd yr 1980au, ymunodd â’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, a oedd newydd ei ehangu wedi iddi gael ei huno â’r Adran Wleidyddiaeth. Ers y 1990au cyflawnodd amrywiaeth o rolau arweiniol yn yr adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, gan gynnwys Cyfarwyddwr Astudiaethau Graddedig a Chyfarwyddwr Ymchwil, ac yn fwyaf diweddar Pennaeth Dros Dro ac yna Pennaeth yr Adran.

Bydd cydweithwyr a myfyrwyr yn cofio Mike fel athro ymroddgar, ymchwilydd ymroddedig, ac fel dyn hynod garedig a meddylgar. Cynigiodd glust gydymdeimladol i sawl cenhedlaeth o fyfyrwyr, a pharodrwydd i wrando ar eu problemau ac i gynnig cymorth moesol ac ymarferol. Roedd Mike yn ddyn tawel a chanddo feddwl praff a synnwyr hiwmor sych. Bydd colled fawr ar ei ôl.

Date: Mer, 17 Awst 2016 12:42:00 BST